Sut rydyn ni’n defnyddio cwcis

Rydyn ni’n ymwybodol iawn o’r ymddiriedaeth rydych chi’n ei rhoi ynddon ni, a’n cyfrifoldeb i ddiogelu eich preifatrwydd. Fel rhan o’r cyfrifoldeb yma, rydyn ni’n rhoi gwybod i chi pa wybodaeth rydyn ni’n ei chasglu wrth ddefnyddio cwcis a thechnolegau tebyg pan fyddwch chi’n defnyddio ein gwefannau, pam rydyn ni’n ei chasglu a sut rydyn ni’n ei defnyddio i wella’ch profiad. 

Cwcis 

Ffeiliau testun bach yw cwcis mae gwefannau’n eu cadw’n lleol yn eich cyfrifiadur, sy’n caniatáu i wefannau storio a defnyddio gwybodaeth yn ystod eich ymweliad. Gallan nhw wella eich profiad wrth ddefnyddio gwefan drwy wneud y canlynol: 

  • Cofio dewisiadau, fel bod dim rhaid i chi ail-gofnodi eich dewisiadau pan fyddwch yn ymweld y tro nesaf 
  • Mesur sut rydych chi’n defnyddio gwefan, fel y gellir gwneud newidiadau i sicrhau ei bod yn bodloni’ch anghenion 

Ni ellir defnyddio dim o’r cwcis a ddefnyddir ar gyfer ein gwefannau i’ch adnabod yn bersonol. Maen nhw’n cael eu defnyddio i helpu i wneud y wefan yn well i chi. I ddysgu rhagor am gwcis a sut i’w rheoli, ewch i http://aboutcookies.org/ neu https://www.allaboutcookies.org/. Darllenwch ymlaen i ddysgu rhagor am sut rydyn ni’n defnyddio cwcis. 

Sut mae Nominet yn defnyddio cwcis a thechnolegau tebyg 

Mae prif wefan Nominet, nominet.uk a microwefannau cysylltiedig (e.e. theukdomain.uk ac eincartrefarlein.cymru a nominetcyber.com) yn defnyddio cwcis mewn sawl man, ac rydyn ni wedi eu rhestru isod gyda rhagor o fanylion ynghylch pam rydyn ni’n eu defnyddio a pha mor hir y byddan nhw’n para. 

Gallwch ofyn i’ch porwr gwe wrthod pob cwci neu roi gwybod pan fydd cwci’n cael ei anfon, ond mae’n bosib na fydd rhai nodweddion neu wasanaethau ar wefan yn gweithio’n iawn heb gwcis. 

Rydyn ni hefyd wedi rhestru isod bicseli a sgriptiau olrhain sy’n cael eu defnyddio ar ein gwefan; nid yw’r rhain yn cael eu storio ar eich porwr ond maen nhw’n cyflawni pwrpas tebyg o ran ein helpu i ddeall sut rydych yn defnyddio ein gwefan, ac ni ellir defnyddio dim o’r rhain i’ch adnabod yn bersonol.  

Cwcis, picseli a sgriptiau amrywiol 

Enw  Disgrifiad  Hyd Math Parth
__cf_bm Defnyddir y cwci yma i wahaniaethu rhwng bodau dynol a botiau. Mae hyn yn fuddiol i’r wefan, er mwyn gwneud adroddiadau dilys ar y defnydd o’r wefan. 30 munud Swyddogaethol .vimeo.com
vuid I storio hanes defnydd y defnyddwyr Dwy flynedd  Ystadegau .vimeo.com

Mesur defnydd ein gwefan – Google Analytics 

Dim ond i olrhain ystadegau defnydd dienw rydyn ni’n defnyddio cwcis parti cyntaf Google Analytics, a dydyn ni ddim yn casglu gwybodaeth bersonol y gellir ei defnyddio i’ch adnabod chi. Mae hyn yn ein helpu i ddadansoddi data am ddefnydd o’r wefan a gwella ein gwefan fel bod modd i ni ei theilwra i anghenion cwsmeriaid. 

Mae Google Analytics yn storio gwybodaeth am ba dudalennau rydych chi’n ymweld â nhw, pa mor hir ydych chi ar y wefan, sut wnaethoch chi gyrraedd yma a beth rydych chi’n clicio arno. Dydyn ni ddim yn caniatáu i Google ddefnyddio na rhannu ein data dadansoddol. 

