Busnesau Cymreig yn cael blaenoriaeth ar gyfer parthau .cymru a .wales o heddiw ymlaen

Heddiw, fe fydd busnesau sy’n gweithredu yng Nghymru yn mynd i flaen y ciw ar gyfer parthau .cymru a .wales newydd. I’r rheiny sydd yn awyddus i hyrwyddo eu cysylltiad â “Brand Cymru”, fe fydd ceisiadau’n agor am hanner dydd ar 3 Tachwedd ac yn cau am hanner dydd 24 Rhagfyr 2014.

Gall deunydd hysbysu/ marchnata, gwefannau, papurach a lluniau cael eu defnyddio gan fusnesau i ddangos eu bod yn gymwys ar gyfer yr enw parth a’u bod yn ei ddefnyddio’n weithredol yng Nghymru, neu ddatganiad wedi ei arwyddo gan gyfreithiwr DU neu gyfreithiwr nod masnach. Os oes mwy nag un cais gymwys ar gyfer yr un enw parth, fe fydd angen iddo fynd i ocsiwn. Ceir manylion llawn am y broses dilysu yma.

Mae’r parthau .cymru a .wales newydd eisoes wedi dechrau mynd yn fyw. Cynulliad Cenedlaethol Cymru oedd y cyntaf i lansio’r parthau newydd ym mis Medi ac mae yna gefnogaeth gref gan sawl sefydliad, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, S4C, Chwaraeon Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bach, tîm rygbi’r Scarlets, Undeb Rygbi Cymru, Stadiwm y Mileniwm, Cyngor Celfyddydau Cymru, Golwg360, Bloc, Gwalia, Atlantic PLC, Orchard a Phortmeirion.

Wrth i fusnesau Cymreig ddewis y parthau newydd i bwysleisio eu cysylltiadau Cymraeg, mae ymchwil yn dangos bod 70% o ddefnyddwyr Cymraeg yn datgan ffafriaeth am .cymru a .wales yn hytrach na pharthau poblogaidd eraill megis .com.

Ar ôl 29 Rhagfyr 2014, fe fydd modd i unrhyw un wneud cais am enw parth  sydd ddim wedi cael ei gofrestru yn ystod cyfnodau cynharach. Fe fydd enwau parth sydd yn derbyn mwy nag un cais yn mynd i ocsiwn.

Fe fydd Argaeledd cyffredinol yn dechrau ar Ddydd Gŵyl Dewi, 1 Mawrth 2015.

Related blog posts

Dewch i Gymreigio’r we gydag enw parth .Cymru
Read
Busnesau Cymru’n medi manteision .cymru a .wales
Read
Sut i roi eich busnes newydd ar-lein
Read

© Nominet UK 2024