Erbyn heddiw, mae dros 23,000 o barthau yn defnyddio .cymru neu .wales, a gyda’r holl wefannau sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru yn defnyddio is-barthau llyw.cymru a gov.wales, byddwch yn ymuno â llwyth o fusnesau, mentrau a phrosiectau personol eraill o Gymru sy’n defnyddio parth .cymru neu .wales i fynd ag ychydig bach mwy o Gymru i’r we.
Mae’n bosib defnyddio parth Cymru ar gyfer mwy na dim ond e-bost. Gallwch ddefnyddio’ch parth .cymru neu .wales i gynnal cyfeiriad gwefan proffesiynol, gan gryfhau’ch brand a’ch hunaniaeth ar-lein ac ychwanegu cysondeb ar draws eich portffolio ar-lein.
Beth am ddechrau chwilio heddiw? Gallwch chwilio am yr enwau parth .cymru a .wales sydd ar gael yma.