Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru

Cryfhau ei hunaniaeth gydag enw parth .cymru a .wales

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru wedi chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o ddatblygu amaethyddiaeth ac economi wledig Cymru ers dros ganrif, pan y’i sefydlwyd yn 1904.

Fel elusen gofrestredig, mae gwaith y Gymdeithas yn cynnwys darparu cymorth i fusnesau, lles cymdeithasol ac addysg mewn cymunedau gwledig, a digwyddiadau poblogaidd y Gymdeithas; Gŵyl Tyddyn a Chefn Gwlad, Sioe Frenhinol Cymru a’r Ffair Aeaf.

Gyda’i gwreiddiau mor ddwfn yng nghefn gwlad Cymru, roedd hi’n gam naturiol i’r tîm sicrhau’r enwau parth .cymru a .wales.

Fel llawer o sefydliadau eraill sy’n defnyddio enwau parth .cymru a .wales, eu gwefan yn aml iawn yw’r ddolen bwysicaf rhyngddyn nhw â’u cwsmeriaid, ac mae’r enwau parth yma’n ffordd i’w cwsmeriaid wybod pwy ydyn nhw ac o ble maen nhw’n dod.

“Rydyn ni’n sefydliad cwbl ddwyieithog ac roedden ni am i hynny gael ei adlewyrchu ym mhob agwedd bosib. Mae’r enw parth .cymru yn atgyfnerthu hynny fel cryfder yn hunaniaeth brand y Gymdeithas”, meddai Steve Hughson, Prif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru.

 

Defnyddiwch ein peiriant chwilio i weld a yw eich enw parth delfrydol chi ar gael heddiw.

mwy o lwyddiannau

CRWST
Read
Welsh Whisperer
Read
Coffi Dre
Read

© Nominet UK 2024