Mae gan 14 miliwn o bobl yn y DU gyfrif Twitter. Os nad ydych chi’n un ohonynt a’ch bod yn berchen ar fusnes bach, efallai eich bod yn colli allan ar dric proffidiol iawn.
Gan ystyried bod y defnyddiwr Twitter arferol yn dilyn pum busnes a bod 77% o bobl sy’n defnyddio Twitter yn dweud eu bod yn teimlo’n fwy cadarnhaol ynghylch brand pan fydd eu trydariadau yn derbyn ateb – efallai ei bod yn bryd ymgorffori’r llwyfan hwn i’ch strategaeth cyfryngau cymdeithasol. Os nad yw hynny’n ddigon argyhoeddiadol, mae 54% o ddefnyddwyr yn dweud eu bod wedi gweithredu ar ôl gweld cyfeiriad at frand ar Twitter ac mae cwmnïoedd sy’n defnyddio’r safle ar gyfer gwasanaethau cwsmeriaid yn gweld cynnydd o 19% mewn boddhad cwsmeriaid.
Bydd yr erthygl hon yn cwmpasu’r pethau allweddol sydd angen i chi eu gwybod ynghylch defnyddio Twitter Analytics, gan gynnwys sut i’w ddefnyddio a’r metrigau y dylech eu mesur.
Llwyfan ar Twitter yw hyn sydd yn eich galluogi i ddadansoddi eich trydariadau, deall eich dilynwyr ac yn bennaf i benderfynu sut mae’r cynnwys rydych yn ei rannu yn helpu i dyfu eich busnes.
Ar eich dangosfwrdd Twitter Analytics cewch ystadegau ar:
Bydd yr offeryn Quick Promote hefyd yn eich galluogi i rannu a hyrwyddo trydariadau o’ch dewis i gynulleidfaoedd a dargedwyd.
Fel unrhyw ymgyrch farchnata, mae’n bwysig dilyn trywydd canlyniadau. Mae’r weithgaredd hon yn allweddol os am ddeall bod yr hyn rydych yn ei wneud yn gweithio’n dda, neu ddim cystal, ac a ydych yn cael elw da ar eich buddsoddiad. Pan fydd data gennych, gallwch wneud penderfyniadau marchnata gwell a mwy gwybodus yn ymgyrchoedd y dyfodol.
Yn ogystal â darparu gwybodaeth werthfawr ynghylch eich perfformiad ar gyfryngau cymdeithasol, mae Twitter Analytics yn cynnig mewnwelediadau defnyddiol gan gynnwys:
Ydy eich Trydariadau yn perfformio’n well ar ddyddiau penodol? Ydy ambell bwnc yn cael mwy o enghreifftiau hoffi nag eraill? Os medrwch chi nodi amseroedd a diwrnodau pan yw’ch cynulleidfa yn fwy parod i ymateb a’r pynciau maent yn hoffi clywed amdanynt, bydd hyn yn rhoi hwb go iawn i’ch ymdrechion cyfryngau cymdeithasol.
O fewn dadansoddeg bydd modd i chi weld nifer o fetrigau o’ch neges fideo, gan gynnwys y nifer o weithiau roedd defnyddwyr wedi gwylio eich fideo a chyfanswm y munudau dreuliodd defnyddwyr yn gwylio’r fideo. Ynghyd â hyn, cewch weld y gyfradd gwblhau – sef canran y ddefnyddwyr a gwblhaodd y fideo a’r nifer o gliciau ar y botwm galwad i weithredu.
Mae cynnydd mewn dilynwyr yn arwydd da o sut mae eich cynnwys yn perfformio. Os gwelwch chi gynnydd sydyn mewn niferoedd, mae hyn yn gadarnhaol. Ar y llaw arall, os mai anaml y byddwch yn cael dilynwyr newydd, gall hyn fod yn arwydd nad yw eich cynnwys yn ddigon dengar.
Gallwch weld beth yn union mae rhywun yn ei wneud unwaith maent wedi clicio ar eich neges. Faint o amser a dreuliwyd ar eich gwefan? Oedden nhw wedi cwblhau galwad-i-weithredu? Oedden nhw wedi prynu rhywbeth?
