Cyflwyniad i awtomeiddio e-bost ar gyfer busnesau bach

Mae awtomeiddio e-bost yn rhywbeth mae bron pawb ohonon ni wedi’i brofi ar ryw adeg neu gilydd. Rydych chi fwy na thebyg wedi derbyn cannoedd o negeseuon e-bost sydd wedi’u hanfon yn awtomatig.

Ond sut yn union mae’n gweithio?

Mae awtomeiddio e-bost yn ddull syml ond effeithiol iawn y gall busnesau o bob maint ei ddefnyddio i wella cyfraddau agor negeseuon ac i yrru trosiadau. Mae’n defnyddio meddalwedd i nodi rheolau sydd wedi’u diffinio ymlaen llaw, sy’n anfon negeseuon e-bost yn seiliedig ar gamau penodol mae eich cwsmeriaid yn eu cymryd neu ddim yn eu cymryd.

Efallai nad ydych chi wedi meddwl am y peth mewn gwirionedd, ond os ydych chi wedi cofrestru i dderbyn cylchlythyr neu wedi agor cyfrif newydd ar wefan er enghraifft, mae’n debygol iawn eich bod chi wedi cael neges groeso dros e-bost bron yn syth. Drwy gyflwyno’ch manylion, rydych chi wedi sbarduno gweithred a ddywedodd wrth y feddalwedd am anfon y neges berthnasol atoch chi.

Manteision awtomeiddio marchnata dros e-bost

  1. Mae’n effeithlon – yn arbed amser i chi rhag gorfod stopio’r hyn rydych chi’n ei wneud i lunio ac i anfon e-bost at gwsmer bob tro bydd gweithred yn cael ei chyflawni ar eich gwefan.
  2. Mae’n eich helpu i gysylltu â’ch cwsmeriaid drwy gynnig profiad personol. Dywed 91% o bobl eu bod yn fwy tebygol o ddefnyddio cwmni sy’n anfon argymhellion a chynigion unigryw.
  3. Mae’n awtomatig – sy’n sicrhau eich bod chi’n anfon y neges gywir i gwsmeriaid ar yr amser iawn.
  4. Mae’n gwella’r gwasanaeth i gwsmeriaid, sydd yn ei dro yn helpu i feithrin teyrngarwch brand. Er enghraifft, pe bai rhywun yn prynu eitem o’ch gwefan, bydden nhw’n disgwyl derbyn neges e-bost i gadarnhau yn syth wedi hynny.
  5. Ar gyfartaledd, mae cyfraddau agor uwch gan ymgyrchoedd e-bost awtomatig. Cyfradd agor negeseuon croesawu ar gyfartaledd yw 82%. Mae cyfradd agor negeseuon sydd â llinellau pwnc wedi’u personoli 50% yn uwch na rhai sydd heb, ac mae anfon tair neges am gynnyrch sydd wedi’i adael yn y fasged yn arwain at 69% yn fwy o archebion o gymharu ag anfon un neges.
  6. Mae’n berthnasol. Pan fydd rhywun yn cael neges awtomatig, mae’n nhw’n gwneud hynny am eu bod wedi cyflawni cam penodol. O ganlyniad, mae’r neges maen nhw wedi’i derbyn yn berthnasol iawn iddyn nhw.

Mathau o awtomeiddio e-bost

Os ydych chi wedi rhoi cynnig ar awtomeiddio e-bost yn y gorffennol neu’n bwriadu dechrau ei ddefnyddio, isod mae enghreifftiau o syniadau ymgyrchoedd sy’n nodi sut i’w ymgorffori yn eich busnes.

  1. Negeseuon croeso

Mae neges groeso syml yn ffordd wych o roi gwybod i’ch cwsmeriaid eu bod wedi cofrestru’n llwyddiannus gyda chi. Mae gennych gyfle hefyd i atgoffa cwsmeriaid o’r ffyrdd y byddan nhw’n elwa wrth gynnal busnes gyda chi. Er enghraifft, gallech dynnu sylw at fanteision fel dosbarthu am ddim, cynigion unigryw a newyddion.

