Sut all eich busnes ddefnyddio LinkedIn?

Mae’n debyg y gwyddoch chi eisoes fod Facebook a Twitter yn llwyfannau gwych i ddatblygu busnes a chyrraedd cwsmeriaid, ond efallai nad ydych chi wedi ystyried sut gallai LinkedIn hefyd gynorthwyo eich busnes i gysylltu â’ch cynulleidfaoedd.

Mae ganddo dros 500 miliwn o ddefnyddwyr ac mae’r niferoedd hynny’n cynyddu, a bydd un o bob tri gweithiwr proffesiynol yn defnyddio LinkedIn, felly mae gan y llwyfan cymdeithasol hwn botensial grymus iawn os gwyddoch chi sut i wneud y defnydd gorau ohono.

Yn yr erthygl hon, byddwn yn dangos i chi sut i gychwyn defnyddio LinkedIn, ac yn cynnig nifer o gynghorion ynghylch sut gall eich busnes elwa o ymuno â’r llwyfan cymdeithasol.

Llunio tudalen eich cwmni

Mae’r dudalen sydd gennych chi ar gyfer eich busnes yn wahanol i’r hyn sydd gennych chi eisoes ar gyfer eich proffil personol ar LinkedIn. Gelwir proffil busnes ar LinkedIn yn ‘Dudalen Cwmni’ a dyna ble gall defnyddwyr LinkedIn gael rhagor o wybodaeth am eich busnes.

Hefyd, pan fydd eich staff yn nodi yn eu proffiliau personol eu bod yn gweithio i chi, bydd eu proffiliau yn cysylltu â’r dudalen cwmni, a dyma ble gallwch chi rannu newyddion diweddaraf eich busnes a chyfleoedd newydd am swyddi.  Gall cwsmeriaid, cleientiaid ac unrhyw un sydd â diddordeb yn eich busnes ddewis eich dilyn chi a chael diweddariadau.

Gallwch gychwyn llunio eich tudalen cwmni yma, ond yn gyntaf, darllenwch ein cynghorion defnyddiol:

  • Sicrhewch fod enw eich tudalen cwmni ar LinkedIn yr un fath ag enw eich busnes.
  • Nodwch gymaint o fanylion ag y gallwch chi am eich busnes, yn cynnwys y disgrifiad ble gallwch chi ddatgan pwy ydych chi, a beth mae eich busnes yn ei gynnig.
  • O’r ddewislen, gallwch ddewis maint eich busnes, eich diwydiant, a dewisiadau o gategorïau eraill. Cofiwch hefyd gynnwys rhywfaint o wybodaeth am eich cynhyrchion neu eich gwasanaeth fel gall y sawl sy’n troi at eich tudalen am y tro cyntaf ddeall beth yn union yw maes eich gwaith.
  • Cofiwch gynnwys unrhyw arbenigeddau ac allweddeiriau i helpu pobl i’ch canfod chi pan fyddant yn chwilio ar LinkedIn neu Google.
  • Dewiswch URL unigryw, nid y llythrennau a’r rhifau bydd LinkedIn yn eu clustnodi’n awtomatig i’ch proffil, ac unwaith eto, dylai hyn fod yr un fath ag enw eich busnes.
  • Cynhwyswch ddolen at eich gwefan.
  • Defnyddiwch logo diweddaredig, cydraniad uchel, fel llun eich proffil, a dewiswch lun addas fel eich delwedd baner hefyd.  Dylai golwg eich tudalen LinkedIn edrych yn debyg i olwg eich gwefan i sicrhau fod eich brandio yn gyson.

Pan fyddwch chi’n fodlon â’ch tudalen cwmni ac wedi’i phrawfddarllen, pwyswch “publish” fel daw’r dudalen yn ‘fyw’.  Nawr gallwch chi gadw llygaid ar ei llwyddiant yn yr adran “Follower Insights” ble gallwch chi fonitro dadansoddeg defnyddiol ynghylch perfformiad eich tudalen a demograffeg eich dilynwyr.

Rhannwch ddiweddariadau rheolaidd

Mae LinkedIn yn rhwydwaith cymdeithasol, sy’n golygu y gallwch ei ddefnyddio yn debyg i broffil Facebook neu Twitter, yn cynnwys cyhoeddi diweddariadau rheolaidd a wnaiff ymddangos ar eich tudalen cwmni ac yn ffrydiau newyddion eich dilynwyr. Gall pobl hoffi a chynnig sylwadau am eich cyhoeddiadau a’u rhannu ar LinkedIn, yn debyg i Facebook, ac fe wnaiff yr holl gysylltiadau hyn sicrhau fod rhagor o bobl yn cael gwybod am eich cyhoeddiadau a’ch busnes.

