Portmeirion

Portmeirion.cymru yn cynnig blas o’r Eidal

Portmeirion.cymru & Portmeirion.wales

 

Yn swatio ymysg coed a thirwedd naturiol aber yr afon Dwyryd mae pentref Cymreig Eidalaidd Portmeirion, un o brif atyniadau twristaidd Cymru. Gydag oddeutu 220,000 o ymwelwyr blynyddol o bob cwr o’r byd, mae sicrhau bod presenoldeb ar-lein Portmeirion yn adlewyrchu eu brand Cymreig yn bwysig iawn iddyn nhw.

“Mae’n bwysig iawn bod gennym ni parth .cymru ar gyfer Portmeirion oherwydd rydym yn teimlo’n rhan o’r wlad a bod Cymru yn rhan bwysig o’n natur ni fel lleoliad. Ac wedyn mae’n rhywbeth sy’n cryfhau brand Cymru ac yn atgyfnerthu a chryfhau brand ni fel Portmeirion.” Meddai Robin Llywelyn, Rheolwr Cyfarwyddwr Portmeirion.

Credai Robin bod y ffaith bod parth .cymru yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol yn cynnig cyfle i fusnesau yng Nghymru.

“Dwi’n credu bod cofrestru .cymru a .wales yn gyfle arbennig i lawer o gwmnïau yng Nghymru yn enwedig os oes ganddyn nhw enwau sydd wedi eu cymryd gan bobl eraill efo enwau tebyg. Mae o’n rhoi cyfle unigryw oherwydd nid o fewn Cymru yn unig mae’r parth yn cael ei gydnabod felly buaswn yn argymell pobl i gofrestru’r parth yna ac unrhyw barthau eraill sy’n berthnasol i’w henw nhw.”

 

Defnyddiwch ein peiriant chwilio i weld a yw eich enw parth delfrydol chi ar gael heddiw.

mwy o lwyddiannau

CRWST
Read
Coffi Dre
Read
WRU
Read

© Nominet UK 2024