Beth yw enw parth, a sut galla i brynu un?

Canllaw cam wrth gam i brynu enw parth  

Mae enwau parth, fel .cymru a .wales, yn eich helpu i ddiogelu eich rhan chi o’r rhyngrwyd gyda gwefan broffesiynol a chyfeiriadau e-bost. Mae cofrestru eich cyfeiriad gwefan newydd yn gallu bod ychydig bach yn frawychus, felly rydyn ni’n mynd i rannu canllaw cam wrth gam ar sut i brynu parth yn hawdd. Yn gyntaf, gadewch i ni edrych ar beth yw enwau parth.   

Beth yw enw parth?  

Mae’n debygol eich bod chi’n dod ar draws parthau ac yn eu defnyddio bob dydd. Er enghraifft, pan fyddwch yn teipio “google.co.uk” neu “llyw.cymru” yn eich porwr gwe. Enwau parth yw’r rhes o nodau sy’n cael eu defnyddio i adnabod gwefannau ar-lein. Er enghraifft, ein henw parth ni yw “eincartrefarlein.cymru”.  

Mae dwy brif ran i enw parth. Y parth ail lefel (y cyfeirir ato fel arfer fel parth) yw’r rhan sy’n dod cyn y dot, a dyma lle byddwch chi’n dod o hyd i enw’r busnes gan amlaf. I ni, “eincartrefarlein” yw hwnnw. Yn dilyn hwnnw, mae’r parth lefel uchaf (neu’r TLD), neu’r parth lefel uchaf generig (gTLD) neu’r estyniad, sef y darn sy’n dod ar ôl y dot. I ni, “.cymru” yw hwnnw.  

Diagram yn seiliedig ar webfactory.co.uk 


Mae modd defnyddio enwau parth ar gyfer cyfeiriadau e-bost hefyd, er enghraifft efallai fod gennych gyfeiriad e-bost ar gyfer eich tîm cymorth, fel “
[email protected]”. Mae cofrestru cyfeiriad e-bost gan ddefnyddio eich parth eich hun yn fwy proffesiynol na defnyddio cyfeiriad e-bost am ddim.  

Gan ein bod wedi archwilio beth yw enwau parth, gadewch i ni nawr edrych yn gyflym ar rai o fanteision cofrestru enw parth ar gyfer eich busnes.  

Beth yw manteision bod yn berchen ar enw parth?  

Mae bod yn berchen ar eich parth eich hun yn cynnig llawer o fanteision i’ch busnes:  

  • Proffesiynol gall defnyddio enw parth cyson ar gyfer eich gwefan a’ch cyfeiriadau e-bost wneud i’ch busnes ymddangos yn fwy proffesiynol.  
  • Brandio cyson – mae bod yn berchen ar eich parth eich hun, a chysondeb ar draws eich gwefan a chyfeiriadau e-bost, yn creu delwedd brand gryfach.  
  • Eich rhan chi o’r rhyngrwyd yw hwn – dim ond enw eich busnes chi fydd yng nghyfeiriad eich gwefan a’ch cyfeiriadau e-bost, nid enwau neu frandiau cwmnïau adeiladu gwefannau eraill.  

Dysgwch am fanteision penodol cael parth .cymru a .wales. 

Pedwar cam er mwyn prynu enw parth  

Gadewch i ni edrych ar y pedwar prif gam i gofrestru eich enw parth eich hun.  

1. Dewis eich parth  

Y cam cyntaf yw penderfynu ar enw ar gyfer eich parth. Os ydych chi’n bwriadu cofrestru enw parth ar gyfer eich busnes, mae’n syniad da defnyddio enw’ch busnes neu rywbeth tebyg iawn. Os ydych chi’n chwilio am gyfeiriad parth ar gyfer rhywbeth arall, er enghraifft prosiect personol, dewiswch rywbeth sy’n adlewyrchu’r hyn fyddwch chi’n defnyddio’ch gwefan ar ei chyfer.  

