Banc Datblygu Cymru

.cymru yn dod yn rhan annatod o Fanc Datblygu Cymru

Sefydlwyd Banc Datblygu Cymru gan Lywodraeth Cymru i helpu i gefnogi economi Cymru, drwy ei gwneud yn haws i fusnesau gael y cyllid sydd ei angen i gychwyn, cryfhau a thyfu.

Gyda sylfaen cwsmeriaid sy’n amrywio o fusnesau bach newydd i fusnesau technoleg twf uchel, roedd sicrhau enw parth .cymru yn elfen allweddol o strategaeth farchnata Banc Datblygu Cymru. Mae’n sail i hunaniaeth gorfforaethol y banc ac yn codi ymwybyddiaeth o’i gylch gwaith fel banc datblygu ar gyfer Cymru gyfan.

Rydyn ni’n falch o fod yn sefydliad o Gymru sy’n cefnogi pobl Cymru. Mae cael enw .Cymru yn ein helpu ni i hyrwyddo’n presenoldeb ledled Cymru a’r tu hwnt”, meddai Beverley Downes, Cyfarwyddwr Marchnata a Chyfathrebu Banc Datblygu Cymru.

“Mae ein gwefan yn elfen bwysig o’n hunaniaeth a’n brand digidol. Mae’r enw parth yn chwarae rhan hanfodol yn y ffordd mae ein cwsmeriaid a’n rhanddeiliaid yn cydnabod ein busnes fel Banc Datblygu Cymru, ar gyfer Cymru.

Mae’r enw parth yn ein helpu i ddiffinio ein presenoldeb ar-lein fel rhan annatod o fywyd Cymru ac economi Cymru. ”

Cefnogi busnesau yn ystod Covid-19

Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn heriol i’r rhan fwyaf o berchnogion busnes. Ddiwedd mis Mawrth, mewn ymateb i Covid-19, aeth Banc Datblygu Cymru ati i lansio Cynllun Benthyciadau Busnes Cymru Covid-19 oedd yn werth £100m.

Erbyn 30 Gorffennaf 2020, roedd cyfanswm o 1,331 o fusnesau wedi manteisio ar gyfleuster benthyciadau’r banc gan fenthyg ychydig dros £92m i gyd, gan helpu i ddiogelu dros 16,000 o swyddi.

Roedd y gronfa’n rhan o Gronfa Cadernid Economaidd ehangach Llywodraeth Cymru, sy’n werth £500m, ac roedd yn darparu cyfalaf gweithio i fusnesau oedd yn cael anawsterau llif arian o ganlyniad i’r pandemig.

 

Defnyddiwch ein peiriant chwilio i weld a yw eich enw parth delfrydol chi ar gael heddiw.

mwy o lwyddiannau

Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru
Read
Portmeirion
Read
National Botanic Garden of Wales
Read

© Nominet UK 2024