Gyda’r holl newidiadau rydyn ni wedi’u profi yn 2020, mae’n deg dweud ei bod hi mor bwysig ag erioed i fod â phresenoldeb ar-lein.
Hyd yn oed os yw eich busnes newydd yn un sy’n ddibynnol ar leoliad go iawn, mae bod â phresenoldeb ar-lein yn hanfodol er mwyn sicrhau bod darpar gwsmeriaid yn gallu dod o hyd i chi, i ddysgu amdanoch chi ac i gysylltu â chi.
Pwrpas y blogiad yma yw dangos i chi pa gamau sydd eu hangen i roi eich busnes ar-lein – a’r newyddion da yw bod hynny’n haws nag ydych chi’n ei feddwl.
I ddechrau, bydd angen gwefan arnoch chi. Mae gwefan fel ffenestr siop rithiol a phamffled wedi’u cyfuno â’i gilydd, ac yn gartref i’ch busnes ar-lein.
I ddechrau, bydd angen enw parth arnoch chi. Yn ddelfrydol, dylech ddewis enw eich busnes ar gyfer hyn, ond mae llawer mwy o gyngor i chi yn yr erthygl yma am sut i ddewis yr enw parth perffaith. Pan fyddwch chi’n barod, gallwch brynu enw parth.
Un ffordd o sicrhau enw parth cwbl unigryw yw dewis enw parth .cymru neu .wales. Mae’r enwau parth yma’n creu cyfle gwirioneddol i dargedu’r farchnad yng Nghymru, codi ymwybyddiaeth o’ch busnes a rhannu eich angerdd dros dreftadaeth Cymru.
Dysgwch ragor am fanteision prynu eich enw parth .cymru eich hun. Gallwch ddefnyddio’r blwch chwilio isod i weld a yw eich enw parth delfrydol ar gael heddiw.
Use the search box to check if your ideal domain name is available to buy
Below is a selection of registrar partners for you to choose from, all of them will be able to guide you through the whole processes of purchasing your domain.
Y newyddion da yw nad oes angen i chi fod yn ddatblygwr gwefannau na thalu crocbris i ddylunydd gwefannau er mwyn creu gwefan.
Mae safleoedd fel Wix, WordPress a Squarespace yn hwyluso’r broses ddylunio i chi, ac yn cynnig miloedd o dempledi ‘themâu’ (sy’n aml am ddim) i chi – templedi sy’n bosib eu haddasu a chynnwys eich gwybodaeth eich hun ynddyn nhw heb orfod gwybod dim byd am sut i adeiladu gwefan. Mae hynny’n golygu mai’r unig beth sydd angen i chi feddwl amdano yw strwythur eich gwefan, a’r geiriau a’r delweddau y byddwch yn eu gosod arni.
Mae’n rhaid i chi gael tudalen hafan sy’n rhoi cyflwyniad i’ch busnes a’ch gwasanaethau ac sy’n ffordd i’ch cwsmeriaid gysylltu â chi. Yn seiliedig ar natur eich busnes, mae’n bosib y byddai safle un dudalen yn ddigon, ond gallech ei droi’n safle mwy cynhwysfawr drwy ychwanegu tudalennau newydd, er enghraifft:
Os ydych chi’n gwerthu cynnyrch, mae’n werth ystyried ychwanegu nodwedd e-fasnachu i’ch gwefan. Byddai hyn yn golygu bod gennych siop ar-lein sydd ar agor 24 awr y dydd lle byddai modd i’ch cwsmeriaid osod archebion heb orfod ymweld â’ch lleoliad go iawn.
Mantais hyn fyddai eich galluogi chi i ehangu eich sylfaen cwsmeriaid, ond cyn galluogi’r nodwedd yma, byddai angen sicrhau bod y logisteg gennych i sicrhau y gallwch gyflawni archebion ar-lein.
Nid dim ond creu gwefan sy’n bwysig er mwyn sefydlu eich presenoldeb ar-lein, er bod hynny’n fan cychwyn pwysig. Er mwyn ehangu eich busnes, bydd angen ffyrdd i’ch cwsmeriaid ryngweithio â chi ac i ddarpar gwsmeriaid newydd allu dod o hyd i chi ar-lein.
Gan fod bron pawb yn treulio llawer o amser ar y cyfryngau cymdeithasol erbyn hyn, os ydych chi am i’ch busnes gysylltu a rhyngweithio â’ch cwsmeriaid a’ch darpar gwsmeriaid, mae bod ar y cyfryngau cymdeithasol yn fan cychwyn amlwg.
Mae’n bwysig cofio na fydd pob llwyfan cyfryngau cymdeithasol yn gweddu i bob busnes – a phan fyddwch chi’n gwmni newydd ac amser yn brin, fydd dim llawer o amser gennych chi i reoli eich sianeli cymdeithasol.
Am y rhesymau hynny, mae’n bwysig dewis eich llwyfan cyfryngau cymdeithasol yn ofalus cyn mynd ati i adeiladu presenoldeb arno. Er enghraifft:
Gallwch ddarllen mwy am hyn yn yr erthygl yma am ba lwyfan cyfryngau cymdeithasol sy’n addas ar gyfer fy musnes newydd.
