Sefydlwyd cwmni Happy Yoga Wales yn 2020 gan y perchennog Paula Roberts. Mae Paula yn arbenigo mewn addysgu pobl sy’n teimlo o dan straen, yn bryderus neu sydd angen ymlacio.
Mae gan Happy Yoga Wales bresenoldeb cryf iawn ar-lein gan gynnwys sianel YouTube lle mae Paula yn uwchlwytho sesiynau wedi’u recordio ymlaen llaw, ac mae hi hefyd yn cynnig dosbarthiadau hybrid wythnosol, sy’n cael eu ffrydio’n fyw ac wyneb yn wyneb yn Llandudno. Mae Paula yn cynnal dosbarthiadau sy’n addas i ddechreuwyr a rhaglenni un-i-un ar sail ‘talu beth allwch chi’ i gefnogi gwerthoedd y gymuned o hygyrchedd. Mae ganddi brofiad amrywiol yn addysgu plant ac oedolion ag anghenion ychwanegol ac mae’n gobeithio bod hwn yn rhan o’r busnes y gall ei harchwilio ymhellach.
Fe ddechreuodd hi’r busnes yn wreiddiol er mwyn gwneud i eraill deimlo’n hapus a’u helpu i deimlo llonyddwch ac i ymlacio. Ei ffocws ar gyfer y busnes yw cynhwysiant a hygyrchedd, ac mae’n credu bod cael enw parth Cymreig yn annog y neges yma drwy gyfeirio ei busnes at y rhai sy’n lleol ac o fewn cyrraedd.
“Mi wnes i brynu enw parth .wales gan mai enw’r cwmni ydy Happy Yoga Wales ac felly roedd yn gwneud synnwyr. Dw i hefyd yn falch o fod yn Gymraes, a dw i’n hoffi ei fod yn enw parth gwahanol i’r .com neu .co.uk, ac mae’n hawdd ei gofio.”
– Paula Roberts
Addasu i COVID-19
Dechreuodd Paula ei busnes yn ystod y cyfnod clo, felly roedd y rhan fwyaf o’i haddysgu yn digwydd ar-lein. Unwaith i’r sesiynau wyneb yn wyneb gael eu hailgyflwyno, rhoddodd gyfle iddi barhau i addysgu ac ehangu ar ei busnes wyneb yn wyneb ac yn rhithwir.
“Fwy na thebyg na fyswn i wedi llwyddo i gael cymaint o ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol pe na bawn i wedi dechrau fy nghwmni yn ystod y cyfnod clo, felly mewn ffordd mae wedi fy helpu.”
– Paula Roberts
Defnyddiwch ein peiriant chwilio i weld a yw eich enw parth delfrydol chi ar gael heddiw.
© Nominet UK 2024