Sêl Bendith Llywodraeth i .cymru

Ers i’r parthau newydd i Gymru lansio yn 2014, roedd Llywodraeth Cymru ymysg y cyntaf i gefnogi’r cyfle ar-lein newydd hwn ac arwain y ffordd ar gyfer y sector gyhoeddus, busnes a thwristiaeth yng Nghymru gan newid i barthau newydd: www.llyw.cymru a www.gov.wales.

Ac mae cyrff cyhoeddus drwodd draw wedi dilyn arweiniad y Llywodraeth wrth newid i’r parthau gyda .cymru yn cynnal gwefannau’r sectorau twristiaeth, diwylliant, bwyd, iechyd a busnes, gan helpu hyrwyddo Cymru yng Nghymru ac yn fyd-eang mewn byd sy’n gynyddol yn symud ar-lein.

Wrth gydnabod arwyddocâd y parthau Cymreig, dywedodd Ysgrifennydd Cabinet dros yr Economi a Seilwaith, Ken Skates AC, “Mae Nominet wedi gwneud gwaith gwych gyda’r enwau parth .cymru a .wales. Rydym wedi gweld gymaint of fusnesau’n addasu eu gwefannau i .cymru .wales, gan gynnwys Llywodraeth Cymru.

“Yr hyn sy’n nodweddiadol yn yr 21 ganrif yw ein bod gyda golwg lleol a byd-eang erbyn hyn ac mae cynnig .cymru fel enw parth yn cynnig cyfle i hyrwyddo rhywbeth arbennig ar lwyfan byd-eang.”

 

Defnyddiwch ein peiriant chwilio i weld a yw eich enw parth delfrydol chi ar gael heddiw.

mwy o lwyddiannau

Banc Datblygu Cymru
Read
National Botanic Garden of Wales
Read
Sianel Pedwar .cymru!
Read

© Nominet UK 2024