Sut all BBaChau gystadlu â brandiau sy’n enwau mawr â chyllidebau marchnata mawr?

Gall ennill cyfran o’r farchnad gan unrhyw gystadleuydd llwyddiannus fod yn her enfawr, ond os yw’ch cystadleuwyr yn frandiau sy’n enwau mawr â chyllidebau marchnata iach i gyd-fynd ac rydych chi’n fusnes newydd neu’n BBaCh heb lawer o arian, gall hyn ymddangos hyd yn oed yn fwy bygythiol.

Serch hynny, trwy fabwysiadu ymagwedd arloesol tuag at sicrwydd marchnata cyfochrog a dynodi gwariant ar hysysebu yn ofalus, gallai hyd yn oed y busnes ar-lein mwyaf newydd fod â’r potensial i gystadlu yn erbyn y chwaraewyr mawr i gynyddu eu cyfran o’r farchnad.

Bydd yr erthygl hon yn amlinellu’r heriau o geisio cystadlu yn erbyn brandiau sydd â chyllideb fawr ar faes chwarae gwastad, beth allwch ei ddysgu gan eich cystadleuwyr, a sut i ddatblygu eich cronfa o gwsmeriaid eich hun a sefydlu teyrngarwch at eich brand heb gyllideb farchnata enfawr.

Beth allwch ei ddysgu gan eich cystadleuwyr brand mawr?

Gellir deall bod busnesau o bob math a maint yn dymuno cadw pethau’n gyfrinachol o ran eu syniadau ar gyfer ymgyrch farchnata, adeiladu teyrngarwch at frand a chynyddu gwerthiant. Ond trwy archwilio ble, sut, ac at bwy y mae eich cystadleuwyr yn targedu eu hymgyrchoedd, gallwch gael mewnwelediadau gwerthfawr a fydd yn eich helpu i bennu a newid eich ymagwedd eich hun.

Y cam cyntaf un yw deall pwy arall sy’n gwerthu’r hyn rydych chi’n ei werthu’n llwyddiannus, ac ymchwilio i’w gweithgareddau marchnata er mwyn pennu’r sianeli maent yn eu defnyddio, y ddemograffeg maent yn ei thargedu, a sut maent yn fframio arddull eu hiaith, tôn, galwadau i weithredu a’u cymhellion.

Gall hyn eich helpu i greu darlun gweithredol o’r darpar brynwyr y mae’ch cystadleuwyr wedi penderfynu sy’n werth eu gwariant ar hysbysebion a’u hymdrechion, gan leihau rhywfaint o’r gwaith caled o sefydlu pwy a ble y gellir canfod a thargedu eich darpar brynwyr eich hun.

Pam mae arloesi yn bwysig pan na allwch gystadlu ar faes chwarae gwastad yn ariannol

Os ydych yn gwybod na allwch gystadlu’n gyfartal yn ariannol â brandiau sydd â gwariant enfawr ar hysbysebu ac sy’n defnyddio llu o wahanol sianeli i ledaenu’r gair, bydd angen i chi arloesi.

Mae cystadlu’n debyg am debyg â chystadleuydd yn golygu y byddwch yn ymladd am gyfran o’r un farchnad a’r un darpar brynwyr; fodd bynnag, trwy arloesi a chymryd ymagwedd wahanol tuag at ddal sylw darpar brynwyr, efallai y byddwch yn gallu cael gafael ar y darpar brynwyr hynny y mae eich cystadleuwyr mwy yn eu colli neu yn barnu nad ydynt yn deilwng o ymgyrch bwrpasol wedi’i thargedu oherwydd maint y gronfa o ddarpar brynwyr.

Ar gyfer BBaChau, gall y cronfeydd llai, mwy arbenigol hyn o brynwyr fod yn broffidiol iawn, a gallent fod yn fara menyn eich busnes cyn bo hir; yn ogystal â darpar brynwyr y gellir eu cyrraedd â safbwynt ac ymagwedd unigryw nad yw’ch cystadleuwyr yn eu defnyddio.

