11 cyngor ar gyfer creu eich gwefan gyntaf

Dros y ddegawd ddiwethaf, mae e-fasnach ym Mhrydain wedi bod yn tyfu’n gyson. Mae’n farchnad a fydd yn parhau i dyfu o ran refeniw a phwysigrwydd am flynyddoedd i ddod.

Am y rheswm yma, dylai unrhyw fusnes sy’n gobeithio tyfu yn y dyfodol a diwallu anghenion ei gwsmeriaid fod ar-lein.

Mae COVID-19 wedi cynyddu’r galw ar fusnesau i dalu mwy o sylw i sianeli ar-lein. Maen nhw’n gallu bod yn ffynhonnell refeniw wahanol os nad yw siopau go iawn yn gallu bod ar agor neu’n gorfod gweithredu o dan gyfyngiadau.

Hyd yn oed os nad yw busnesau’n gwerthu’n uniongyrchol ar-lein, mae bod ar-lein yn cynnig sianel gyfathrebu arall ac yn ffordd o godi ymwybyddiaeth.

Mae ystadegau o 2019 yn dangos nad oedd 47% o fusnesau bach a chanolig yn gwerthu ar-lein, ac nad oedd gan chwarter o’r rheini wefan.

Yn yr erthygl yma, byddwn ni’n cynnig cyngor ar greu gwefan, o ddewis enw parth a darparwr llwyfan i nodweddion a thechnoleg allweddol a chyngor sylfaenol ar gynllunio.

1. Dewiswch lwyfan gwe sy’n gweddu i’ch busnes a’ch cyllideb

Os oes gennych chi’r sgiliau a’r wybodaeth (a’r amser) mae creu gwefan o’r newydd yn opsiwn, ond yn aml iawn, y dewis gorau yw defnyddio gwefan sy’n barod i’w defnyddio.

Gallai hyn fod yn system rheoli cynnwys fel WordPress ar gyfer blog neu wefan hyrwyddo heb siop, neu’n llwyfan e-fasnach ar gyfer manwerthwyr.

Meddalwedd sy’n caniatáu i’r gwerthwr reoli ei weithrediadau masnachu ar y we yw llwyfan e-fasnach. Rhain yw wyneb blaen y busnes – y wefan mae pobl yn ymweld â hi ac yn archebu cynnyrch arni, ac maen nhw’n darparu teclynnau i reoli’r prif swyddogaethau fel rheoli archebion, ychwanegu stoc a gwasanaeth i gwsmeriaid.

Llwyfan sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer gwefannau e-fasnach yn bennaf yw system rheoli cynnwys (er bod llawer o wefannau’n defnyddio cymysgedd o’r ddau) i gyhoeddi tudalennau, blogiadau a chynnwys arall.

Er enghraifft, byddai modd defnyddio system rheoli cynnwys er mwyn i fusnes all-lein arddangos cynnyrch a gwasanaethau ar-lein, gyda’r nod o ddenu defnyddwyr i leoliadau go iawn (drwy ychwanegu system trefnu ymweliadau o bosib).

P’un a yw’ch gwefan yn un y byddwch yn gwerthu arni ai peidio, mae’n bwysig meddwl am anghenion eich busnes wrth ddewis llwyfan, yn ogystal â’r ddealltwriaeth sydd ei hangen arnoch i’w rheoli.

Er enghraifft, bydd rhai datrysiadau’n gallu rheoli popeth i chi – lletya’ch gwefan, rheoli taliadau a darparu templedi ar gyfer cynllun eich gwefan. Os nad oes gennych y sgiliau codio na’r amser, yna gall datrysiadau fel rhain arbed llawer o amser, ond un o’r anfanteision yw nad oes cymaint o opsiynau ar gyfer addasu gwefannau.

2. Meddyliwch yn ofalus am eich enw parth 

Yn syml, cyfeiriad eich gwefan yw’r enw parth, er enghraifft faw.cymru.

