Dangoswch eich hunaniaeth gyda chyfeiriad e-bost .cymru neu .wales

 

P’un a ydych chi’n dechrau menter fusnes gyffrous newydd, yn awyddus i wneud eich busnes bach sefydledig yn fwy digidol neu’n dymuno arddangos eich prosiect personol ar-lein, gall cyfeiriad e-bost .cymru neu .wales eich helpu i ddangos eich cysylltiad â Chymru, ymddangos yn broffesiynol ac adeiladu eich brand ar-lein.  

Mae sicrhau enw parth .cymru neu .wales yn eich galluogi i fod yn berchen ar gyfeiriad e-bost wedi’i frandio, fel [email protected]. Gallech hyd yn oed gael cyfeiriad e-bost ar gyfer y teulu cyfan, fel [email protected].  Mae defnyddio enw parth sy’n gorffen gyda .cymru yn eich helpu i arddangos eich hunaniaeth ac i’w gwneud yn hawdd i bobl wybod o ble rydych chi, eich teulu neu’ch busnes yn dod, gan eich helpu i sefyll allan.  

Os ydych chi am adeiladu’ch brand ar-lein ar gyfer busnes neu bleser, dechreuwch eich chwiliad am barth .cymru neu .wales gan ddefnyddio’r teclyn chwilio defnyddiol isod. 

Erbyn heddiw, mae dros 23,000 o barthau yn defnyddio .cymru neu .wales, a gyda’r holl wefannau sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru yn defnyddio is-barthau llyw.cymru a gov.wales, byddwch yn ymuno â llwyth o fusnesau, mentrau a phrosiectau personol eraill o Gymru sy’n defnyddio parth .cymru neu .wales i fynd ag ychydig bach mwy o Gymru i’r we.   

Mae’n bosib defnyddio parth Cymru ar gyfer mwy na dim ond e-bost. Gallwch ddefnyddio’ch parth .cymru neu .wales i gynnal cyfeiriad gwefan proffesiynol, gan gryfhau’ch brand a’ch hunaniaeth ar-lein ac ychwanegu cysondeb ar draws eich portffolio ar-lein.  

 


Beth am ddechrau chwilio heddiw? Gallwch chwilio am yr enwau parth .cymru a .wales sydd ar gael yma

Chwilio am ysbrydoliaeth? Cymerwch olwg ar rai o'n hastudiaethau achos a'u profiadau nhw gyda pharthau .cymru a .wales.

Coffi Dre
Read
Happy Yoga Wales
Read
CRWST
Read

© Nominet UK 2024