Gymdeithas Pêl-droed Cymru

FAW.cymru yn sgorio ar y cae ac ar-lein

Mae hi’n flwyddyn bwysig i Gymdeithas Pêl-droed Cymru. Mae tîm pêl droed Cymru yn sgorio ar lwyfan pêl droed byd-eang am y tro cyntaf ers 1958 ac maen nhw hefyd yn sgorio yn y byd ar-lein.

Gyda Chymru’n chwarae ym Mhencampwriaeth Ewrop am y tro cyntaf eleni, mae Cymdeithas Pêl-droed Cymru wedi ail lansio eu gwefan a pha gyfeiriad gwell i wefan tîm pêl-droed Cymru ond www.faw.cymru?

Fel dywedai Ian Gwyn Hughes o’r Gymdeithas, mae’r parth newydd yn cynnig hunaniaeth wahanol i’r un roedd ganddynt yn y gorffennol. Mae’n briodol i unrhyw un sydd eisiau dangos eu bod o rywle gwahanol ac eisiau dangos eu balchder yng Nghymru.

“Pan feddyliwch ein bod wedi cyrraedd Pencampwriaeth Ewrop eleni, mae yn 24 gwlad, gan gynnwys ni, felly mae’n cynnig cyrhaeddiad anferthol. Gall pobl gweld nad rhan fach o Loegr ydym ond bod gennym hunaniaeth ein hunain a dwi’n credu ei fod yn ehangu apêl Cymru a Chymreictod ac yn dangos ein bod yn wlad fodern, egnïol. Fel cymdeithas, byddem yn ei argymell i unrhyw un.”

 

Defnyddiwch ein peiriant chwilio i weld a yw eich enw parth delfrydol chi ar gael heddiw.

mwy o lwyddiannau

Sêl Bendith Llywodraeth i .cymru
Read
Amgueddfa Cymru
Read
National Botanic Garden of Wales
Read

© Nominet UK 2024