Er mwyn cael eich gweld gan y cronfeydd llai, mwy arbenigol hyn o ddarpar gwsmeriaid a chynulleidfaoedd newydd ac i ddal eu sylw yn effeithiol, nid oes angen i chi ganfod a dangos eich nwyddau iddynt yn unig; mae angen i chi hefyd amlygu manteision prynu gennych chi. Ewch ati i weithio eich USPs, a theilwra eich ymagwedd hysbysebu a’ch nodweddion brand i apelio ar lefel emosiynol i bobl nad ydynt eisoes wedi sefydlu teyrngarwch at gystadleuydd, neu na fyddent efallai wedi ystyried yr angen am yr hyn rydych yn ei gynnig o gwbl.

Safbwyntiau cyfeillgar i’r gyllideb sy’n helpu busnesau BBaChau wrth gystadlu yn erbyn brandiau mawr

Sut allwch chi arloesi a chanfod y safbwynt cywir i gystadlu yn erbyn brandiau mawr pan fydd cost yn bryder sylweddol? Dyma rai ymagweddau i’w hystyried.

Canfyddwch a defnyddiwch eich USP

I gymryd rhywfaint o gyfran y farchnad oddi wrth gystadleuydd mawr, mae’n rhaid i chi wneud i bob argraff hysbyseb neu gyfle i ymgysylltu â phob darpar brynwr gyfrif. Efallai mai dim ond un cyfle fydd ar gael i gyfleu eich neges a thanio diddordeb eich darpar brynwr.

Mae hyn yn golygu bod angen i chi sefydlu ac ymrwymo i amlygu’r USPs ynghylch yr hyn rydych yn ei gynnig a’r hyn rydych yn ei wneud – beth sy’n eich gwneud yn wahanol, yn well, neu’n fwy addas i ddewisiadau eich darpar brynwyr na brand sy’n enw mawr.

Lle da i ddechrau â hyn yw ystyried rhai o’r union nodweddion sydd, mae’n debyg, yn rhwystro eich gallu i gystadlu yn y lle cyntaf a’u troi’n fanteision ac yn USPs ar gyfer eich darpar brynwyr.

Ystyrir yn eang bod siopa’n lleol yn beth da y dyddiau hyn ac mae gwneud hynny yn destun balchder i lawer o siopwyr. Mae targedu prynwyr lleol ag ymgyrch wedi’i thargedu’n ddaearyddol sydd yn amlygu eich rôl yn y gymuned leol ac yn apelio ar lefel emosiynol at brynwyr sydd am gefnogi busnesau lleol yn lle gwych i ddechrau. Er enghraifft, os yw’ch busnes wedi’i leoli yn Abertawe, efallai yr hoffech arbrofi ag ymgyrch sydd ond yn targedu cwsmeriaid sydd wedi’u lleoli yn Abertawe, yn hytrach na thaflu’r rhwyd i Gymru gyfan neu’r DU. Y nod yma yw eu cymell â buddion prynu’n lleol a chefnogi busnesau lleol.

Efallai y bydd maint bychan eich busnes yn ymddangos fel anfantais pan fydd eich cystadleuwyr yn enwau mawr, ond mae hwn yn USP gwych arall y bydd BBaChau yn aml yn ei anwybyddu. Mae pobl yn hoffi teimlo’n dda wrth brynu pethau a theimlo cysylltiad personol â’r busnesau maent yn eu cefnogi, ac os gallwch roi cyfle iddynt wneud hyn, gallwch o bosibl gyflawni teyrngarwch at frand o fewn un pryniant yn unig.

Mympwyol, eco-gyfeillgar, dengar? Os ydych yn trin archebion a gwasanaeth cwsmeriaid yn bersonol, amlygwch y fantais hon a pheidiwch â cholli cyfle i ddangos y bydd eich prynwyr yn cefnogi busnes bach a’u teuluoedd yn hytrach nag ariannu iot preifat nesaf cyfranddalwyr brand mawr.

