Dewch i Gymreigio’r we gydag enw parth .Cymru

Lansiodd Nominet, y sefydliad sydd wedi bod yn gyfrifol am redeg yr enw parth .uk ers 20 mlynedd, yr enwau parth lefel uchaf .cymru a .wales ym mis Mawrth 2015.

Mae gan 87% o gartrefi Cymru fynediad i’r rhyngrwyd, ac mae 94% o’r bobl sy’n defnyddio’r rhyngrwyd yn gwneud hynny bob dydd. Mae hyn yn dangos bod y rhyngrwyd yn adnodd hollbwysig o ran cadw cymunedau Cymru mewn cysylltiad â’r byd. Pa ffordd well o gadw mewn cysylltiad na gydag enw parth .cymru a .wales?

Mae nifer o fantesion dros brynu enw parth .cymru ar gyfer eich busnes:

Dangos hunaniaeth eich brand

Drwy ddefnyddio enw parth .cymru neu .wales, rydych chi’n dangos yn syth eich bod yn frand o Gymru; yn atgyfnerthu eich enw da fel cwmni gwladgarol sy’n daer dros hunaniaeth a diwylliant Cymru a’r Gymraeg.

Nid yn unig mae hyn yn cynnig ffordd unigryw i’ch busnes o werthu’i hunan, ond bydd eich busnes hefyd yn plesio cenhedlaeth sy’n frwd dros Gyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol wrth wneud ymdrechion i hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymru.

Gwella eich safle SEO

Mae buddsoddi mewn enw parth .cymru a .wales yn ffordd wych o ddenu traffig i’ch gwefan, yn enwedig os ydych chi’n awyddus i ddenu cwsmeriaid o Gymru. Er enghraifft, mae defnyddio enw parth .cymru neu .wales yn cynyddu pa mor berthnasol yw’ch gwefan. Felly, gallai cyfraddau clicio eich safle fod yn uwch, ac os yw cyfraddau clicio eich safle yn uwch, bydd Google yn edrych yn fwy ffafriol ar eich gwefan.

Gan mai cynhyrchu mwy o draffig yw bwriad popeth rydyn ni’n ei wneud ar-lein, byddai defnyddio enw parth .cymru yn ffordd syml o ychwanegu llinyn newydd i’ch strategaeth farchnata ddigidol.

Gwerthwch eich hun fel brand blaenllaw o Gymru

Wrth i gymuned busnesau newydd Cymru barhau i dyfu, mae’n fwy pwysig nag erioed i chi sefyll allan fel busnes modern. Mae’n bosib mai prynu enw parth .cymru neu .wales yw’r unig beth sydd ei angen arnoch i godi uwchlaw busnesau tebyg.

I lawer o bobl, yr enwau parth fwyaf cyffredin fyddai .com a .co.uk, felly byddai defnyddio enw parth .cymru yn dangos eich bod ar flaen y gad pan ddaw hi at faes marchnata digidol sy’n datblygu’n barhaus.

Fu erioed amser gwell i greu gwefan. Ni all busnesau fforddio peidio â bod ar-lein, yn enwedig ers y cynydd mewn disgwyliadau digidol sydd gan brynwyr eleni yn sgil Covid-19. Eisoes yn 2020, mae cynnydd o 47% wedi bod yn nifer y cofrestriadau newydd ers 2019* – sy’n helpu’r busnesau hynny i sefyll allan ac i gael eu cydnabod fel sefydliadau blaenllaw.

Erbyn hyn, mae ffordd syml a fforddiadwy o rannu eich brwdfrydedd dros eich treftadaeth Gymreig, felly dewch i weld os yw eich enw parth delfrydol ar gael heddiw.

*Cynnydd o 47% mewn cofrestriadau newydd ar gyfer y flwyddyn galendr i Awst 2020.

Related blog posts

Busnesau Cymru’n medi manteision .cymru a .wales
Read
Building blocks
11 cyngor ar gyfer creu eich gwefan gyntaf
Read
Sut i ddewis yr enw parth .cymru a .wales perffaith
Read

© Nominet UK 2024