Busnesau Cymru yn gweld manteision o ddefnyddio .cymru a .wales

Gyda thros 22,000 o enwau parth .cymru a .wales wedi’u cofrestru hyd yma, maen nhw wedi bod yn cynrychioli ein hunaniaeth, ein diwylliant a’n hiaith ers i’r enwau parth gael eu lansio yn 2015. Mae’r cyfraddau adnewyddu uchel o dros 80% hefyd yn arwydd o awch pobl i gadw enwau parth .cymru neu .wales fel rhan allweddol o’u hunaniaeth ar-lein.

Mae rhai o’n cwmnïau mwyaf sefydledig, yn ogystal â chwmnïau newydd, yn chwifio banner Cymru ar-lein, gan gynnwys Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Undeb Rygbi Cymru, Llywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru, Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Distyllfa Penderyn.

Wrth drafod y penderfyniad i ddefnyddio enw parth .cymru, meddai David Hardy, Pennaeth Marchnata a Chyfathrebu Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru:

“Fel un o’r gerddi sy’n denu’r nifer fwyaf o ymwelwyr yng Nghymru, roedd hi’n wych gallu sicrhau’r enwau parth yma, sy’n syml, yn gryno ac yn Gymreig. Mae’n nhw’n cyd-fynd gyda’n huchelgais ni fel sefydliad cenedlaethol a rhyngwladol, ac yn sicrhau hunaniaeth ddiwylliannol gryfach i’n gwefan.

Mae cael yr opsiwn i ddefnyddio enw parth .cymru neu .wales yn rhoi mwy byth o gyfle i’n hymwelwyr i ymgysylltu ac i ryngweithio gyda ni yn eu dewis iaith. Mae hyn yn neilltuol o bwysig wrth i ni barhau i dyfu ein dilyniant ar-lein yn genedlaethol.

Ein cenhadaeth yw i ysbrydoli, addysgu a gwarchod, ac mae’r enwau parth yma’n golygu y gallwn ni ddathlu ein ‘Cymreictod’ yn ein holl gyfathrebu ar-lein.”

Gyda thros 28% o boblogaeth Cymru’n gallu siarad Cymraeg, mae tynnu sylw at Gymru yn ffordd o godi ymwybyddiaeth o hunaniaeth Gymreig eich busnes a’r Gymraeg.

Meddai Samantha Sweetland, Pennaeth Marchnata a Busnes i Gwsmeriaid yn Nominet, sy’n gyfrifol am gynnal enwau parth .cymru a .wales:

“Mae llawer o fanteision i fod ar-lein, er enghraifft agor cyfleoedd hysbysebu newydd er mwyn sicrhau busnes newydd a chyrraedd cynulleidfa ehangach gyda’ch ymdrechion marchnata. Mae cael argymhellion ar lafar yn dda, ond bellach mae darpar gleientiaid yn awyddus i roi cynnig ar bethau cyn eu prynu, ac mewn llawer o achosion, mae hyn yn golygu pori drwy’ch gwefan fel rhan o’u proses o wneud penderfyniad. 

Ar gyfer busnesau sydd am bwysleisio’u treftadaeth neu gysylltiad â Chymru, mae defnyddio enw parth .cymru neu .wales yn ffordd berffaith o ddangos i’r byd o ble rydych chi’n dod.”

Mae enwau parth .cymru a .wales yn creu cyfle gwirioneddol i fusnesau sydd am dargedu’r farchnad yng Nghymru, codi ymwybyddiaeth o fusnes neu rannu angerdd dros dreftadaeth Cymru.

Mae’n hawdd iawn sicrhau eich enw parth .cymru, felly dewch i weld os yw eich enw parth delfrydol ar gael heddiw.

Related blog posts

Dewch i Gymreigio’r we gydag enw parth .Cymru
Read
Person on computer
Hysbysebu eich busnes bach ar-lein
Read
Sut i ddewis yr enw parth .cymru a .wales perffaith
Read

© Nominet UK 2024