Welcome email

  1. Negeseuon atgoffa am apwyntiad

Gallwch ddefnyddio awtomeiddio e-bost i anfon negeseuon atgoffa am apwyntiadau i gwsmeriaid hefyd. Mae systemau archebu a chadw ar-lein yn boblogaidd iawn y dyddiau hyn, felly byddai awtomeiddio yn eich galluogi hefyd i gadarnhau apwyntiadau ac anfon nodiadau atgoffa at bobl.

Mae llawer o fusnesau yn eu defnyddio fel cyfle i atgoffa cwsmeriaid am wybodaeth arall hefyd, fel cyfarwyddiadau, manylion talu, polisïau canslo ac unrhyw beth arall y gallai fod ei angen ar gwsmeriaid cyn eu hapwyntiad.

Appointment reminder

  1. Neges am gynnyrch sydd wedi’i adael yn y fasged

Gall negeseuon e-bost am gynnyrch sydd wedi’i adael yn y fasged fod yn ddull effeithiol ar gyfer troi darpar gwsmer yn gwsmer. Os yw rhywun wedi bod yn pori’ch gwefan ac wedi cymryd y cam o roi rhywbeth yn eu basged siopa, mae’n eithaf tebygol eu bod nhw’n agos iawn at brynu’r eitem.

Fodd bynnag, gallai un o sawl peth fod wedi achosi iddyn nhw newid eu meddwl ar y funud olaf – boed hynny’n gostau cludo neu bod angen ychydig bach mwy o amser arnyn nhw i feddwl cyn prynu.

Mae negeseuon e-bost am gynnyrch sydd wedi’i adael yn y fasged yn helpu i annog cwsmeriaid i wneud penderfyniad i brynu ac i gwblhau’r archeb. Gallwch wneud hyn drwy ei gwneud hi’n hawdd iawn iddyn nhw gwblhau’r archeb, ateb unrhyw gwestiynau a allai fod ganddyn nhw, eu hatgoffa pam y dylen nhw brynu’ch cynnyrch neu gynnig gostyngiad hyd yn oed.

Abandoned cart

 

  1. Cynigion unigryw

Ffordd dda arall o ddangos i’ch cwsmeriaid eich bod yn eu gwerthfawrogi yw drwy roi gwobrau am eu teyrngarwch.

Mae sawl ffordd o wneud hyn; does dim rhaid iddo fod yn rhy gymhleth.

Gallech anfon cynigion unigryw atyn nhw i wneud iddyn nhw deimlo’n arbennig neu roi mynediad iddyn nhw at gynigion arbennig cyn eu cynnig i weddill y byd – gallai hyn gael ei sbarduno pan fydd rhywun wedi cofrestru neu agor nifer penodol o ymgyrchoedd e-bost.

Thank you

  1. E-byst diolch

Gallwch ddangos i’ch cwsmeriaid eich bod chi’n eu gwerthfawrogi drwy anfon neges e-bost i ddiolch atyn nhw. Os ychwanegwch chi god gostyngiad i’r neges, gall hyn eu hannog i brynu rhywbeth nad oedden nhw wedi ei ystyried cyn i’ch e-bost gyrraedd eu blwch derbyn.

Exclusive offers

  1. Argymhellion yn seiliedig ar ymddygiadau pori

Gall awtomeiddio e-bost marchnata fod yn soffistigedig iawn. Gallwch sefydlu negeseuon a fydd yn cael eu sbarduno ar ôl i bobl gwblhau gweithred ar eich gwefan hyd yn oed – fel lawrlwytho canllaw, edrych ar gynnyrch penodol, neu ddarllen blog.