Nawr dylech chi ystyried beth ddylech ei gynnwys yn eich cyhoeddiadau/  Dyma sut mae proffiliau LinkedIn yn wahanol i rai Facebook a Twitter. Mae diweddariadau am gwmni yn fan cychwyn gwych, er enghraifft, os ydych chi wedi ennill gwobr yn ddiweddar neu wedi lansio cyfres newydd o gynhyrchion, rhowch wybod i ddilynwyr eich proffil LinkedIn am hynny.  Gallwch hefyd rannu dolenni at gyhoeddiadau ar flogiau ac unrhyw ddiweddariadau ynghylch diwylliant y cwmni, er enghraifft, cyfweliadau â chyflogeion presennol.

I ehangu eich cynulleidfa ac annog sgyrsiau ar LinkedIn, gallech chi rannu dolenni at unrhyw straeon newydd sy’n berthnasol i’ch diwydiant a’ch busnes. Beth am ofyn i ddilynwyr beth yw eu barn am y stori i annog rhyngweithio a thrafod?

Dyma ragor o gynghorion ynghylch cyhoeddiadau ar LinkedIn:

  • Cynhwyswch ddelweddau a fideos os gallwch chi i sicrhau ymgysylltu gwell, oherwydd, ar y cyfan, maent yn arwain at 98% yn rhagor o sylwadau, a bydd fideos yn arwain at gyfradd rhannu sydd 75% yn uwch.
  • Os yn briodol, defnyddiwch symbol @ i gyfeirio at unigolyn neu fusnes i ehangu cyrhaeddiad eich cyhoeddiad, tebyg i Facebook.
  • Defnyddiwch hashnodau, unwaith eto pan fo hynny’n briodol, i gyfrannu at sgyrsiau ehangach y gellir eu chwilio, tebyg i Twitter.
  • Neilltuwch rywfaint o amser i ymateb i sylwadau am eich diweddariadau; cofiwch mai trafodaeth ddwyffordd sy’n digwydd ar gyfryngau cymdeithasol.
  • Peidiwch â chysylltu eich cyfrif LinkedIn â’ch proffil Facebook neu Twitter, oherwydd dylech chi osgoi cyhoeddi eich cyhoeddiadau Facebook a’ch trydariadau yn awtomatig ar LinkedIn – nid yw’r hyn sy’n llwyddo ar un cyfrwng cymdeithasol yn addas o reidrwydd i un arall.

Mae LinkedIn yn wefan rhwydweithio cymdeithasol i bobl broffesiynol, felly yn naturiol, mae’r diweddariadau ar y cyfan yn fwy difrifol eu natur na’r diweddariadau difyrrach hynny y byddech chi’n ystyried eu rhannu ar Facebook neu Twitter. Serch hynny, nid yw hynny’n golygu na allwch chi gynnwys rhywfaint o hiwmor yn LinkedIn, ond cofiwch sicrhau fod hynny’n berthnasol ac yn rhan o bersonoliaeth eich brand. Cliciwch yma i ddysgu rhagor am lunio diweddariadau atyniadol ynghylch eich cwmni.

Cyfrannwch at sgyrsiau

Un o’r pethau gwych am LinkedIn yw’r ffaith ei fod yn caniatàu i chi gyrraedd at lawer o gwsmeriaid newydd posibl heb orfod talu am hysbysebu o reidrwydd. Mae LinkedIn yn wefan rhwydweithio cymdeithasol yn anad dim, felly cofiwch wneud y defnydd gorau ohoni i gysylltu â chysylltiadau newydd yn eich diwydiant.  Gallwch ganfod Grwpiau LinkedIn ble mae pobl yn trafod materion perthnasol, a gallwch gyfranogi yn y drafodaeth. Cychwynnwch eich trafodaethau eich hun a chyfrannwch at drafodaethau pobl eraill. Fe wnaiff dilyn wynebau dylanwadol eraill yn eich diwydiant hefyd eich helpu i gael y newyddion diweddaraf a gallai hynny sbarduno syniadau am eich cynnwys eich hun.

