Blwyddyn wedi lansiad enwau parth cyntaf Cymru, mae dros 19,000 o bobl wedi ymuno a .cymru a .wales.
Heddiw (Dydd Mercher 2il Mawrth) fe fydd y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates AC yn croesawu datblygiad gwych .cymru a .wales ar eu pen-blwydd cyntaf. Gyda dros 19,000 o gofrestriadau hyd yma, mae .cymru a .wales bellach ymysg y 10 uchaf o Barthau Lefel Uchaf daearyddol Ewrop sy’n cynnwys .paris, .london a .berlin.*
Mewn digwyddiad i nodi blwyddyn ers lansio enwau parth .cymru a .wales, fe fydd y Dirprwy Weinidog yn clywed am brofiadau rheiny sydd wedi newid i .cymru a .wales. Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach, Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Llywodraeth Cymru ymysg y miloedd o’r rheiny led led Cymru sydd wedi croesawu’r parthau newydd.
Mae’r parthau wedi cynnig cyfle i ddewis cartref ar-lein sy’n cynrychioli pobl, hunaniaeth ac iaith Cymru am y tro cyntaf yn hanes y rhyngrwyd. Dengys ymchwil bod 1 mewn 30 enw parth yn cynnwys cyfenw Cymreig, gyda Jones y cyfenw mwyaf poblogaidd i’w ddefnyddio mewn cyfeiriad we, gydag Evans a Williams yn ail a thrydydd a gyda llawer ohonynt yn defnyddio .cymru neu .wales ar gyfer eu cyfeiriadau we. Mae sector twristiaeth Cymru hefyd yn cymryd mantais o’r enwau parth newydd, gyda ‘eco’, ‘holiday’ a ‘hire’ ymysg y geiriau mwyaf poblogaidd ar gyfer cyfeiriadau .cymru a .wales.**
Wrth groesawu datblygiad .cymru a .wales hyd yn hyn a nodi pwysigrwydd y parthau i gynnig twristiaeth Cymru, dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, “Fel yr ydym yn symud i fyd fwyfwy ar-lein, mae .cymru a .wales yn sicrhau bod Cymru yn sefyll allan yn ddigidol. Mae’r newyddion ein bod yn cystadlu gyda’n cymdogion a’n bod nawr yn y 10 Uchaf yn Ewrop yn wych i wlad mor fach, ynghyd â’r newyddion bod geiriau fel ‘holiday’ a ‘hire’ ymysg y geiriau mwyaf poblogaidd i’w cofrestru. Mae .cymru a .wales yn cynnig presenoldeb ar wahân i ni ar y rhyngrwyd, gan fynd a Cymru i’r byd ac mae’n rhaid i ni sicrhau bod y parthau yn parhau ar y llwybr yno.”
Dywedodd Russell Haworth, Prif Swyddog Gweithredol Nominet, y cwmni sy’n gyfrifol am redeg .cymru a .wales, “Mae’r croeso i .cymru a .wales wedi bod yn anhygoel. Mae’n wych gweld bod busnesau, unigolion a sefydliadau ar hyd a lled Cymru wedi cofrestru er mwyn dathlu eu hunaniaeth gyda chwsmeriaid Cymraeg a’r iaith Gymraeg.”
NODIADAU I OLYGYDDION
*Ffynhonnell: Dadansoddiad data wedi’i ymgymryd gan Nominet ar 31 Ionawr 2016. Gan ddefnyddio data wedi’i gymryd o wefan nTLDstats, fe wnaeth nominet ymgymryd â dadansoddiad o gofrestriadau o’r 14 Parth Lefel Uchaf daearyddol Ewropeaidd. Yn yr achosion lle mae PLUd wedi eu lansio mewn parau (e.e. Cymru/Wales a Cologne/Koeln) mae cofrestriadau wedi cael eu cyfuno. Mae nTLDstats yn casglu data o adroddiadau gwraidd parth ar gofrestriadau parth sy’n cael eu cofnodi gan ICANN, y sefydliad sy’n gyfrifol am gynnal y System Enwau Parth byd-eang.
**Ffynhonnell: Fe wnaeth Diffusion PR ymgymryd dadansoddiad enwau parth wedi’i seilio ar 18,929 parth .cymru a .wales cofrestrwyd rhwng 1 Mawrth 2015 a 8 Chwefror 2016, gyda’r holl ddata enwau parth wedi ei ddarparu gan Nominet. Dadansoddwyd enwau parth sy’n cynnwys cyfenw Cymreig a chroes-gyfeiriwyd gyda’r ffynhonnell canlynol: McElduff, F., Mateos, P., Wade, A., a Cortina Borja, M. (2008) What’s in a name? The frequency and geographic distributions of UK surnames. Significance. 5(4):189- 192.
© Nominet UK 2024