Mae swyddogaeth gweithgaredd trydariad yn hanfodol am ei fod yn rhoi cyfle i chi ddadansoddi argraffiadau ac ymgysylltiadau. Cyfradd gyffredinol yr ymgysylltu sydd yn dweud wrthoch chi sut mae eich cynulleidfa yn ymateb i’ch cynnwys. Mae cyfradd isel o ymgysylltu yn awgrymu nad yw eich cynnwys yn taro deuddeg gyda’ch dilynwyr. Ond mae cyfradd dda o ymgysylltu yn dweud bod pobl yn ystyried bod eich neges yn ddiddorol, yn berthnasol ac yn haeddu ei hoffi, aildrydar neu sylw. A pheth arall, po uchaf eich cyfradd ymgysylltu, mwyaf tebygol bydd cynulleidfa newydd o ganfod eich negeseuon.
Mae dysgu sut i ddefnyddio Twitter Analytics yn hawdd iawn, sydd yn newyddion da i’r rhai hynny nad ydynt yn gyfarwydd â’r llwyfan.
Er mwyn dechrau, ewch i’r dudalen Twitter Analytics. Os ydych yn defnyddio cyfrifiadur bwrdd gwaith, cewch hyd i hyn trwy glicio ar y dair dot ar ochr dde’r ddewislen a dewis ‘Analytics’. Bydd hyn yn eich cyfeirio i’ch dangosfwrdd.
Ar eich dangosfwrdd cewch hyd i ddata defnyddiol o’r 28 diwrnod a aeth heibio megis argraffiadau, proffiliau ymweliadau a dilynwyr. Os sgroliwch i lawr gallwch hefyd weld eich trydariad pennaf a’ch crynodeb cyffredinol o’r misoedd blaenorol.
Ar frig tudalen y dangosfwrdd cewch hyd i tab o’r enw ‘Tweets’. Bydd clicio ar hwn yn rhoi dadansoddiad mwy manwl i chi o’ch gweithgarwch trydar, gan gynnwys ymgysylltiadau a chyfradd ymgysylltu. Yma hefyd gallwch ddewis ystod o ddyddiadau, a all fod yn arbennig o ddefnyddiol wrth gymharu perfformiad negeseuon dros y mis diwethaf, y chwarter diwethaf neu hyd yn oed blwyddyn.
Os ydych yn rhedeg hysbysebion Twitter, ewch i ‘Conversion tracking’; cewch hyd i hwn dan y tab ‘More’ ar eich dangosfwrdd. Fan yma, gallwch:
Fel y gwyddoch, mae Twitter Analytics yn offeryn defnyddiol iawn ar gyfer mesur perfformiad eich trydariadau a’ch hysbysebion. Er hyn, i sicrhau eich bod yn cael y budd mwyaf o’r llwyfan – pa fetrigau a ddylai gael eich sylw pennaf?
Gall tyfu eich dilynwyr cyfryngau cymdeithasol yn organig fod yn broses araf i unrhyw fusnes bach – p’un ai eich bod yn berchen ar bopty bach ym mhentref Gorslas neu’n gweithredu cwmni cefnogi TG yng nghanol Dinas Caerdydd.
Mae twf dilyniant yn fetrig pwysig i gadw golwg arno, oherwydd os ydych yn colli dilynwyr mae’n golygu bod angen addasu eich strategaeth. Efallai eich bod yn postio yn ysbeidiol, eich bod yn ailgyflwyno’r un hen gynnwys, efallai nad ydych yn arddangos personoliaeth eich busnes neu ddim yn ymgysylltu â’ch cynulleidfa.
O’r ochr arall, efallai eich bod wedi sylwi ar wythnos neu fis ble cynyddodd nifer eich dilynwyr yn sydyn. Edrychwch yn ôl ar eich negeseuon dros y cyfnod hwn ac adolygu eich gweithgarwch. Beth bynnag yw’r achos, dyma ddylech fod yn gwneud mwy ohono gan ei fod yn arwydd bod eich strategaeth Twitter yn gweithio’n dda.
Mae Twitter yn dweud wrthoch chi pa drydariad ddenodd yr argraffiadau mwyaf mewn mis penodedig. Gan mai’r neges hon gyrhaeddodd eich cynulleidfa fwyaf, mae’n enghraifft wych o’r hyn rydych yn ei wneud yn iawn a’r math o gynnwys y dylech ei bostio amlaf.
Mae llawer mwy y gallwch ddysgu o’ch prif drydariadau gan gynnwys:
Ymgysylltu yw’r nifer o weithiau mae pobl wedi rhyngweithio gyda’ch trydariadau. Gall hyn fod yn unrhyw beth o sylw neu hyd yn oed aildrydaru. Gorau po uchaf yw cyfradd eich ymgysylltu. Os nad ydych yn cael ymgysylltu da, rydych yn siarad â gwagle, ond os yw pobl yn ymateb, rydych yn gwybod eu bod yn ystyried bod yr hyn rydych yn ei ddweud o gymorth ac yn ddiddorol.
