Mae creu gwefan yn wych, ond dim ond y cam cyntaf yw hynny.
Sut mae lledaenu’r neges am bresenoldeb eich busnes ar-lein er mwyn cynyddu traffig i’ch gwefan a sicrhau bod eich gwefan yn cyflawni’r hyn roeddech chi am iddi wneud – boed hynny’n ddenu cwsmeriaid newydd neu godi ymwybyddiaeth am eich brand?
Y gyfrinach yw hysbysebu ar-lein, sef gweithgarwch sy’n digwydd ar sawl ffurf wahanol. Bydd yr erthygl yma’n edrych ar y gwahanol opsiynau a manteision hysbysebu ar-lein yn ei wahanol ffurfiau.
Fel y gwelwch chi, gall hysbysebu ar-lein weddu i unrhyw gyllideb, felly os ydych chi’n poeni am faint mae hyn yn mynd i’w gostio, peidiwch: mae rhai o’r dulliau yma am ddim. Ac ni fydd angen i chi dalu llawer o arian i arbenigwr i’w gwneud nhw ar eich rhan gan fod llawer o gyfleoedd hysbysebu ar-lein y gallwch eu gwneud eich hunan.
Mae ‘hysbysebu ar-lein’ yn derm ymbarél am amrywiaeth o weithgarwch hysbysebu ar-lein – mae angen buddsoddi rhywfaint o arian ar gyfer rhai o’r opsiynau, a buddsoddi amser ar gyfer opsiynau eraill. Gadewch i ni edrych ar bob un ohonyn nhw yn eu tro a thrafod y manteision.
Yr enw ar y broses o gael eich gwefan i ymddangos yn uwch mewn canlyniadau peiriannau chwilio ar gyfer termau chwilio penodol yw optimeiddio peiriannau chwilio, neu SEO.
Mae hyn yn gweithio drwy wneud newidiadau bach i’ch gwefan er mwyn ei hoptimeiddio i gynnwys ‘allweddeiriau’ – y geiriau a’r ymadroddion mae pobl yn eu defnyddio mewn peiriannau chwilio i ddod o hyd i fusnesau fel eich busnes chi. Mae hefyd yn ymwneud â chreu cysylltiadau o wefannau eraill i’ch gwefan chi (mae marchnata cynnwys yn un ffordd o wneud hyn), ac mae algorithmau peiriannau chwilio yn gweld hyn fel cefnogaeth i’ch gwefan.
Wrth gwrs, nid Google yw’r unig beiriant chwilio; mae Bing hefyd yn bodoli, a llwyfan rhannu fideos sy’n berchen i Google sydd wedi dod yn beiriant chwilio ynddo’i hunan, sef YouTube.
Mae nifer o fanteision i SEO:
Os yw SEO yn rhywbeth hoffech chi ei archwilio ar gyfer eich busnes bach, dyma adnoddau defnyddiol i’ch helpu i ddechrau arni:
Os ydych chi’n pendroni ble i hysbysebu ar-lein am ddim, mae’r cyfryngau cymdeithasol yn lle da i ddechrau. Er bod gan y llwyfannau opsiynau hysbysebu y gallwch dalu amdanyn nhw, mae digon o gyfleoedd i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i yrru traffig i’ch gwefan heb orfod defnyddio eich cyllideb farchnata.
Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn cynnig llawer o fanteision i’ch busnes, dyma rai o’r prif rai:
Y prif lwyfannau cyfryngau cymdeithasol yw Facebook, Twitter, Instagram a LinkedIn, ond mae rhai eraill sy’n werth eu harchwilio yn dibynnu ar natur eich busnes: TikTok, Snapchat a Pinterest, er enghraifft.
Dyma adnoddau defnyddiol i gael rhagor o wybodaeth am yr opsiynau cyfryngau cymdeithasol sydd ar gael i’ch busnes:
Yn y bôn, fersiwn o SEO rydych chi’n talu amdani yw hysbysebu talu fesul clic, neu PPC. Hynny yw, y canlyniadau sydd wedi’u talu amdanynt pan fyddwch chi’n chwilio am rywbeth ar beiriant chwilio, ac mae’n cael ei alw’n hynny gan eich bod fel arfer yn talu am bob clic.
