CRWST

.cymru yn helpu CRWST i rannu’u treftadaeth

Sefydlwyd CRWST yn 2018 gan Catrin Parry Jones ac Osian Wyn Jones.

Mae CRWST yn cynhyrchu bwyd a diod o safon gan ddefnyddio’r cynnyrch lleol gorau sy’n cael ei weini i’r lefel uchaf o wasanaeth cwsmeriaid. Mae’r tîm, sy’n gweini brecinio, coffi, melysion, a bara ffres sydd wedi’i bobi yn ei bopty ei hun oddi ar y safle, yn falch o gynnig profiad modern yn nhref draddodiadol Aberteifi.

Sefydlodd Catrin ac Osian, sy’n mwynhau popeth am fwyd, y cwmni oherwydd roedden nhw am ddod â rhywbeth arbennig i’w tref enedigol er mwyn i’r gymuned gyfan ei fwynhau.

Ac nid y bara oedd yr unig beth roedden nhw’n awyddus i’w ddangos. Roedden nhw’n meddwl ei bod yn hynod bwysig dangos eu bod yn falch o’u treftadaeth, ac felly dyna pam y gwnaethon nhw ddewis defnyddio’r enw parth .cymru – crwst.cymru.

“Roedden ni am bwysleisio ein bod ni’n fusnes o Gymru, yn enwedig gan ein bod ni’n Gymry Cymraeg”, meddai Catrin Parry Jones, cyd-Gyfarwyddwr CRWST.

Fel sawl un arall sy’n dewis defnyddio’r enwau parth .cymru a .wales, mae’n caniatáu i fusnes gyfleu’r neges i’w gwsmeriaid yn syth ei fod yn frand o Gymru. Mae hyn yn gwella enw da’r cwmni fel un sy’n falch o iaith, diwylliant a hunaniaeth Cymru.

Addasu yn ystod COVID-19

Gan mai caffi yw CRWST, bu’n rhaid iddyn nhw gau eu drysau am bron i chwe mis oherwydd COVID-19.

Er mwyn cadw’r brand a’r busnes i fynd dros y cyfnod heriol yma, roedd gofyn i’r tîm arloesi. Fe wnaethon nhw benderfynu lansio siop ar-lein gan ddefnyddio’r enw parth .cymru, gan werthu amrywiaeth o gynnyrch, bara a thoes ffres a phecynnau pobi i bob rhan o Brydain. Roedd y cynllun yn llwyddiant, ac mae’r galw am gynnyrch bendigedig CRWST – sy’n cael ei ddosbarthu’n uniongyrchol i ddrysau cwsmeriaid – wedi parhau ers hynny.

Cafodd Osian, sef prif gogydd CRWST, ei enwi’n ‘Arwr Bara’ yn 2020 am ei gyfraniad i’r gymuned yn ystod COVID-19.

Defnyddiwch ein peiriant chwilio i weld a yw eich enw parth delfrydol chi ar gael heddiw.

mwy o lwyddiannau

Happy Yoga Wales
Read
National Botanic Garden of Wales
Read
Sianel Pedwar .cymru!
Read

© Nominet UK 2024