Mae dilyn trywydd cyfradd eich ymgysylltu dros gyfnod yn allweddol. Bydd hyn yn caniatáu i chi nodi patrwm pan ddaw i’r math o gynnwys sydd yn annog eich cynulleidfa i ymgysylltu â chi a beth sydd, yn nodweddiadol, wedi mynd i’r wal.
Nid yw’n syndod bod fideo yn dod yn gyfrwng mwy poblogaidd ar gyfryngau cymdeithasol. Mae Twitter Analytics yn eich galluogi i ddilyn trywydd eich gweithgarwch fideo ac yn dweud popeth wrthoch chi o sawl gwaith mae pobl wedi gwylio a pha mor hir mae pobl wedi gwylio eich fideo i beth yw eich cyfradd cwblhau.
Cyfradd cwblhau yw cyfanswm y golygon cyflawn a gwblhawyd wedi ei rannu gan y nifer o bobl a ddechreuodd wylio eich fideo. Mae hwn yn fetrig pwysig i’w fonitro gan ei fod yn dangos yn glir a yw pobl yn ystyried eich cynnwys yn ddengar neu beidio.
Er enghraifft, os yw eich cyfradd cwblhau yn isel, mae hyn yn golygu mai ond ychydig o bobl sydd yn gwylio hyd diwedd eich fideo. Ond os yw’r gyfradd hon ar yr ochr uchel, mae’n awgrymu bod defnyddwyr yn parhau i ymgysylltu ac yn gwylio tan y diwedd.
Mae hyn yn dweud wrthoch chi sawl gwaith roedd defnyddwyr wedi gweld eich trydariad. Fel rhan o’ch calendr cynnwys, nodwch pa amser rydych yn anfon pob neges. Bydd cyfuno hyn gyda’ch argraffiadau yn eich helpu i sefydlu’r amseroedd mae eich cynulleidfa ar-lein ac yn fwyaf tebygol o ymgysylltu â’ch cynnwys.
Os ydych wedi sylwi bod negeseuon penodol wedi derbyn mwy o argraffiadau nag sydd gennych o ddilynwyr, mae hyn yn arwydd gwych bod pobl nad ydynt yn ddilynwyr wedi dod o hyd i chi. Mae hyn yn debygol o fod trwy aildrydariad, sylwadau neu’r hashnodau rydych wedi eu defnyddio. Canolbwyntiwch ar anfon mwy o’r negeseuon hyn gan eu bod yn perfformio’n dda.
Os ydych yn dewis rhedeg hysbysebion ar Twitter, mae’n hanfodol eich bod yn cymryd amser i ddilyn trywydd eu llwyddiant, i sicrhau eich bod yn cael elw da ar eich buddsoddiad. Gallwch weld sawl argraff mae eich hysbyseb wedi derbyn, cost fesul canlyniad (CPR), ymgysylltiadau, cyfradd ymgysylltu ac, yn bwysicaf oll, trosiadau.
Mae’r metrigau hyn yn holl bwysig er mwyn penderfynu a yw eich hysbyseb yn derbyn y canlyniad roeddech yn ei ddymuno ar gyfer eich ymgyrch. Gall hyn amrywio wrth gwrs o ymgyrch i ymgyrch. Os ydych newydd greu tudalen lanio ar gyfer cynnyrch penodol rydych yn ei hyrwyddo, efallai mai cliciau fydd eich nod pennaf; yn yr achos hwn byddwch yn monitro cliciau’n agos. Ond os ydych am i bobl lawrlwytho papur gwyn o’ch gwefan, mae’n debyg mai trosiadau fydd eich prif flaenoriaeth.
Y peth gorau am Twitter Analytics yw hyn – er bod llawer iawn o wybodaeth ddefnyddiol ar gael, mae’n dal i fod yn hynod o hawdd ei ddefnyddio. Hyd yn oed i newydd ddyfodiaid. Gallwch hefyd allforio eich data i ffeil Excel sy’n ei gwneud yn hawdd cymharu canlyniadau eich holl ymgyrchoedd dros gyfnod o ddiwrnodau, wythnosau neu fisoedd.
Post gwreiddiol wedi’i greu gan Monique Holtman ar Barth y DU.
© Nominet UK 2025