Os oes angen syniadau arnoch chi, darllenwch yr awgrymiadau yma ar sut i ddewis yr enw parth .cymru a .wales perffaith 

2. Chwilio am eich parth  

Mae ble i fynd i chwilio am eich parth yn dibynnu ar yr estyniad rydych chi am ei ddefnyddio. Os ydych chi’n fusnes yng Nghymru, byddai’n werth i chi ystyried enw parth sy’n gorffen gyda .cymru neu .wales.  

Gallwch ddefnyddio’r blwch chwilio defnyddiol isod neu ein hofferyn chwilio am barth i weld pa enwau parth .cymru a .wales sydd ar gael.  

Mynnwch eich parth

3. Dewis eich cofrestrydd  

Fyddwch chi ddim yn berchen yn llwyr ar eich enw parth; yn y bôn, byddwch yn ei ‘rentu’ gan gofrestrydd, a bydd angen i chi barhau i’w ‘rentu’ drwy ei adnewyddu. Er ei bod yn bosib i chi ddefnyddio’r un parth am byth, bydd angen i chi sicrhau eich bod yn parhau i’w adnewyddu er mwyn gallu parhau i’w ddefnyddio, fel arall gallai ddod ar gael i rywun arall ei gofrestru.  

Manwerthwyr ar-lein yw cofrestryddion, y byddwch chi’n prynu’ch parth ganddyn nhw, ac mae digon i ddewis ohonyn nhw. Os byddwch chi’n defnyddio ein hofferyn chwilio am barth i ddod o hyd i’ch enw parth, bydd modd i chi edrych drwy restr o gofrestryddion posib. Mae’n bwysig eich bod yn neilltuo amser i wneud rhywfaint o waith ymchwil yma, gan edrych ar y gwahanol opsiynau a’r hyn mae pob cofrestrydd yn ei gynnig.  

Ar y cam yma, efallai eich bod yn meddwl “faint mae enw parth yn ei gostio?”. Does dim un ateb yma, mae’r pris y byddwch chi’n ei dalu yn dibynnu ar wahanol ffactorau, o’r cofrestrydd rydych chi’n ei ddewis i ba mor hir rydych chi am gofrestru’r enw parth.  

4. Cofrestru eich enw parth  

Unwaith byddwch chi wedi dewis y cofrestrydd a’r pecyn cywir i chi, byddwch chi’n gallu prynu’ch enw parth drwy eu gwefan. Yn aml, dyma hefyd lle byddwch chi’n gallu cael mynediad at eich gosodiadau ar gyfer eich parth a’ch cyfrif unwaith y byddwch chi wedi prynu enw parth.  

Ar ôl i chi gofrestru’ch parth, gallwch wedyn ei gysylltu â’ch gwefan naill ai drwy’ch llwyfan lletya neu’ch system rheoli cynnwys (CMS) a bydd eich gwefan newydd yn barod i fynd yn fyw!  

Yn aml bydd cofrestryddion yn rhoi gwybod i chi pan fydd angen adnewyddu eich enw parth, ond gall fod yn ddefnyddiol i chi roi nodyn yn eich calendr eich hun hefyd i wneud yn siŵr y gallwch chi barhau i ddefnyddio’ch parth cyn hired ag y dymunwch.  

Barod i ddechrau chwilio am parth? Ewch draw i’n hofferyn chwilio am barth i ddod o hyd i’ch enw parth .cymru neu .wales delfrydol.  

I gael rhagor o gyngor am ddewis eich parth, darllenwch ein hawgrymiadau ar sut i ddewis yr enw parth .cymru a .wales perffaith  

Postiwyd yn wreiddiol ar UK Domain.  

Chwilio am ysbrydoliaeth? Cymerwch olwg ar rai o'n hastudiaethau achos a'u profiadau nhw gyda pharthau .cymru a .wales.

Coffi Dre
Read
National Botanic Garden of Wales
Read
Happy Yoga Wales
Read

© Nominet UK 2024