Dros 5,000 cyfeiriad .cymru a .wales wedi’u gwerthu yn y 24awr cyntaf gyda dros 1,000 yn yr awr gyntaf.
Mae’r nifer o barthau newydd .cymru a .wales bellach wedi cyrraedd dros bum mil, gyda dros fil parth wedi’u gwerthu yn yr awr gyntaf ddoe. Fe aeth y parthau newydd ar werth i bawb am hanner dydd ar Ddydd Gŵyl Dewi.
Mae dros ddau draean (65%) o oedolion yng Nghymru’n uniaethu gyda bod yn gwbl neu’n rhannol Gymraeg, nid Prydeinig yn unig, gyda bron pawb yn y grŵp yno (97%) yn datgan balchder yn eu treftadaeth.* Hyd hyn, nid oedd yn bosib cael enwau parth Cymreig ac ynghyd a gwefannau, gall enw parth eich caniatáu i gael cyfeiriad e-bost personol sy’n adlewyrchu eich hunaniaeth ar-lein.
Datblygwyd dull newydd ar gyfer y parthau hyn lle fydd .cymru a .wales yn ddwyieithog a byddent yn caniatáu cofrestriad enwau gyda llythrennau acennog y Gymraeg. Felly, os ydych yn falch o fod yn Gymraeg, neu fod eich cysylltiadau Cymraeg yn bwysig i’ch busnes, bellach gallwch ddathlu hynny wrth roi enw i’ch gwefan sy’n diweddu gyda .cymru neu .wales.
Dywedodd Russell Haworth, Prif Swyddog Gweithredol Nominet, “Mae wedi bod yn wych bod yn rhan o wireddiad .cymru a .wales. Mae’r parthau newydd hyn yn rhan o’r cynnig ehangach ar ôl y dot i unrhyw un sydd eisiau Cymreigio’r we.“
Mae holl barthau .cymru a .wales nawr ar gael ar sail gyntaf i’r felin. Am ragor o wybodaeth, ewch i eincartrefarlein.cymru
Nodiadau i Olygyddion
Methodoleg Ymchwil
*Fe wnaeth Opinium Research cwestiynu 1,003 oedolyn Cymraeg rhwng 5ed Chwefror 2015 a 10fed Chwefror 2015.
© Nominet UK 2024