Dewch yn arloeswr barn trwy gyhoeddi eich syniadau

Gall defnyddio LinkedIn Publishing i gyhoeddi erthyglau helpu i wella eich proffil, a gallai hynny olygu fod cynulleidfa ehangach yn darllen am eich syniadau.  Mae’n ffordd wych o sefydlu eich hun fel arloeswr barn o fewn eich diwydiant, a bob tro bydd rhywun yn hoffi eich cyhoeddiad neu’n cynnig sylwadau amdano, bydd yn ymddangos yn eu ffrwd newyddion hwy hefyd.

Os ydych chi eisoes yn ysgrifennu blog ar eich gwefan, gallwch chi ailgyhoeddi eich cynnwys fel erthyglau LinkedIn, gan gynnwys llinell ar waelod yr erthygl yn nodi fod y darn wedi’i gyhoeddi’n wreiddiol ar eich gwefan. Cynhwyswch ddolen at eich gwefan hefyd i gynorthwyo i sbarduno traffig i’ch gwefan.

Cynhwyswch fanylion eich busnes yn eich proffil personol i gael eich argymell gan eraill

Nodwch fanylion eich gwaith presennol ynghyd â’ch safle yn eich busnes yn eich proffil personol ar LinkedIn, i’ch cysylltu eich hun â’ch tudalen cwmni. Anogwch eich staff i wneud yr un peth hefyd fel bydd eu cysylltiadau hwy yn gweld manylion eich busnes.

Yna, gallwch ofyn i’ch cleientiaid a’ch cwsmeriaid eich argymell ar LinkedIn er mwyn cynorthwyo i ddatblygu eich hygrededd, fel unigolyn ac fel busnes. Efallai hefyd y gallwch chi ganfod rhywfaint o ddyfyniadau dymunol y gallwch eu defnyddio ar eich gwefan, â chaniatâd yr sawl a ysgrifennodd yr adolygiad. Mae hyn yn creu argraff dda yn eich proffil, ac mae hefyd yn cael ei weld gan rwydwaith yr unigolyn a ysgrifennodd yr argymhelliad os bydd yn ei rannu, felly bydd eraill yn dod i wybod amdanoch chi a’r pethau gwych a ddywedir gan eich cwsmeriaid.

Defnyddiwch LinkedIn i ymchwilio i’r farchnad

Pan fydd gennych chi nifer dda o bobl yn dilyn tudalen eich cwmni, bydd yn adnodd defnyddiol iawn i chi i ymchwilio i’r farchnad am ddim. Er enghraifft, os ydych chi wedi lansio cynnyrch newydd, gallwch chi ofyn i’ch dilynwyr a fyddent yn argymell unrhyw welliannau i sicrhau ei fod yn well fyth.  Neu, os ydych chi’n ystyried ehangu eich busnes i faes gwasanaeth newydd, gallech ddefnyddio LinkedIn i weld a oes galw am hynny trwy holi eich dilynwyr a fyddai ganddynt ddiddordeb.

Gallwch chi hefyd ddefnyddio Grwpiau LinkedIn mewn modd tebyg; cychwynnwch trwy ganfod grwpiau sy’n berthnasol i’ch busnes a chychwynnwch sgwrs trwy ofyn am safbwyntiau. Gallech hyd yn oed bori trwy’r grwpiau hyn i nodi unrhyw heriau mae cwsmeriaid yn eu hwynebu y gallai eich cynhyrchion neu eich gwasanaethau eu cynorthwyo â hwy.

Llenwch swyddi gweigion

Mae unrhyw un sydd o ddifrif am ddatblygu ei yrfa yn aelod o LinkedIn, sy’n golygu ei fod yn adnodd gwych i ganfod pobl ddawnus a allai fod yn awyddus i weithio i chi.  Gallwch gyhoeddi hysbysebion am swyddi ar y llwyfan, neu hyd yn oed ei ddefnyddio i ganfod darpar ymgeiswyr a chysylltu â hwy yn uniongyrchol. Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth ynghylch cyhoeddi manylion swyddi gweigion ar LinkedIn yma. 

Related blog posts

desk
Canllaw i hysbysebu ar LinkedIn ar gyfer busnesau bach
Read
Person on computer
Hysbysebu eich busnes bach ar-lein
Read
Creu strategaeth Instagram mewn pum cam
Read

© Nominet UK 2024