Wrth ddewis enw parth, mae’n bwysig meddwl pa enw rydych chi ei eisiau, pa estyniad enw parth i’w ddewis, a gan ba gofrestrydd i’w brynu.

Byddwch am brynu enw eich busnes, neu enw sy’n agos at hynny. Drwy ddefnyddio teclyn fel hwn ar gyfer enwau parth .cymru, gallwch chwilio am yr enw i weld os ydyw ar gael neu chwilio am enwau tebyg os nad yw.

Ystyriwch pa mor hawdd yw cofio’r enw, a sut bydd yn edrych ar bapur, cerbydau, negeseuon e-bost ac ati. Mae’n well defnyddio enw syml a byr os gallwch ddod o hyd i’r un cywir.

Yna, meddyliwch am yr estyniad enw parth, sef y rhan sydd ar ddiwedd y cyfeiriad, .cymru, .com, .org ac ati. Er enghraifft, beth am ddewis enw parth sy’n gorffen gyda .cymru i ddangos eich bod yn gwmni o Gymru?

Ar ôl penderfynu ar enw parth, y cam nesaf yw dewis cofrestrydd, sef cwmni sy’n gwerthu enwau parth. Mae’n werth i chi gymharu prisiau a gwasanaethau – mae’n bosib bod rhai yn cynnwys pethau ychwanegol fel cyfeiriadau e-bost neu wasanaethau lletya er enghraifft.

3. Blaenoriaethwch ddiogelwch 

Gwnewch yn siŵr fod gennych y meddalwedd diogelwch diweddaraf ar eich gwefan, ac edrychwch ar yr opsiynau diogelwch sy’n cael eu cynnig gan y llwyfannau gwe a’r pyrth talu rydych chi’n eu defnyddio.

Ar gyfer manwerthwyr, mae diogelwch yn bryder gwirioneddol i siopwyr, ac yn faes mae angen i chi fod yn gyfforddus yn ei gylch. Gall hefyd fod yn werth ystyried y prif nodweddion a chynnwys a allai helpu i dawelu meddwl siopwyr newydd fod gwefan yn ddiogel.

Mae hyn yn golygu gwneud gwaith ar sail yr arferion diogelwch rydych chi’n eu rhoi ar waith, gan wneud yn siŵr eich bod yn defnyddio dulliau talu cydnabyddedig a diogel, ac arddangos selnodau sy’n cadarnhau eich lefel o ddiogelwch wrth dalu.

Hyd yn oed os nad ydych yn gwerthu’n uniongyrchol i gwsmeriaid ar-lein, mae diogelwch yn dal yn bryder allweddol. Mae angen i ddefnyddwyr deimlo’n ddiogel wrth ymweld â phori drwy’ch gwefan.

4. Cadwch bethau’n syml

Does dim angen i chi fynd dros ben llestri wrth greu gwefan.

Mae’n bwysicach bod â gwefan sy’n hawdd ei defnyddio sy’n caniatáu i ymwelwyr ddod o hyd i’r wybodaeth maen nhw’n chwilio amdani.

Er enghraifft, dylai cwsmeriaid fod yn gallu pori cynnyrch a’u prynu’n hawdd, heb broblemau, ar wefan e-fasnach. Mae’n bwysig ystyried hyn wrth ddewis llwyfan e-fasnach – bydd tudalen flaen sy’n hawdd ei defnyddio yn gymorth i droi traffig yn gwsmeriaid sy’n talu yn fwy rheolaidd.

Ar gyfer gwefannau heb siop, dylai defnyddwyr ei chael hi’n hawdd pori drwy dudalennau a dod o hyd i’r wybodaeth maen nhw’n chwilio amdani yn hawdd. Gallai hyn fod yn dudalennau ar eich polisïau COVID-19, ffurflenni archebu neu ragor o wybodaeth am eich busnes.