Mae Google Analytics yn gosod y cwcis parti cyntaf canlynol: 

Enw Disgrifiad Hyd Math Parth
_ga Mae’r cwci _ga, sy’n cael ei osod gan Google Analytics, yn cyfrifo data ymwelwyr, sesiynau ac ymgyrchoedd a hefyd yn cadw cofnod o ddefnydd y wefan ar gyfer adroddiad dadansoddeg y wefan. Mae’r cwci yn storio gwybodaeth yn ddienw ac yn aseinio rhif a gynhyrchir ar hap i adnabod ymwelwyr unigryw.  Dwy flynedd  Dadansoddeg  .eincartrefarlein.cymru
_gid Mae’r cwci _gid, sy’n cael ei osod gan Google Analytics, yn storio gwybodaeth am sut mae ymwelwyr yn defnyddio gwefan, tra hefyd yn creu adroddiad dadansoddeg o berfformiad y wefan. Mae peth o’r data a gesglir yn cynnwys nifer yr ymwelwyr, eu ffynhonnell, a’r tudalennau maen nhw’n ymweld â nhw’n ddienw.  Diwrnod  Dadansoddeg  .eincartrefarlein.cymru
_gat_UA-38431724-2 Mae hwn yn amrywiad o’r cwci _gat sy’n cael ei osod gan Google Analytics a Google Tag Manager i ganiatáu i berchnogion gwefannau olrhain ymddygiad ymwelwyr a mesur perfformiad gwefan. Mae’r elfen patrwm yn yr enw yn cynnwys rhif adnabod unigryw’r cyfrif neu’r wefan mae’n berthnasol iddi.  Munud  Dadansoddeg  .eincartrefarlein.cymru
_ga_43J1WXMRDG Caiff y cwci yma ei osod gan Google Analytics  Dwy flynedd  Dadansoddeg  .eincartrefarlein.cymru

Nid yw Google Analytics yn casglu dim gwybodaeth bersonol, fel y nodir yn eu polisi preifatrwydd. Mae Google hefyd yn cynnig ategyn porwr sy’n caniatáu i ddefnyddwyr optio allan o’u dadansoddeg.  

Gwella cynllun ein gwefan – Hotjar 

Yn ogystal â Google Analytics rydyn ni’n defnyddio Hotjar i olrhain defnydd dienw ar ffurf mapiau gwres a theithiau defnyddwyr, ac fel o’r blaen dydyn ni ddim yn casglu gwybodaeth bersonol y gellir ei defnyddio i’ch adnabod chi. Mae hyn yn ein helpu i nodi lle gallwn wella cynllun ein gwefan er mwyn helpu defnyddwyr i ddod o hyd i’r wybodaeth maen nhw’n chwilio amdani. 

Mae Hotjar yn gosod y cwcis parti cyntaf canlynol: 

Enw Disgrifiad Hyd Math Parth
_hjFirstSeen Mae Hotjar yn gosod y cwci yma i nodi sesiwn gyntaf defnyddiwr newydd. Mae’n storio gwerth gwir/anwir, gan nodi ai dyma’r tro cyntaf i Hotjar weld y defnyddiwr yma.  30 munud  Dadansoddeg  .eincartrefarlein.cymru
_hjIncludedInSessionSample Mae Hotjar yn gosod y cwci yma i gael gwybod a yw defnyddiwr wedi’i gynnwys yn y samplu data a ddiffinnir gan derfyn sesiynau dyddiol y wefan.  Dwy funud  Dadansoddeg  .eincartrefarlein.cymru
_hjIncludedInPageviewSample Mae Hotjar yn gosod y cwci yma i gael gwybod a yw defnyddiwr wedi’i gynnwys yn y samplu data a ddiffinnir gan derfyn ymweliadau tudalen y wefan.  Dwy funud  Dadansoddeg  .eincartrefarlein.cymru
_hjAbsoluteSessionInProgress Mae Hotjar yn gosod y cwci yma i ganfod sesiwn ymweliadau tudalen gyntaf defnyddiwr. Baner Gwir/Anwir a osodir gan y cwci yw hwn.  30 munud  Dadansoddeg  .eincartrefarlein.cymru
_hjSession_446612 Cwci  30 munud  Arall  .eincartrefarlein.cymru
_hjSessionUser_446612 Er mwyn storio rhif adnabod unigryw defnyddiwr.  1 year Arall  .eincartrefarlein.cymru

