Nid cyrchfan twristiaeth gyffredin mo Hangar 5, gyda’r trampolinau cysylltiedig, y waliau ar ongl, y llwyfannau rholio drosodd, rhwydi pêl-fasged ‘slam dunk’, bagiau paffio a bag awyr triciau.
Sefydlodd y cwmni arloesol ei hun fel y parc trampolîn cyntaf yng Nghymru, felly roedd hi’n ddigon naturiol disgwyl y bydden nhw’n dymuno cael enw parth newydd cyffrous, fel yr esbonia Kevin Howells, Cyfarwyddwr yn Hangar 5:
“Fe wnaethon ni ddewis enw parth .cymru yn syml am mai cwmni sy’n falch o ddod o Gymru ydyn ni, ac am mai ni yw’r parc trampolîn cyntaf yng Nghymru, roedden ni eisiau cael enw parth oedd yr un mor unigryw a chofiadwy. Rydyn ni’n cael y rhan fwyaf o’n harchebion ar lein, felly mae cael presenoldeb cryf ar lein yn golygu popeth i’r cwmni – po fwyaf amlwg yw ein henw parth ar gyfer cwsmeriaid, y gorau ar gyfer y busnes.
“Fel cwmni newydd, roedden ni’n un o’r cwmnïau cyntaf i gofleidio enw parth .cymru ac ers i ni’i fabwysiadu, rydym ni wedi cael ambell ymholiad oddi wrth fusnesau lleol eraill syn dymuno cael un hefyd. Rydym ni’n byw mewn rhan wladgarol iawn o Gymru, felly mae busnesau wedi bod yn awyddus iawn i ddangos eu hunaniaeth Gymreig – ac roedd y broses mor hawdd nes bod pob un ohonyn nhw wedi newid drosodd. Basem ni’n bendant yn argymell i fusnesau Cymru newid i enw parth .cymru a manteisio ar yr holl bethau cadarnhaol sy’n dod yn ei sgil.”
Defnyddiwch ein peiriant chwilio i weld a yw eich enw parth delfrydol chi ar gael heddiw.
© Nominet UK 2024