Mae bareMinerals yn hoff iawn o wneud hyn. Pan fyddwch wedi bod yn edrych ar gynnyrch ar eu gwefan ond heb brynu dim, byddwch yn cael neges e-bost ychydig ddyddiau’n ddiweddarach sy’n dangos yr eitemau oedd o ddiddordeb i chi ac yn eich atgoffa o rai o’r pethau eraill maen nhw’n eu cynnig a allai fod o ddiddordeb i chi hefyd.

Gall hyn fod yn ffordd effeithiol iawn o arwain pobl i’r cyfeiriad cywir i ailystyried prynu neu eu temtio gyda rhywbeth arall.

Recently browsed email

  1. Negeseuon e-bost “Dydyn ni ddim wedi’ch gweld ers tro”

Os nad yw cwsmer wedi prynu cynnyrch neu wneud apwyntiad gyda chi ers tro, gall nodyn cyfeillgar i’w hatgoffa eich bod chi yma i helpu fod yn ffordd wych o’u cymell i ddefnyddio’ch cwmni eto.

Os gallwch chi, mae ychwanegu cod gostyngiad gyda therfyn amser yn ffordd wych o helpu i berswadio pobl i weithredu’n gyflym hefyd.

Reminder email

  1. Gofyn am adolygiad

Mae llawer ohonon ni’n pori ac yn chwilio am adolygiadau ar gyfer cwmnïau a chynnyrch cyn gwneud penderfyniad i’w prynu ar-lein. Mae cael adolygiadau gan gwsmeriaid go iawn yn ffordd wych o adeiladu ymddiriedaeth a gall wneud gwahaniaeth o ran cwsmer newydd yn dewis eich cwmni chi dros gystadleuydd.

Yn hytrach na chysylltu â phob cwsmer yn unigol, gallwch sefydlu negeseuon e-bost awtomatig sy’n cael eu hanfon at unrhyw un sydd wedi prynu’ch cynnyrch ac sy’n gofyn iddyn nhw ysgrifennu adolygiad. Y peth allweddol yw ei gwneud mor hawdd â phosib i bobl. Os yw’n waith caled neu’n gymhleth, mae’n annhebygol y bydd pobl yn ei wneud.

Review request email

Sut mae awtomeiddio e-bost yn gweithio?

Gan fod gennych syniadau am y math o negeseuon y gallwch eu hanfon gan ddefnyddio awtomeiddio, gadewch i ni edrych ar sut mae’n gweithio. Er na fydd pob teclyn awtomeiddio e-bost yr un peth, maen nhw’n tueddu i ddilyn yr un broses:

  1. Mae unigolyn yn ymweld â gwefan ac maen nhw’n cyflawni gweithred fel lawrlwytho canllaw, llenwi ffurflen, pori cynnyrch, gwneud apwyntiad, darllen blog neu brynu cynnyrch.
  2. Ar yr amod bod yr ymwelydd wedi mewngofnodi i’r wefan, wedi darparu ei fanylion cyswllt ac wedi rhoi caniatâd, caiff yr unigolyn ei ychwanegu at gronfa ddata marchnata e-bost.
  3. Caiff ymwelwyr eu gosod mewn gwahanol segmentau cynulleidfa yn seiliedig ar unrhyw nodwedd benodol, o’u lleoliad a’u diddordebau i’w hymddygiadau pori a phrynu.
  4. Gan ddefnyddio’r feddalwedd awtomeiddio marchnata e-bost, gall gwerthwyr osod sbardunau (rheolau) fel bod negeseuon yn cael eu hanfon at y bobl iawn ar yr amser iawn.
  5. Mae’r derbynnydd yn derbyn e-byst yn seiliedig ar yr amodau a’r ymgyrchoedd a bennwyd gan y gwerthwr.

Mae’n bwysig gwirio’ch dadansoddeg yn rheolaidd i weld pa mor effeithiol mae’ch ymgyrchoedd wedi bod. Mae’n syniad da profi negeseuon e-bost ‘Dydyn ni ddim wedi’ch gweld ers tro’ gyda chod gostyngiad a heb god. Os yw’r negeseuon sy’n cynnwys cod gostyngiad yn llawer mwy effeithiol, dylech bob amser geisio cynnwys un mewn ymgyrchoedd yn y dyfodol.