Gall partneriaethau bychan rhwng ffrindiau a busnesau teuluol greu stori frand apelgar hefyd, ac annog darpar brynwyr i gefnogi’r chwaraewyr llai ac nid y cyd-dyriadau rhyngwladol mawr.

Gwnewch ddewisiadau craff ynghylch eich gwariant ar hysbysebion

Bydd arnoch angen cyllideb hysbysebu i gefnogi’ch ymgyrch, pa ffordd bynnag y byddwch yn dewis mynd ati. Pan fo’ch cyllideb yn fach, bydd ei gwario’n ddoeth yn hanfodol oherwydd nid oes gennych lawer o le am wallau neu gronfeydd wrth gefn i adfer ymgyrch sy’n methu cyflawni ei nod.

Mae sawl ffordd y gallwch wneud y gorau o’ch cyllideb hysbysebu i sicrhau’r budd mwyaf posibl, a dyma ychydig o enghreifftiau:

  • Sicrhewch fod gennych ddealltwriaeth glir o’ch cynulleidfa darged –  pennwch eich darpar ddemograffeg  a byddwch yn glir ynghylch pam mae’r ddemograffeg rydych wedi’i dewis yn darged hyfyw, a beth sydd gennych a all droi eu pennau oddi wrth frandiau mwy.
  • Nodwch ble a sut mae’ch grwpiau demograffig yn siopa ac yn pori ar-lein. Sefydlwch pa blatfformau cyfryngau cymdeithasol maent yn eu ffafrio, y grwpiau, tudalennau a chyfrifon maent yn eu dilyn, a sut maent yn hoffi treulio’u hamser ar-lein.
  • Rhestrwch rai o’r llwybrau hyfyw y gallech chi eu defnyddio i gyrraedd at ddarpar brynwyr, gan ystyried cyfryngau cymdeithasol, lleoliadau hysbysebion awtomataidd, Google Ads, hysbysebion symudol mewn apiau, a rhagor.
  • Ymchwiliwch i gostau a sylw ar gyfer sianeli gwahanol, megis y gost gyfartalog fesul clic ar gyfer ymgyrchoedd Google Ads, a hyfywedd ennill cliciau oddi wrth gystadleuwyr heb dorri’r banc.
  • Peidiwch â lledaenu’ch cyllideb yn rhy denau. Gall hyn fod yn her enfawr i BBaChau sydd yn naturiol am gyrraedd cymaint o ddarpar brynwyr â phosib ac nad ydynt am osod eu holl wyau mewn un fasged. Mae taflu’ch cyllideb farchnata at un ddemograffig, sianel neu ymagwedd yn gambl. Os bydd yn llwyddiannus, gall arwain at elw gwych, ond os bydd yn methu, gallai o bosibl niweidio busnes cychwynnol neu BBaCh sy’n tyfu yn ddifrifol â phroblem llif arian.
  • Ystyriwch ddulliau o integreiddio’r un mathau o sicrwydd cyfochrog hysbysebu a ddefnyddir gan gystadleuwyr ond ar gost is. Er enghraifft, canfod agoriadau ag allweddeiriau llai eu defnydd a thermau chwilio â gwerth is sy’n ymwneud â’ch cynnyrch neu gynnig penodol. Bydd y rhain yn rhoi cyfle gwell i chi gystadlu ac ennill y grwpiau llai hyn o ddarpar brynwyr a all, gyda’i gilydd, ffurfio sylfaen cwsmeriaid gref yn fuan ar eu pen eu hunain.

