National Botanic Garden of Wales

Gardd fwyaf poblogaidd Cymru yn dangos ei gwreiddiau ag enwau parth .cymru a .wales

Lleolir Gardd Fotanegol Genedlaethol Cymru yng nghefn gwlad hardd Sir Gaerfyrddin, ac mae’n cynnwys casgliad anhygoel o dros 8000 o fathau o blanhigion, mewn dros 560 erw o gefn gwlad hardd.

Bob blwyddyn, bydd miloedd o ymwelwyr yn ymweld â’r amrywiaeth ysblennydd o erddi thematig, y tŷ gloynnod byw trofannol, y warchodfa natur a thŷ gwydr bwa sengl mwyaf y byd. Agorwyd yr atyniad yn 2000, a dyma’r ardd sy’n denu’r nifer fwyaf o ymwelwyr yng Nghymru.

Mae presenoldeb ar-lein yr Ardd yn hanfodol er mwyn denu rhagor o ymwelwyr a lledaenu ei henw da ledled y byd. Fel rhan o’i buddsoddiad rheolaidd yn ei phroffil digidol, bellach mae gan yr ardd ei henwau parth Cymreig ei hun – garddfotaneg.cymru a botanicgarden.wales.

Yn ôl David Hardy, Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru:

“Roedd hi’n wych gallu cael yr enwau parth newydd hyn, sy’n fyr, yn syml ac yn Gymreig. Maent yn cyd-fynd â’n huchelgeisiau fel sefydliad cenedlaethol a rhyngwladol, ac yn sicrhau hunaniaeth ddiwylliannol gryfach i’n gwefan.

Ac mae’r dewis o ddefnyddio naill ai .cymru neu .wales yn sicrhau fod gan ein hymwelwyr o Gymru fwy o gyfle nag erioed i ymgysylltu a rhyngweithio â ni yn yr iaith o’u dewis. Mae hyn yn neilltuol o bwysig oherwydd rydym yn dymuno cynyddu nifer ein dilynwyr ar gyfryngau cymdeithasol yn genedlaethol. Bellach, gallwn ni ddathlu’r elfen Gymreig yn ein holl weithgarwch ar-lein.”

 

Defnyddiwch ein peiriant chwilio i weld a yw eich enw parth delfrydol chi ar gael heddiw.

mwy o lwyddiannau

Happy Yoga Wales
Read
CRWST
Read
Theatr Genedlaethol
Read

© Nominet UK 2024