Cafodd brand y ‘Welsh Whisperer’ ei greu yn 2015 gan Andrew Walton ar gyfer ei bersona diddanwr fel perfformiwr gwerin-pop-canu gwlad, cyflwynydd radio a phersonoliaeth teledu.
I’r rhai ohonoch chi sy’n anghyfarwydd â’r cymeriad, mae’r Welsh Whisperer yn teithio ac yn perfformio cerddoriaeth werin a chanu gwlad ar deledu a radio. Dechreuodd y Welsh Whisperer berfformio i gynulleidfaoedd lleol mewn cymunedau gwledig pan ddaeth yn boblogaidd ar ôl rhyddhau ei albwm ‘Y Dyn o Gwmfelin Mynach’. Arweiniodd y llwyddiant yma mewn cymunedau lleol at gynnydd mewn gwerthiant a ffigurau ffrydio a thyfodd ei boblogrwydd. Yn dilyn ei lwyddiant, mae’r Welsh Whisperer wedi ennill nifer o ddilynwyr o blith pobl â gwreiddiau Cymreig ledled y byd, yn enwedig yng ngweddill Prydain, yr Unol Daleithiau, Awstralia a Seland Newydd.
Addasu yn ystod Covid-19
Fel unigolyn sy’n rhan o’r diwydiant adloniant, profodd y Welsh Whisperer effeithiau Covid. Cafodd gwerth blwyddyn o sioeau byw eu canslo a gohiriwyd digwyddiadau wyneb yn wyneb. Roedd hyn yn golygu bod hyrwyddo ar-lein yn hollbwysig. Canolbwyntiodd y Welsh Whisperer ei ymdrechion ar gynyddu nifer yr ymwelwyr â’i siop ar-lein a defnyddiodd ei sianeli cyfryngau cymdeithasol i gadw mewn cysylltiad â chynulleidfaoedd yn ddigidol ac yn fyd-eang, tra nad oedd modd i ni fynychu digwyddiadau yn y cnawd.
Pam enw parth .cymru?
“Mae bod ag enw parth .cymru wedi dangos i fi bod defnyddio’r enw parth yn gallu bod yn llwyddiannus o ran denu traffig o bob cwr o’r byd – dw i wedi postio cynnyrch y Welsh Whisperer ledled Ewrop ac i’r Unol Daleithiau, Awstralia a Seland Newydd.”
“Drwy gydol fy ngyrfa, mae un peth wedi aros yn gyson, sef gwefan i glymu popeth at ei gilydd, o rannu dyddiadau byw, y siop ar-lein, cerddoriaeth, fideos geiriau caneuon ac ati. Dw i’n falch o allu defnyddio enw parth .cymru ers y cychwyn.”
– Y Welsh Whisperer
Defnyddiwch ein peiriant chwilio i weld a yw eich enw parth delfrydol chi ar gael heddiw.
© Nominet UK 2024