Fel y crybwyllwyd, un ffordd bron yn sicr o wastraffu eich gwariant hysbysebu yw ei wasgaru’n rhy denau. Er enghraifft, trwy ei rannu rhwng ymgyrch Google Ads â gwerth cost-fesul-clic wedi’i gapio’n isel, hysbysebion symudol mewn ap ac ymgyrch cyfryngau cymdeithasol. Os nad oes gennych yr arian i gael effaith ar draws pob un o’r sianeli hyn ar unwaith, rydych yn debygol o weld eich cyllideb hysbysebu yn gostwng yn gyflym heb fawr ddim i’w ddangos amdani.

Efallai bod hynny yn ymddangos yn groes i synnwyr cyffredin, ond mae’n well gwneud eich gwaith cartref ar eich darpar brynwyr ac yna ymrwymo’ch cyllideb hysbysebu i ychydig o dargedau, sianeli a dulliau demograffig yn unig na cheisio jyglo gormod o bethau ar unwaith heb gyllideb i gyfateb. Mae rhedeg ymgyrch ddeuol neu dargedu dau ddemograffeg ar unwaith yn darparu rhywfaint o ddiogelwch yn erbyn ymgyrch unigol sy’n methu’n llwyr, heb ledaenu’ch cyllideb mor denau fel ei bod yn aneffeithiol.

Gofynnwch am adolygiadau gan brynwyr

Bydd y mwyafrif o siopwyr sy’n gyfarwydd â’r rhyngrwyd yn edrych ar adolygiadau o gynnyrch cyn prynu, hyd yn oed os yw’r adolygiadau hynny wedi’u lleoli ar safle gwahanol i’r un lle mae’r cynnyrch yn cael ei werthu. Gall adeiladu nifer fawr o adolygiadau cadarnhaol ar gyfer eich gwasanaethau gynyddu canfyddiad cwsmeriaid a helpu darpar brynwyr i ganfod eich busnes.

Efallai na fyddwch yn gallu cyflawni’r tri safle uchaf ar Google ar gyfer enw annibynnol y cynnyrch rydych yn ei adwerthu, ond os gallwch gyflawni safle uchel ar gyfer chwiliadau megis “adolygiadau cynnyrch XYZ,” bydd hyn yn denu siopwyr i’ch gwefan ac yn rhoi cyfle gwerthfawr i chi eu canfod, hyd yn oed os oeddent ar fin cyrraedd y cam talu ar wefan cystadleuydd.

Anogwch adolygiadau a sylwadau ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol hefyd, oherwydd mae’r rhain yn yn hawdd eu rhannu ac o bosibl yn agored i gynulleidfa fawr, ac byddant hefyd yn helpu i wneud eich cynhyrchion a thudalennaueich brand a’ch cyfrifon ar gyfryngau cymdeithasol yn haws eu canfod hefyd.

Sefydlwch gymeriad brand ac ymgysylltwch ar gyfryngau cymdeithasol i gynhyrchu bwrlwm organaidd.

Y peth hollbwysig ar gyfer BBaChau heb fawr o arian parod a brandiau sydd â chyllideb fawr fel ei gilydd yw cynhyrchu bwrlwm cymdeithasol organaidd o amgylch cynnyrch neu frand sydd yn cynhyrchu ei fomentwm ei hun ac yn darparu math hynod effeithiol a bron yn ddi-gost o hysbysebu parhaus ar lafar.

Os gallwch chi, fel perchennog BBaCh, gyflawni hyn, efallai y cewch fwy o archebion nag y gallwch eu trin, ond anaml y bydd hon yn broses gyflym neu seml. Gall llwyddo i ledaenu trydariad, fideo neu bost Facebook feirysol dynnu sylw at eich brand a gwella ymwybyddiaeth, ond er mwyn cynnal hyn, mae angen i chi fod â phresenoldeb cryf ar y cyfryngau cymdeithasol a chymeriad brand a thôn llais sefydledig yn eu lle o’r cychwyn cyntaf.

