“Mae’r Gymraeg a’i diwylliant yn rhan enfawr o Coffi Dre ac felly roedd yn benderfyniad naturiol i ni ddewis enw parth .cymru.” – Ceurwyn Humphreys
“Mi wnes i brynu enw parth .wales gan mai enw’r cwmni ydy Happy Yoga Wales ac felly roedd yn gwneud synnwyr. Dw i hefyd yn falch o fod yn Gymraes, a dw i’n hoffi ei fod yn enw parth gwahanol i’r .com neu .co.uk, ac mae’n hawdd ei gofio.” – Paula Roberts
“Drwy gydol fy ngyrfa, mae un peth wedi aros yn gyson, sef gwefan i glymu popeth at ei gilydd, o rannu dyddiadau byw, y siop ar-lein, cerddoriaeth, fideos geiriau caneuon ac ati. Dw i’n falch o allu defnyddio enw parth .cymru ers y cychwyn.”
– Y Welsh Whisperer
Roedd hi’n bwysig i dîm CRWST ddangos eu bod yn falch o’u treftadaeth, a dyna pam y gwnaethon nhw ddewis defnyddio enw parth .cymru.
Gyda’i gwreiddiau mor ddwfn yng nghefn gwlad Cymru, roedd hi’n gam naturiol i’r tîm sicrhau’r enwau parth .cymru a .wales.
Gyda sylfaen cwsmeriaid amrywiol, roedd sicrhau enw parth .cymru yn elfen allweddol o strategaeth farchnata Banc Datblygu Cymru.
I’r rhan fwyaf o gwmnïau newydd, mae creu gwefan sy’n gallu cyfathrebu ei wasanaethau a’i werthoedd craidd yn llwyddiannus yn flaenoriaeth. Yn achos Afallen, roedd hyn yn golygu cofrestru parth .cymru.
Roedd y sianel ymhlith y cyrff cynta’ i ddefnyddio’r enw .cymru ac mae hefyd ar y blaen wrth ddatblygu gwasanaethau Cymraeg ar y We.
Credai Robin bod y ffaith bod parth .cymru yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol yn cynnig cyfle i fusnesau yng Nghymru.
Gydag enw fel Nom Nom, mae’n amlwg pa mor flasus yw eu siocled a gyda pharth .cymru, mae gwreiddiau a lleoliad y cwmni’r un mor amlwg cyn i chi hyd yn oed cyrraedd y gwefan.
© Nominet UK 2024