Sefydlu awtomeiddio e-bost

Wrth wneud chwiliad cyflym ar y we, fe welwch nad oes prinder llwyfannau awtomeiddio e-bost ar gael. Mae llawer ohonyn nhw’n rhesymol o ran pris ac yn hawdd eu defnyddio sy’n eu gwneud yn ddelfrydol hyd yn oed i fusnesau bach. Os ydych chi eisoes yn defnyddio llwyfan marchnata e-bost, mae gan y mwyafrif ohonynt ganllawiau manwl a chyngor cam wrth gam i sefydlu awtomeiddio e-bost yn eu hadrannau cymorth.

Mae llwyfannau awtomeiddio e-bost poblogaidd yn cynnwys:

  1. SendPulse

Mae SendPulse yn llwyfan gwych ar gyfer anfon negeseuon, o e-byst am gynnyrch sydd wedi’i adael yn y fasged, negeseuon diolch a chofrestru, i negeseuon cadarnhau, adborth ac ail-ymgysylltu. A’r rhan orau yw, os oes gennych lai na 500 o danysgrifwyr – mae am ddim. Mae amrywiaeth o becynnau ar gael yn dibynnu ar faint o danysgrifwyr sydd gennych chi, am bris sy’n dechrau am llai na £5 y mis.

  1. MailChimp

Fel busnes bach, efallai eich bod eisoes yn gyfarwydd â MailChimp. Mae’n darparu pecyn hael am ddim sy’n hawdd iawn i’w ddefnyddio. Ymhlith rhai o’r nodweddion niferus, mae MailChimp hefyd yn cynnig awtomeiddio e-bost i helpu i godi’ch marchnata i’r lefel nesaf.

  1. Campaign Monitor

Llwyfan poblogaidd arall sy’n cael canmoliaeth uchel yw Campaign Monitor. Gallwch osod llwybrau sydd wedi’u teilwra i ddiddordebau ac ymddygiadau cwsmer unigol gyda’r fantais ychwanegol o optimeiddio amser anfon y neges fel y gallwch fod yn siŵr ei bod hi’n cyrraedd mewnflwch pobl ar yr amser gorau posib.

  1. Send in Blue

Gallwch awtomeiddio’ch prosesau gwerthu a marchnata yn gyflym ac yn hawdd gyda Send in Blue. Mae llawer o wahanol gynlluniau prisio ar gael i weddu i’ch busnes, gan ddechrau gyda phecyn am ddim sy’n eich galluogi i anfon 300 o e-byst y dydd hyd at gynllun premiwm, lle gallwch anfon hyd at 350,000 o negeseuon e-bost bob mis.

Os hoffech gymharu mwy o lwyfannau, ewch draw i capterra.com sydd ag adolygiad cyfredol o’r holl feddalwedd awtomeiddio e-bost diweddaraf.

Tiwtorialau fideo

Gallwch ddod o hyd i fideos defnyddiol ar YouTube sy’n egluro popeth sydd angen i chi ei wybod am farchnata e-bost, fel:

Erbyn hyn, dylai fod gennych syniad da iawn o beth yw awtomeiddio e-bost a sut y gall fod o fudd i’ch busnes. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y cydsyniad a’r caniatâd cywir i anfon e-byst marchnata i sicrhau eich bod yn cydymffurfio â GDPR. Mae rhagor o wybodaeth am GDPR ar gael yn y canllaw ar-lein yma.

 

Postiwyd yn wreiddiol gan Monique Holtman ar Barth y DU.

Related blog posts

Growing plants
7 ffordd o fesur perfformiad eich ymgyrchoedd e-bost
Read
Sut all eich busnes ddefnyddio LinkedIn?
Read
Twitter on mobile
Sut i ddefnyddio Twitter Analytics fel busnes bach
Read

© Nominet UK 2024