Mae diweddaru tudalennau cyfryngau cymdeithasol, hyrwyddo’ch cynnwys ac ymgysylltu â darpar brynwyr yn golygu llawer o amser ac ymdrech ddiddiwedd. Ond yn arbennig os yw’ch gwariant ar hysbysebion yn gyfyngedig, mae gwneud defnydd llawn o’r cyfryngau cymdeithasol a’r ffyrdd y gellir eu defnyddio i gyrraedd darpar brynwyr heb wario arian yn rhywbeth y dylai pob BBaCh ganolbwyntio arno.

Sicrhewch fod bobl yn siarad gan ddefnyddio cysylltiadau cyfamserol neu dymhorol

Mae creu hashnod sy’n trendio yn broffidiol ond yn ansicr iawn – â mwy o “fethu” i’r mwyafrif a llawer o lwc ar waith i’r rhai sy’n llwyddo. Ar y llaw arall, mae’n haws o lawer manteisio ar bwnc sy’n trendio; felly cadwch eich bys ar bwls y cyfryngau cymdeithasol a gwiriwch hashnodau sy’n trendio, digwyddiadau cyfredol a phynciau llosg, a manteisiwch ar hyn â’ch cynnwys priodol eich hun sydd wedi’i lunio’n ofalus.

Gwnewch yn siŵr bod eich cynnwys yn berthnasol, yn chwaethus a bod ganddo gydberthynas glir â’r pwnc dan sylw; fel arall, bydd pobl yn diystyru’ch cynnwys ar unwaith fel sbam neu ddeunydd sarhaus hyd yn oed, a gall hynny niweidio canfyddiad o frand yn y tymor hir.

Mae hyrwyddiadau tymhorol a chysylltiadau â phynciau diwylliant poblogaidd llosg hefyd yn rhoi cyfleoedd gwerthfawr i BBaChau gael eu gweld gan ddarpar brynwyr hefyd.

Cynhwyswch ddarpar brynwyr yn stori’ch brand a chwaraewyr allweddol

Mae’n anodd sicrhau bod eich cynnyrch neu eich brand yn cael ei weld gan ddarpar brynwyr, ond dim ond y cam cyntaf yw hynny. Er mwyn dal sylw eich darpar brynwyr a’u cymell i brynu gennych chi yn hytrach na chystadleuydd, mae angen i chi roi rheswm iddynt wneud hynny, ac yn achos BBaChau, y dull mwyaf effeithiol o wneud hyn yw cynnwys eich darpar brynwyr yn stori’ch brand a chwaraewyr allweddol.

Sefydlwch a defnyddiwch dôn llais priodol a hanfodol gyson ar draws eich holl ddeunydd ar-lein, a sicrhewch bod hynny yn un sy’n ddymunol ac yn ddiddorol ac y gellir uniaethu â hynny. Gall hiwmor, hunan-fychanu, a rhannu helbulon bywyd BBaCh oll helpu i gyflawni hyn, ynghyd â rhoi wyneb dynol ar eich brand, neu hyd yn oed wyneb masgot.

Wrth sicrhau fod darpar brynwyr yn hoffi’r bobl y tu ôl i’r brand, byddwch yn sicrhau eu bod yn hoffi’r brand hefyd; felly peidiwch ag ofni rhannu, rhyngweithio ac ymgysylltu â darpar brynwyr i gynhyrchu cysylltiad dynol.

Personolwch gynnwys

Profwyd dro ar ôl tro bod personoli cynnwys yn cynhyrchu canlyniadau gwell na deunyddiau generig, a gall BBaChau ddefnyddio’r un adnoddau a mewnwelediadau i greu awgrymiadau cynnyrch pwrpasol a phersonoli hysbysebion awtomataidd yn union fel mae brandiau mawr yn ei wneud.

Mae gan BBaChau fantais fawr yn y maes hwn eisoes, oherwydd mae eu gwasanaeth wrth reswm yn fwy personol nag y gall y brand mawr arferol obeithio ei gyflawni. Felly, gallwch amlygu natur bersonol taith y prynwr o fewn eich busnes, er enghraifft sut yn union mae’r broses brynu yn cael ei chynnal yn fewnol, a chan bwy.