National Botanic Garden of Wales

5. Gosod Google Analytics 

Mae Google Analytics yn rhoi cipolwg gwerthfawr o’r ffordd mae pobl yn defnyddio’ch gwefan. Gall fod yn ddefnyddiol i werthuso eich ymdrechion marchnata o ran gyrru traffig i’ch gwefan a nodi problemau a allai fod yn effeithio ar gyfraddau trosi.

Mae’n gymharol hawdd gosod Google Analytics drwy ddilyn y camau isod, ac mae gan Google ragor o gymorth i chi ar sut i’w osod ar eich tudalen, yma.

  • I ddechrau, bydd angen i chi greu neu fewngofnodi i’ch cyfrif Google Analytics (sy’n defnyddio’r un wybodaeth fewngofnodi â’ch cyfrifon Google eraill, er enghraifft Gmail) – ewch i google.com/analytics.
  • Sefydlwch eiddo yn eich cyfrif Analytics. Gwefan neu ap yw’r eiddo, ac o’r eiddo yma y bydd Google yn casglu data.
  • Dylech greu gwedd adrodd ar gyfer eich eiddo. Mae’r gweddau yma’n eich caniatáu i hidlo data. Mae’n bosib y byddwch am eithrio data o gyfeiriad IP eich busnes fel mai dim ond data gan eich cwsmeriaid, yn hytrach na staff, y byddwch yn ei weld.
  • Ychwanegwch y cod tracio i’ch gwefan fel bod modd i Google gasglu data. Mae hyn yn gymharol hawdd i’w wneud a does dim angen sgiliau codio arnoch chi.

6. Cynigiwch amrywiaeth o opsiynau talu ar wefannau e-fasnach

Yn dibynnu ar ba lwyfan e-fasnachu rydych chi’n ei ddefnyddio, mae’n bosib y bydd gwasanaeth talu wedi’i gynnwys yn y meddalwedd. Fel arall, mae’n bosib y bydd angen i chi edrych am borth talu i ddelio â’ch taliadau a diogelwch eich taliadau.

Un peth i’w ystyried yw’r dewis o ddulliau talu rydych chi am eu cynnig i gwsmeriaid. Heb os, dylech fod yn derbyn cardiau credyd a debyd, ond mae’n werth cynnig dewisiadau amgen i ddiwallu dewisiadau eich holl gwsmeriaid.

Er enghraifft, mae cynnig dulliau talu cydnabyddedig eraill fel PayPal (sydd i’w weld yn yr enghraifft gan ASOS isod) yn ddewis amgen defnyddiol – mae hyn yn gallu cyflymu’r broses dalu drwy ddefnyddio manylion cardiau a chyfeiriadau sydd wedi’u cadw ac arwain at gyfradd drosi uwch.

Asos

Yn ogystal, mae dulliau talu sy’n addas ar gyfer ffonau symudol, fel Google Pay ac Apple Pay, yn gallu apelio at siopwyr ar ffonau symudol a goresgyn unrhyw drafferthion wrth dalu ar declynnau o’r fath.

7. Gwnewch yn siŵr fod eich tudalen hafan yn helpu’r defnyddiwr i bori

Nid y dudalen hafan yw’r dudalen bwysicaf ar eich gwefan o reidrwydd, gan y bydd llawer o draffig yn cyrraedd tudalennau cynnyrch a thudalennau glanio’n uniongyrchol o ganlyniadau chwilio, e-bost a sianeli marchnata eraill.

Fodd bynnag, mae dal modd i lawer o draffig ddod i’ch gwefan drwy’r dudalen hafan, felly mae’n bwysig ei bod yn cyfeirio defnyddwyr at yr hyn maen nhw am ddod o hyd iddo ar eich gwefan, drwy opsiynau llywio, dolenni a dewislenni clir.

Mae’n bosib mai’r dudalen hafan fydd yn rhoi’r argraff gyntaf o’ch gwefan a’ch brand i’r cwsmer, felly mae’n lle delfrydol i roi esboniad am eich cynnyrch, athroniaeth eich busnes, neu bwyntiau gwerthu allweddol eraill.

