Afallen

Afallen yn cryfhau gyda .cymru

I’r rhan fwyaf o gwmnïau newydd, mae creu gwefan sy’n gallu cyfathrebu ei wasanaethau a’i werthoedd craidd yn llwyddiannus yn flaenoriaeth. Yn achos Afallen, roedd hyn yn golygu cofrestru parth .cymru.

Mae Afallen yn fusnes yng Nghymru sy’n arbenigo mewn ymgynghori amlddisgyblaethol ar gyfer cymunedau a mentrau cynaliadwy. Lansiwyd y busnes ym mis Mai 2019, â ffocws cryf ar gyflenwi mewn perthynas â Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol.

Yn angerddol am gefnogi cyflenwyr lleol lle bynnag y bo modd, mae’r cwmni newydd yn gweithio’n agos gyda busnesau ac ymgynghorwyr unigol ledled Cymru gyfan. Mae’r tîm hefyd yn cefnogi sefydliadau ar draws y DU, ac mae ganddo uchelgeisiau ar lefel ryngwladol.

Pan ddechreuodd y tîm o dri ar eu taith, roeddent yn gwybod y byddai darparu gwasanaeth dwyieithog i gleientiaid yn rhan sylfaenol o’u cynnig. Yn naturiol, roedd cael parth gwe .cymru yn dangos eu dealltwriaeth a’u hymrwymiad i’r iaith Gymraeg.

Nid oes amheuaeth nad yw’r cwmni ar gynnydd. Ar hyn o bryd mae’r tîm yn gweithio tuag at achrediad amgylcheddol, ac maent yn bwriadu ceisio am achrediad seiberddiogelwch – mae’n amlwg y bydd y flwyddyn nesaf yn gyffrous.

“Mae cael parth gwe .cymru yn eich gwreiddio fel cwmni neu sefydliad yng Nghymru, ac mae gwerth y parth i’r brand yn bwysig iawn.”

“Mae .cymru yn agor drysau, felly i ni, roedd yn benderfyniad hawdd. Ni wnaethom erioed ystyried unrhyw enw parth arall, ni wnaethom erioed ystyried unrhyw beth arall. Rydym yn hapus iawn â’r penderfyniad.”

“Wrth i gofrestru parthau Cymreig barhau i gynyddu, rwy’n dychmygu mai hwn fydd y cynnig diofyn i sefydliadau a busnesau yng Nghymru yn y dyfodol. Os yw’ch marchnad yn bennaf yng Nghymru, mae’n hanfodol cymryd .wales a .cymru.”

 

Defnyddiwch ein peiriant chwilio i weld a yw eich enw parth delfrydol chi ar gael heddiw.

mwy o lwyddiannau

CRWST
Read
WRU
Read
Welsh Whisperer
Read

© Nominet UK 2024