…Cymreigiwch eich gwefan heddiw am lai na chost cwpaned o goffi
Drwy fis Awst a mis Medi, bydd yn haws nag erioed o’r blaen i ddangos eich Cymreictod ar lein drwy eich gwefan eich hunan, ac mae’n fwy fforddiadwy nag erioed. Mae Nonimet, y cwmni y tu ôl i’r enwau parth Cymreig .cymru a .wales wedi ymuno â nifer o gofrestrwyr enwau parth i gynnig pris hyrwyddo arbennig am ffioedd cofrestru’r flwyddyn gyntaf ar bob parth cymru a .wales. Mae’r cofrestrwyr hyn yn cynnig yr enwau parth Cymreig am brisiau arbennig iawn – o cyn lleied â thua £1.20* – ac mae help ar gael i fusnesau ac unigolion gofrestru eu gwefan neu eu cyfeiriad ebost Cymreig.
Ers eu lansio yn 2015, mae’r enwau parth gwladgarol wedi arddangos hunaniaeth, diwylliant ac iaith Cymru. Eisoes, mae mwy na 20.000 o enwau parth .cymru a .wales wedi’u cofrestru ac mae’r gyfradd uchel o 85% o ail gofrestriadau’n dyst i awydd pobl i gael .cymru neu .wales fel rhan allweddol o’u hunaniaeth ar lein.
Mae rhai o gwmnïau mwyaf adnabyddus Cymru wedi dewis cyhwfan baner Cymru ar lein, gan gynnwys Trenau Aviva Cymru, Ffederasiwn y Busnesau Bychan, Undeb Rygbi Cymru, Llywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru, Cymdeithas Pêl-droed Cymru ac erbyn hyn hefyd, Distyllfa Penderyn. O ganlyniad, mae llawer yn dathlu’r llwyddiant o ddenu rhagor o ymwelwyr neu gynnydd mewn traffig ar lein.
Wrth sôn am benderfyniad Distyllfa Penderyn i roi parth .wales ar eu gwefan, dywedodd Stephen Davies, y Prif Weithredwr, fod hynny’n hanu o dreftadaeth Penderyn. “Mae’n golygu cynhyrchu gwirodydd gyda’r gorau yn y byd. I wneud hynny, mae’n rhaid i chi gael stori sy’n gafael. Rydyn ni’n sôn am Gymru pan fyddwn ni’n sôn am Benderyn. Rydyn ni’n sôn am chwedlau Cymru ac am yr hanes a’r diwylliant cyfoethog sydd gennym ni. Mae gennym ni gynnyrch ardderchog.
“Estyniad o hyn yw cael enw parth .wales. Rydyn ni eisiau i bawb yng Nghymru wybod ein bod yn gwmni sy’n falch o’n Cymreictod ac rydyn ni eisiau apelio at bobl Cymru ac at bobl dros y byd i gyd. Mae’n rhaid i’r neges ymestyn yn rhyngwladol. Gyda phresenoldeb .wales ar lein, gallwn gyfleu o ble rydyn ni’n dod. Mae bod yng Nghymru yn rhan wirioneddol bwysig o’r stori honno i ni”.
Mae .cymru a .wales yn enwau parth sydd yn y 10* uchaf yn Ewrop, gyda Llundain a Berlin ar y brig, sy’n dangos presenoldeb cynyddol Cymru ar lein. Gyda llai na 21% o boblogaeth Cymru’n siarad Cymraeg, gall cynnal a magu gwreiddiau Cymreig ymestyn ymwybyddiaeth o hunaniaeth Cymru o ran busnes ac iaith.
Meddai Helen Tomes, Elinor Bradley, Cyfarwyddwr a Darparu Gwasanaeth Nominet, sy’n rhedeg enwau parth .cymru a .wales: “Mae yna lawer iawn o fanteision o fod ar lein, megis cynnydd mewn ymwybyddiaeth brand a bachu busnes newydd. Mae canmoliaeth ar lafar yn wych, ond, yn gynyddol, mae darpar gwsmeriaid eisiau ‘blasu cyn prynu’ ac, yn amlach na pheidio, mae hynny’n golygu cael golwg ar eich gwefan wrth benderfynu. I’r busnesau hynny sydd eisiau amlygu eu cysylltiadau neu eu treftadaeth Gymreig, cael enw parth .cymru neu .wales yw’r ffordd berffaith o ddangos eu tarddiad Cymreig i’r byd.”
Dylai busnesau sydd eisiau gadael i’r farchnad wybod o ble maen nhw’n gweithio, eu bod yn falch o fod yng Nghymru ac sy’n ystyried cael enw parth .cymru neu .wales ymweld â www.eincartrefarlein.cymru/cynnig
Nodiadau i olygyddion:
Ynghylch .cymru / .wales a Nominet
Cwmni’r rhyngrwyd yw Nominet yn darparu buddion cyhoeddus gyda thîm o 150 o bobl yn gweithio o Rydychen a Llundain ac sydd â mwy na 2,500 o aelodau. Mae Nominet yn rhedeg un o gofrestrau cȏd gwladol mwya’r byd ac yn rheoli ac yn rhedeg mwy na 10 miliwn o enwau parth yn gorffen gyda .uk. Nominet hefyd sy’n rhedeg Parthau Lefel Uchaf Cymru (.cymru a .wales) ac mae’n darparu gwasanaeth cofrestru i Barthau Lefel Uchel eraill, gan gynnwys .bbc. Mae mwy na 3 miliwn o fusnesau, a miliynau yn rhagor o gwsmeriaid, yn dibynnu ar ei wasanaethau cofrestrfa parth. Gyda chynnyrch i fusnes cofrestrfa lwyddiannus, sefydlodd Nominet, ac mae’n cefnogi, ei sefydliad elusennol sy’n ariannu technoleg i brosiectau da.
Ynghylch y cynnig
*Cafodd yr enwau parth .cymru a .wales eu lansio gan Brif Weinidog Cymru ar 1 Mawrth 2015. Mae’r enwau’n gyfle i ddewis cartref ar lein sy’n cynrychioli pobl, hunaniaeth ac iaith Cymru. Mae yna saith cofrestrfa’n cymryd rhan, pob un yn cynnig enw parth o gyn lleied â £1+TAW yr un am y flwyddyn gofrestru gyntaf. Eu pris arferol yw £10.99 am y flwyddyn gyntaf.
*Ffynhonnell: Dadansoddiad data gan Nominet ar 30 Mehefin 2917. Gan ddefnyddio data gan nTDLstsats, dadansoddodd Nominet nifer y cofrestriadau yn neg prif barthau daearyddol Ewrop.
Safle & gTLD:
1 .london | 2 .berlin | 3 .Moscow (combined) | 4 .bayern | 5 .Cologne (combined) | 6 .amsterdam | 7 .hamburg | 8 .paris | 9 .wales .cymru (combined) | 10 .wien
© Nominet UK 2024