Evans Pharmacy

.wales yn allweddol i ddatblygiadau technolegol Evans Pharmacy

Gyda thechnoleg yn gynyddol yn chwarae rhan allweddol yng ngwaith fferyllfeydd, mae’r cwmni Cymreig, Evans Pharmacy, yn sicrhau eu bod o flaen y gad ddigidol. Gyda fferyllydd robot, “app” ffôn symudol a gwasanaeth archebu presgripsiynau arlein, mae Evans Pharmacy yn sicr yn manteisio ar y cyfleoedd ddaw gyda thechnolegau newydd ac mae eu parth evanspharmacy.wales yn rhan allweddol o hynny.

“Rydym wedi gweld twf aruthrol mewn technoleg yn y byd fferyllol ac rydym eisiau sicrhau bod Cymru nid yn unig yn cadw fyny gyda’r datblygiadau hyn ond yn cymryd yr awenau. Mae cael presenoldeb arlein yn hanfodol i hynny ac roedd enw parth .wales yn ddelfrydol i ni.” Meddai Cameron Nazemi, Rheolwr TG Evans Pharmacy.

Evans Pharmacy yw un o gadwyni fferyllfeydd mwyaf Cymru gyda 12 fferyllfa ar hyd de Cymru o Gasnewydd draw i Ddinbych y Pysgod ac yn sicr, maent yn falch iawn o’u gwreiddiau Cymreig.

“Mae ein busnes yn Gymreig ac yn falch o  hynny ac mae’r parth yn helpu ni ddangos pa mor falch ydym o’n hunaniaeth Gymreig a lle wnaethom sefydlu. Mae ein cwsmeriaid wrth eu boddau bod ein cyfeiriad we mor wladgarol, ac mae hyd yn oed wedi ein gwneud yn fwy poblogaidd na’n cystadleuwyr lleol; maent eisiau cefnogi cwmni lleol gyda “Wales” yn rhan o’r cyfeiriad we. Rydym yn parhau i dyfu fel cwmni a bellach mae’r parth .wales yn rhan hanfodol o hynny.”

Defnyddiwch ein peiriant chwilio i weld a yw eich enw parth delfrydol chi ar gael heddiw.

mwy o lwyddiannau

Swyddle
Read
Sianel Pedwar .cymru!
Read
Coffi Dre
Read

© Nominet UK 2024