Ewch gam ymhellach

Wrth ddarparu’r un cynnyrch ag un o’r cystadleuwyr ymhlith y brandiau mawr a phan na allwch eu gorchfygu o ran pris neu ansawdd, bydd angen i chi fod yn barod i fynd un cam ymhellach i gynnig rhywbeth a fydd yn annog defnyddwyr i ystyried eich brand yn fwy cadarnhaol.

Bydd cynnig rhywbeth annisgwyl a phlesio’ch darpar brynwyr yn ysgogi busnes a gaiff ei ailadrodd, ond bydd hefyd yn eu hannog i siarad. Meddyliwch am y cyffyrddiadau ychwanegol bychan y gallech eu cynnig i gwsmeriaid na fyddant yn cael eu cynnig yn aml gan y brandiau mwy.

Bydd anrhegion am ddim, samplau a chynigion deniadol oll yn sicrhau dylanwad da ar ddarpar brynwyr sydd wedi syrffedu a’r sawl sy’n gwerthfawrogi’r cyffyrddiadau bychan a phersonol sy’n gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi fel cwsmer.

Gwnewch yn siŵr fod eich cymorth i gwsmeriaid yn ddi-fai hefyd. Sicrhewch y gall darpar brynwyr gysylltu â chi, ymatebwch yn brydlon, byddwch yn gyfrifol yn bersonol am ymholiadau, a cheisiwch wneud cysylltiad personol â phob unigolyn sy’n cysylltu â chi.

Pwyntiau i’w cofio

Mae llawer i’w gofio wrth geisio ennill cyfran o’r farchnad oddi wrth frand mawr, a gall fod yn hawdd colli momentwm, gadael i rywbeth dynnu’ch sylw, neu wangalonni pan na welwch ganlyniadau ar unwaith.

Gall cynnal eich momentwm ar y cyfryngau cymdeithasol trwy bostio ac ymgysylltu yn hytrach na hyrwyddiadau y telir amdanynt fod yn her ac weithiau olygu gymryd llawer o amser, ond os gwnewch chi’r gwaith, bydd hyn yn fuddsoddiad gwirioneddol yn nyfodol eich brand a’i lwyddiant yn y tymor hir.

Wrth gystadlu’n uniongyrchol ag un neu ragor o’r brandiau mwy, mae’n bwysig bod yn ystyriol o awgrymu unrhyw beth y gellid ei ddehongli fel rhywbeth sy’n torri hawlfraint, yn enllibus, neu fel arall yn debygol o ddenu dig corfforaeth gyfoethog a fydd yn amddiffyn ei hincwm ac enw da ei brand doed a ddelo.

Os ceisiwch niweidio brand eich cystadleuaeth yn fwriadol neu os croeswch y llinell rhwng efelychu a chopïo, efallai y byddwch yn canfod y gwnewch chi wynebu llu o fygythiadau cyfreithiol nad oes gan eich cwmni llai y gyllideb i’w hamddiffyn.

Er bod denu sylw negyddol brand mawr sy’n cystadlu â chi yn sefyllfa na ddylai unrhyw BBaCh geisio ei chyrraedd, mae’n enghraifft wych i orffen ynghylch sut y gall BBaCh herio’r bechgyn mawr gan ddefnyddio ymagwedd arloesol a chario’r dydd ag ychydig o lwc a meddwl ochrol.

Post gwreiddiol wedi’i greu gan Polly Kay ar Barth y DU

Related blog posts

SEO
Pum camgymeriad SEO dylai pob busnes eu hosgoi
Read
Creu strategaeth Instagram mewn pum cam
Read
Notice board
Chwe ffordd i adnewyddu eich strategaeth marchnata cynnwys
Read

© Nominet UK 2024