Pryderon cyfredol gyda chwcis 

Mae sawl defnydd dilys o gwcis er mwyn gwella hwylustod ac effeithlonrwydd. Fodd bynnag, gall peth defnydd o gwcis arwain at bryderon preifatrwydd. Mae’r pryderon yma fel arfer yn dod i’r amlwg pan fydd cwci yn cadw gwybodaeth bersonol sy’n eich adnabod chi (e.e. enw unigolyn, cyfeiriad e-bost, gwybodaeth bilio, cyfeiriad neu debyg), neu’n cael ei ddefnyddio ar draws mwy nag un wefan i olrhain defnyddwyr a’u defnydd o’r rhyngrwyd. 

Nid yw nominet.uk yn defnyddio dim un o’i gwcis parti cyntaf i gadw gwybodaeth bersonol nac olrhain defnyddwyr ar draws mwy nag un wefan. Ar rai o’n gwefannau rydyn ni’n defnyddio teclynnau rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol gan drydydd partïon sy’n gosod cwcis trydydd parti, sy’n eich galluogi i rannu cynnwys drwy rwydweithiau cymdeithasol. Os yw cynnwys yn cael ei rannu â gwefan trydydd parti, mae sut y bydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio gan y trydydd parti yn cael ei lywodraethu gan ei bolisi preifatrwydd ei hun, a dydyn ni ddim yn gyfrifol am hyn (na’r mathau o gwcis a thechnolegau tebyg a ddefnyddir gan y wefan trydydd parti). 

Mae pryderon eraill sydd gan rai defnyddwyr yn ymwneud â phreifatrwydd, ac yn arbennig y cwcis trydydd parti hynny a gynhyrchir gan hysbysebwyr sy’n olrhain gweithgarwch pori ar draws gwahanol wefannau. Ar gyfer pob cwci, mae camau y gallwch eu cymryd i reoli eich dewisiadau defnyddiwr o ran sut mae’r rhain yn cael eu gosod. 

Sut mae rheoli neu ddiffodd cwcis? 

Gallwch reoli’r cwcis sy’n cael eu storio ar eich cyfrifiadur, neu eu diffodd yn gyfan gwbl, drwy osodiadau eich porwr gwe. Byddwch yn ymwybodol y gallai hyn effeithio ar eich profiad pori neu hyd yn oed eich atal rhag defnyddio gwasanaethau penodol, er enghraifft rhai sydd â dulliau mewngofnodi diogel, sy’n gofyn am osod cwcis er mwyn gweithio. 

Bydd pob porwr gwe modern yn gadael i chi newid eich gosodiadau cwcis er mwyn rhoi rheolaeth eang i chi ynghylch a ellir gosod cwcis ai peidio. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r adran gymorth ar gyfer y porwr gwe rydych chi’n ei ddefnyddio. 

Dyma rai o’r porwyr gwe mwyaf poblogaidd: 

Gosodiadau cwcis yn Internet Explorer
Gosodiadau cwcis yn Firefox
Gosodiadau cwcis yn Chrome
Gosodiadau cwcis yn Safari 

Os ydych yn pryderu am gwcis trydydd parti a gynhyrchir gan hysbysebwyr, gallwch ymweld â gwefan YourOnlineChoices sy’n eich galluogi i ddiffodd rhain. 

Mae’r Fenter Hysbysebu Rhwydwaith hefyd yn darparu rheolaethau optio allan ar gyfer hysbysebion wedi’u targedu gan rwydweithiau hysbysebu aelodau’r Fenter Hysbysebu Rhwydwaith. 

Cofiwch fod llawer mwy o rwydweithiau wedi’u rhestru ar y Fenter Hysbysebu Rhwydwaith na’r rhai rydyn ni’n eu defnyddio yn Nominet. 

Rhagor o wybodaeth am gwcis a thechnolegau tebyg 

I gael rhagor o wybodaeth am sut i reoli cwcis a’u defnydd, ewch i wefan About Cookies. 

I gael gwybodaeth am y ddeddfwriaeth ddiweddaraf ar gwcis a thechnolegau tebyg, ewch i wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO). 

Diweddarwyd y dudalen yma ddiwethaf ar 8 Chwefror 2023.

© Nominet UK 2024