Unwaith y byddwch wedi dewis y llwyfan cywir ac wedi creu eich proffil newydd, bydd angen i chi bostio’n rheolaidd, cysylltu â chyfrifon eraill a bod yn barod i ymateb i sylwadau y byddwch yn eu cael – y mwyaf o ymdrech y byddwch yn ei rhoi i’ch llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, y mwyaf y cewch chi allan ohonyn nhw.
Darllenwch fwy am ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i ddatblygu eich busnes yn y canllaw strategaeth cyfryngau cymdeithasol ar gyfer busnesau bach, a dysgwch sut i ddenu dilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol a chryfhau eich brand ar-lein.
Ar ôl creu llwyfan cyfryngau cymdeithasol, os oes gennych gyllideb, gallwch ddefnyddio hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol i hysbysebu eich busnes i gynulleidfa darged benodol iawn, ar sail lleoliad, demograffeg, diddordebau a mwy.
Mae hysbysebion Facebook yn un o’r gwasanaethau mwyaf cynhwysfawr yn hynny o beth – gwyliwch y fideo yma am y pedwar math gwahanol o hysbysebion Facebook ar gyfer busnesau bach a chanolig i ddysgu rhagor.
Nid cyfryngau cymdeithasol yw’r unig le marchnata sydd ar gael i chi ar ôl sefydlu eich presenoldeb ar-lein. Ffordd arall o dyfu eich busnes yw drwy farchnata dros e-bost, sy’n parhau i fod yn un o’r ffyrdd mwyaf poblogaidd o farchnata ar-lein.
Mae’n gweithio drwy greu rhestrau postio o gwsmeriaid ac anfon negeseuon e-bost rheolaidd atyn nhw sydd â chynnwys defnyddiol a/neu gynnyrch a allai fod o ddiddordeb iddyn nhw.
Oherwydd deddfwriaeth GDPR ddiweddar, mae angen caniatâd penodol gan eich cwsmeriaid cyn eu hychwanegu nhw at restr bostio, ond gallech ddefnyddio ffurflen ar eich gwefan yn annog pobl i gofrestru i dderbyn e-byst, neu os oes gennych leoliad go iawn, gofynnwch iddyn nhw gofrestru yn eich siop.
Gallwch ddarllen rhagor am gynllunio cynnwys eich negeseuon e-bost a sut i fynd ati i adeiladu rhestr bostio yn y canllaw yma ar farchnata dros e-bost i fusnesau bach.
Unwaith y byddwch wedi creu eich presenoldeb ar-lein, byddwch am wneud y mwyaf o hynny drwy ei hyrwyddo – yn benodol, eich gwefan. Mae llawer o ffyrdd o wneud hyn, ac un o’r rhai mwyaf effeithiol yw drwy optimeiddio peiriannau chwilio, neu SEO.
Ystyr hyn yw optimeiddio eich gwefan fel ei bod yn ymddangos yn uwch mewn canlyniadau peiriannau chwilio, er enghraifft Google. Fel arfer, mae canlyniadau sy’n ymddangos yn uwch yn golygu mwy o draffig i’ch gwefan, felly mae galw mawr am ganlyniadau uwch. Mae hyn wedi’i rannu’n ddau edefyn gan amlaf:
Optimeiddio ar y wefan – mae hyn yn cynnwys addasu eich gwefan fel bod peiriannau chwilio yn gallu ei deall yn well a defnyddio allweddeiriau i gynyddu pa mor berthnasol yw’ch gwefan mewn canlyniadau rydych chi am ymddangos ynddyn nhw.
Optimeiddio oddi ar y wefan – mae hyn yn golygu creu dolenni o wefannau eraill i’ch gwefan chi, gan fod rhain yn cael eu gweld fel ardystiadau gan beiriannau chwilio.
Er mwyn cael cyngor defnyddiol am SEO a sut i godi eich gwefan mewn canlyniadau chwilio, darllenwch y cyngor SEO ar gyfer gwefannau newydd yma.
Strategaeth arall er mwyn hyrwyddo eich presenoldeb ar-lein yw rhoi cynnig ar farchnata cynnwys. Y syniad tu ôl i hyn yw creu cynnwys gwerthfawr sy’n ddefnyddiol i bobl er mwyn meithrin cysylltiadau newydd gyda phobl a fydd yna’n cofio am eich arbenigedd pan fyddan nhw angen eich busnes.
Er enghraifft, os yw’ch busnes yn gwerthu llenni, gallai eich strategaeth marchnata cynnwys ganolbwyntio ar ysgrifennu erthyglau am bynciau dylunio mewnol. Porwch drwy’r erthyglau yma am farchnata cynnwys i gael llawer o gyngor am ddefnyddio’r strategaeth yma i dyfu eich busnes.
Mae llwyddiant eich presenoldeb ar-lein yn ddibynnol ar faint o feddwl sy’n cael ei roi iddo, felly dyma rai pethau i’w cofio wrth i chi lansio eich presenoldeb chi ar y rhyngrwyd:
Efallai fod hyn yn teimlo fel llawer o wybodaeth i’w hystyried, ond drwy gymryd un cam ar y tro, fe welwch chi ei bod hi’n hawdd iawn sefydlu presenoldeb ar-lein ar gyfer eich busnes, a gallwch ddatblygu eich gweithgarwch ar-lein yn araf bach o hynny.
© Nominet UK 2025