Erbyn hyn, mae pob etholiad yn etholiad ar-lein ac mae pob un yn teimlo ychydig yn wahanol.
Ond y tro hyn yng Nghymru, mae gennym elfen Gymreig wahanol sy’n gwneud etholiad y Cynulliad yn fwy Cymreig nag erioed. Oherwydd yn 2016, mae’r rhyngrwyd gwleidyddol gwirioneddol yn .cymru a .wales am y tro cyntaf.
Edrychwch ar sut mae’r prif bleidiau gwleidyddol yn hyrwyddo eu hunain ar-lein. Mae nhw’n defnyddio http://www.welshlabour.wales/, http://www.demrhyddcymru.cymru/, a http://ukip.cymru/.
Ac mae’r pleidiau’n mynd a hyn ymhellach gan ddefnyddio’r parthau i greu cysondeb, gyda maniffesto Llafur yn cael ei lansio ar http://www.gydangilydddros.cymru/, sy’n datgan slogan eu hymgyrch yn glir.
Enghraifft arall yw gwefan lluniwyd gan Plaid Cymru i gwtogi URLau https://voteplaid.cymru/ sy’n symleiddio cyfeiriadau we i greu fersiwn byrrach sy’n cynnwys yr hys-bys gwleidyddol hollbwysig.
Tra bod ymgeiswyr unigol yn creu gwefannau fel http://www.jaynebryant.wales/ neu cyfeiriadau ebost fel [email protected], sy’n dangos hyblygrwydd y parthau newydd.
Pwy bynnag yw’r blaid, mae’n debyg bod .cymru a .wales yn arwain y gad o ran llwyfannau gwleidyddol yn ystod yr etholiad hwn.
© Nominet UK 2024