Ar gyfer Google, mae hwn yn cael ei bweru gan Google Ads, ac fel llawer o’r opsiynau yma, gallwch ei wneud yn fewnol neu ei allanoli i asiantaeth neu weithiwr llawrydd. Mae rhai o’r opsiynau sy’n ei wneud yn ddewis da ochr yn ochr â’ch ymdrechion SEO yn cynnwys:
Dyma dudalennau defnyddiol os hoffech ragor o wybodaeth am hysbysebu PPC.
Ar gyfer busnesau sydd â chwsmeriaid lleol yn bennaf (er enghraifft bwyty neu siop fach), mae’n gwneud synnwyr cael presenoldeb mewn cymunedau ar-lein lle mae pobl leol yn eu defnyddio.
Er enghraifft, gallai hynny olygu defnyddio hysbyseb baner ar wefannau lleol neu restrau mewn cyfeiriaduron ar-lein lleol. Mae hyn yn clymu i mewn ag SEO, gan fod ‘mynegeion lleol’ yn ffactor pwysig o ran ymddangosiad mewn canlyniadau chwilio lleol.
Hysbysebion sydd wedi’u cynllunio i gyd-fynd â’r wefan maen nhw’n ymddangos arni – fel erthygl hysbysebu neu gynnwys wedi’i noddi – yw hysbysebion brodorol. Felly, mae’n ffurf fwy cynnil a meddal o hysbysebu sy’n gallu gweithio’n dda gan fod pobl ddim yn teimlo bod rhywbeth yn cael ei orfodi arnyn nhw.
Math cymharol ddiweddar o hysbysebu ar-lein yw marchnata drwy ddylanwadwyr sy’n cynnwys gweithio gyda phobl sydd â llawer o ddilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae hyn yn gweithio gan fod eu dilynwyr yn ymddiried ynddyn nhw ac yn dyheu am fod fel y dylanwadwyr a defnyddio’r un cynnyrch â nhw.
Er ei bod yn bosib bod gan gyfeiriaduron ar-lein werth cyfyngedig o ran gyrru cwsmeriaid i’ch gwefan a’u bod yn llai defnyddiol ar gyfer SEO y dyddiau yma, mae rhai cyfeiriaduron a gwefannau cymharu ar-lein yn dal i fod yn llefydd poblogaidd i chwilio am fusnesau.
Mae gwefannau fel Trustpilot a Yelp yn llefydd da i fod â phresenoldeb er mwyn cael adolygiadau am eich busnes, sy’n gymorth o ran eich enw da ac SEO.
Fel sydd wedi’i nodi’n barod, mae cyfeiriaduron ar-lein lleol ar gyfer busnesau yn eich ardal yn dda ar gyfer dal traffig lleol, ac mae’n werth sicrhau eich bod ar wefannau cyfeiriaduron ar gyfer eich maes penodol hefyd – er enghraifft, mae Checkatrade a Rated People yn llefydd da i restru’ch busnes os ydych chi’n fusnes masnach.
Mae creu proffil Google My Business yn ffordd dda o reoli eich presenoldeb ar Google hefyd, sy’n rhoi cyfle i’ch busnes ymddangos mewn canlyniadau chwilio brand, lleol a symudol.
Ni fydd pob dull o hysbysebu ar-lein yn addas ar gyfer pob busnes, a bydd angen i chi feddwl yn ofalus am eich strategaeth i sicrhau eich bod yn defnyddio sianeli priodol ar gyfer eich busnes penodol.
Dyma rai pethau i’w hystyried wrth benderfynu ar y mathau gorau o hysbysebu ar-lein ar gyfer eich busnes:
Efallai y bydd yn teimlo fel bod llawer o wybodaeth i’w hystyried gyda hysbysebu ar-lein, ac mae hynny’n wir. Ond mae rhoi cynnig ar un dewis gofalus ar y tro yn ffordd dda o ddechrau, ac yn ffordd na ddylai achosi i chi golli gormod o amser na chyllideb.
I weld rhagor o dechnegau a thactegau am y ffordd orau o ddenu ymwelwyr i’ch gwefan, edrychwch ar y blogiad 21 ffordd sydd wedi’u profi o hybu traffig i’ch gwefan.
© Nominet UK 2024