Mewn trafodaethau rhyngwladol, mae swyddogion Urdd Gobaith Cymru wedi bod wrth eu bodd yn cael dweud mai .cymru oedd yr enw ar eu gwefan.
Mae’r mudiad yn datblygu cynllun ar y cyd gyda mudiadau tebyg yn Iwerddon a Chatalunya, dwy wlad sydd â’u henwau eu hunain – .ie a .cat – ers blynyddoedd.
“Roedd hi’n braf gallu dweud mai .cymru oedden ninnau,” meddai Prif Weithredwr yr Urdd, Efa Gruffydd Jones. “R’yn ni’n falch iawn o gael y cyfle i ddefnyddio’r enw parth.”
Roedd yr amseru’n berffaith i’r mudiad, a hwythau’n gallu lansio fersiwn newydd o’u gwefan yr un pryd â’r enw newydd. Ac mae’r traffig wedi cynyddu.
“Fe wnaethon ni gofrestru gyda .cymru mor fuan ag y gallen ni,” meddai Efa. “Ni oedd un o’r elusennau cynta’ i ddefnyddio’r enw.
“Roedden ni wedi cefnogi’r ymgyrch i gael enw Cymreig o’r dechrau. Mae e’n beth amlwg i ni ei gefnogi. Mae gwerth symbolaidd iddo fe.”
Mae .cymru hefyd yn adlewyrchu pwysigrwydd y wefan i’r mudiad – un o’r dulliau mwya’ effeithiol o gysylltu gydag aelodau a rhieni.
Ac mae’r Urdd yn arwain yn y maes digidol – App yr Eisteddfod yw un o’r rhai ucha’i ddefnydd trwy gyfrwng y Gymraeg.
© Nominet UK 2024