Cadwch y dudalen hafan yn syml ac yn hawdd ei llywio, a defnyddiwch hi i dynnu sylw at gynnyrch allweddol, categorïau, gwybodaeth a chynnwys rydych chi am ei hyrwyddo. Mae cyngor ar sut i greu tudalen hafan lwyddiannus ar gael yma.

8. Optimeiddiwch eich tudalennau cynnyrch ar wefannau e-fasnach

Ar dudalennau cynnyrch bydd ymwelwyr yn penderfynu os ydyn nhw am brynu cynnyrch gennych chi ai peidio, felly mae’r rhain yn bwysig. Mae’r penderfyniad yma’n cael ei wneud, yn rhannol, ar sail y wybodaeth a’r lluniau maen nhw’n eu gweld.

Dyma rai o’r prif nodweddion a’r wybodaeth i’w chyflwyno i ymwelwyr ar eich tudalennau cynnyrch:

  • Lluniau a fideos. Dangoswch eich cynnyrch mewn ffordd weledol, a helpwch i gyfleu’r wybodaeth bwysig yn gyflym (sawl porth USB sydd ar liniadur er enghraifft).
  • Gwybodaeth am y cynnyrch. Gwnewch bwyntiau allweddol am y cynnyrch yn glir a chryno, er enghraifft maint, deunyddiau a ddefnyddiwyd a manylion allweddol eraill.
  • Nodwch y prif bwyntiau gwerthu. Gwnewch yn siŵr fod y dudalen a’r testun yn gweithio’n galed i werthu’r cynnyrch. Gallai hyn dynnu sylw at y prif nodweddion neu bwyntiau gwerthu eraill, er enghraifft gostyngiadau neu gynigion arbennig.
  • Gwnewch hi’n hawdd dod o hyd i wybodaeth dosbarthu a dychwelyd. Mae prisiau ac amseru dosbarthu, yn ogystal â pha mor hawdd yw dychwelyd eitem, yn gallu gwneud y gwahaniaeth rhwng prynu cynnyrch ai peidio, felly gwnewch y wybodaeth yma’n glir ac yn hygyrch.

Mae rhagor o wybodaeth am beth i’w chynnwys ar eich tudalennau cynnyrch ar gael yma.

9. Canolbwyntiwch ar dudalennau talu ar wefannau e-fasnach

Dyma lle mae’n werth i chi wneud ymdrech. Bydd tudalennau talu sy’n syml ac yn hawdd eu defnyddio yn helpu i ragor o gwsmeriaid brynu gennych ac i wella eich refeniw.

Os byddwch yn dewis opsiwn sy’n barod i’w ddefnyddio, edrychwch am un sydd â ffurflenni talu syml a chlir na fydd yn creu rhwystrau i brynwyr. Mae hefyd yn bwysig ei bod yn gweithio’n dda ar ffonau symudol – yn hynny o beth, gallai cynnig dulliau talu gyda ffonau symudol helpu.

Mae’n bwysig monitro perfformiad eich tudalennau talu gydag Analytics hefyd fel bod modd nodi unrhyw broblemau neu feysydd sydd angen eu gwella.

10. Helpwch ymwelwyr i ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw ar y ddyfais maen nhw’n ei defnyddio 

P’un a ydych chi’n gwerthu cynnyrch ai peidio, bydd defnyddwyr yn dod i’ch gwefan i chwilio am wybodaeth allweddol sy’n ymwneud â’ch busnes.

Mae’n bwysig eich bod yn sicrhau bod y wybodaeth yma’n hawdd ei darganfod, a’i bod yn gywir ac yn gyfredol. Er enghraifft, os bydd eich oriau agor yn newid, yna mae’n hanfodol eich bod yn diweddaru’r wybodaeth ar-lein.

