Coffi Dre

.cymru yn amlygu treftadaeth Coffi Dre

Sefydlwyd Coffi Dre yn 2021, ar ôl anterth pandemig COVID-19, gan griw o ffrindiau da; Ceurwyn Humphreys, Haydn Riley Walsh a Thomas Graham.

Mae Coffi Dre yn dathlu diwylliant, treftadaeth ac iaith gyfoethog Cymru drwy goffi rhost artisan. Maen nhw wedi cael llawer o lwyddiant yn ddiweddar drwy eu siop ar-lein (coffidre.cymru) a threlar coffi symudol, sy’n teithio i ddigwyddiadau ledled y gogledd ac sydd hefyd yn cyflenwi siopau a busnesau lleol.

Cafodd Ceurwyn y syniad i sefydlu Coffi Dre ar ôl teimlo ei fod yn barod am rywbeth gwahanol i’w yrfa bresennol fel Peiriannydd Gweithrediadau. Roedd y diwydiant coffi wedi bod o ddiddordeb mawr iddo erioed, ac fel yfwr coffi brwd teimlai mai coffi oedd y ffordd i wneud y newid.

 

Nid dim ond coffi mae Coffi Dre yn angerddol amdano, maen nhw hefyd eisiau pwysleisio a dathlu’r Gymraeg.

“Mae’r Gymraeg a’i diwylliant yn rhan enfawr o Coffi Dre ac felly roedd yn benderfyniad naturiol i ni ddewis enw parth .cymru.”

“Mae ein gwefan wedi bod yn rhan allweddol o Coffi Dre drwy roi gwybod i bawb ble fyddwn ni efo’r trelar a galluogi pobl i brynu ein coffi ar-lein. Rydyn ni’n falch o gael enw parth .cymru.”

– Ceurwyn Humphreys

Addasu yn ystod COVID-19

Cafodd y busnes ei sefydlu tua diwedd y cyfnod clo yn ystod pandemig COVID-19, a roddodd gyfle enfawr iddyn nhw fasnachu’n lleol ac ar-lein, pan nad oedd pobl yn gallu mynd i’r busnes i brynu coffi.

Defnyddiwch ein peiriant chwilio i weld a yw eich enw parth delfrydol chi ar gael heddiw.

mwy o lwyddiannau

Happy Yoga Wales
Read
Afallen team
Afallen
Read
WRU
Read

© Nominet UK 2024