Meddyliwch yn ofalus am y rhesymau y bydd eich cwsmeriaid yn ymweld â’ch gwefan, a sut byddai modd i chi sicrhau bod y wybodaeth honno’n gallu cael ei darganfod yn gyflym a’i bod yn hawdd ei deall. Er enghraifft, mae’n bosib y bydd pobl yn chwilio am wybodaeth sy’n ymwneud ag amgylchiadau sy’n newid, fel oriau agor dros gyfnod y Nadolig neu amseroedd archebu.

Mae’n bwysig iawn bod ymwelwyr yn gallu dod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw ar y ddyfais maen nhw’n ei defnyddio hefyd. Gwnewch yn siŵr bod eich gwefan yn ymatebol a bod modd ei defnyddio ar wahanol ddyfeisiau gan gynnwys ffonau symudol, llechi, a gliniaduron/cyfrifiaduron. Mae rhagor o wybodaeth am sut i greu gwefan sy’n addas ar gyfer ffonau symudol yma.   

Mae’n syniad da gofyn i ffrindiau a theulu roi cynnig ar ddefnyddio’r wefan newydd hefyd, oherwydd gallan nhw sylwi ar ardaloedd sy’n anodd eu defnyddio neu welliannau posib i’r wefan.

11. Cynyddwch draffig i’ch gwefan newydd

Nid yw bod ar-lein yn unig yn ddigon, mae angen i chi edrych ar ffyrdd o ddenu pobl i’ch gwefan.

Mae llawer o sianeli a thechnegau y gallech eu defnyddio er mwyn codi ymwybyddiaeth a denu pobl i’ch gwefan, gan gynnwys:

  • Sianeli all-lein. Os oes gennych chi siop neu leoliad go iawn, defnyddiwch gardiau busnes, posteri a thaflenni i ddweud wrth bobl fod gennych wefan. Rhowch gyfeiriad eich gwefan ar eich faniau, eich deunydd papur, neu unrhyw hysbyseb.
  • Marchnata dros e-bost. Os oes gennych restr e-bost yn barod, rhowch wybod iddyn nhw eich bod ar agor ar-lein.
  • Talu fesul clic.  Os oes gennych gyllideb i wneud hynny, bydd talu am chwiliadau yn ffordd o yrru traffig i’ch gwefan yn gyflymach.
  • Cyfryngau cymdeithasol. Defnyddiwch eich sianeli cyfryngau cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth o’ch gwefan.
  • SEO. Gall marchnata drwy chwiliadau fod yn araf o ran gyrru traffig i’ch gwefan, ond gall fod yn un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o ran cost i ddenu cwsmeriaid newydd.

I gael rhagor o wybodaeth am y meysydd yma a mwy, edrychwch ar y canllaw yma ar gynyddu traffig ar-lein, sy’n cynnwys llawer o gyngor ar adeiladu cynulleidfa ar-lein. 

Casgliad

Pan fyddwch chi’n creu gwefan ar gyfer eich busnes, mae llawer o bethau i feddwl amdanyn nhw, a digonedd o opsiynau i’w hystyried.

Yn gyffredinol, mae’n bwysig canolbwyntio ar feysydd allweddol, er enghraifft enw parth cofiadwy, llwyfan sy’n hawdd ei ddefnyddio a phrofiad defnyddio da ar gyfer eich ymwelwyr.

Mae’n werth dechrau’n syml, gyda gwefan sy’n cynnig y math o lwyfan y byddai defnyddwyr yn ei ddisgwyl, ac adeiladu o’r fan honno wrth i chi ddysgu mwy am y ffordd mae pobl yn defnyddio’ch gwefan.

 

Postiwyd yn wreiddiol gan Graham Charlton ar UK Domain.

Related blog posts

Person on computer
Hysbysebu eich busnes bach ar-lein
Read
Sut i roi eich busnes newydd ar-lein
Read
Dewch i Gymreigio’r we gydag enw parth .Cymru
Read

© Nominet UK 2024