Darlledwyr, ffermwyr a gwleidyddion Cymru yn trosglwyddo i .cymru a .wales

Mae S4C, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Ffederasiwn y Ffermwyr Ifanc yn arwain llu o gyrff a sefydliadau a fydd y cyntaf i newid i enwau parth .cymru a .wales a fydd ar gael yn hwyrach eleni.

Gan gyhoeddi eu bwriad i newid yn y Sioe Frenhinol yr wythnos hon, bydd sefydliadau blaenllaw yn ymuno â Llywodraeth Cymru ac Only Men Aloud fel Partneriaid Sylfaenu .cymru a .wales a byddent yn mabwysiadu’r enwau parth newydd dros Gymru.

Hefyd yn cyhoeddi eu bod yn mabwysiadu enwau parth .cymru a .wales bydd sefydliadau cyhoeddus allweddol eraill sef Chwaraeon Cymru; Cyngor Llyfrau Cymru a Chyngor y Celfyddydau Cymru.

Dywedodd Ieuan Evans, Cadeirydd Grŵp Cynghori Cymru Nominet, “Rydym yn hynod falch ein bod yn gallu cyhoeddi bod y cyrff Cymreig, allweddol hyn am newid eu henwau parth i .cymru a .wales cyn gynted â phosib. Mae’r enwau parth yn cynnig cyfle gwych i Gymru gwneud ei marc ar y byd digidol ac mae’n wych bydd y cyrff allweddol hyn yn ymuno a ni ar y daith wrth arwain y ffordd ar gyfer busnesau a sefydliadau eraill led led Cymru.”

Ers ei sefydliad yn 1982, un o brif swyddogaethau S4C yw hyrwyddo’r iaith a’r diwylliant Cymreig ac wrth i Gymru camu i’r byd digidol, fe fydd S4C yn hyrwyddo’r diwylliant unigryw yno ar-lein.

Wrth esbonio penderfyniad S4C i newid, dywedodd Huw Marshall, Pennaeth Digidol S4C, “Fe fydd .cymru a .wales yn galluogi Cymru i mynnu ei le yn y byd ar-lein ac mae S4C nid yn unig eisiau chwarae rhan yn hynny ond eisiau bod yn bartner allweddol wrth i ni ddod a’r Gymraeg a’n hunaniaeth genedlaethol i’r byd digidol.”

Fe fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ymuno a S4C fel un o bartneriaid sylfaenu .cymru a .wales a byddent yn newid cyn gynted ac sy’n bosib iddynt yn weithredol. Yn 2012, cafwyd dadl am yr enwau parth yn siambr y Cynulliad lle datganodd Peter Black AC, Comisiynydd y Cynulliad, eu bwriad i fabwysiadu’r cyfeiriadau .cymru a .wales newydd.

Wrth groesawu’r parthau newydd, dywedodd Llywydd y Cynulliad, Y Fonesig Rosemary Butler AC, “Fe fydd y parthau newydd hyn yn caniatáu i sefydliadau, busnesau ac unigolion ar hyd a lled Cymru cael cydnabyddiaeth ar y rhyngrwyd, wrth gael presenoldeb, unigryw, Cymreig ar-lein.”

“Yn y byd marchnata a hyrwyddo, mae “brand” yn hanfodol er mwyn gwahaniaethu sefydliadau a busnesau.  Mae cael enw parth brand Cymreig o gymorth enfawr i helpu’r sector breifat a chyhoeddus yn Nghymru.”

“Ni ddylem ychwaith esgeuluso’r manteision ddaw o hyrwyddo cymdeithas gwir ddwyieithog ac mae creu’r parth .cymru yn gyfle amlwg i hyrwyddo’r iaith Gymraeg a buddion diwylliant Cymreig ar y we.

“Rwy’n falch fod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi dangos arweiniad yn y datblygiad hwn, drwy gytuno i fod yn un o’r ‘mabwysiadwyr cynnar’ ar gyfer yr enwau parth.  Cyn gynted ag y bydd hi’n bosibl yn dechnegol wedi rhyddhau’r enwau parth yn swyddogol, bydd y Cynulliad yn newid ei enwau parth i cynulliad.cymru / assembly.wales.”

I nodi dechrau Sioe Frenhinol Cymru, mae YFC Cymru hefyd yn cyhoeddi eu bwriad i fabwysiadau’r enwau parth fel Sylfaenwyr .cymru a .wales.  Esbonia Nia Lloyd, Cyfarwyddwr YFC Cymru pam fod sefydliad ieuenctid cefn gwlad fwyaf Cymru yn ymgymryd â’r newid; “Rydym yn falch iawn o fod gyda’r cyntaf i ennyn yr enwau parth .cymru a .wales newydd. Fe fydd y byd digidol yn gynyddol yn rhan allweddol o’n gwaith i’r dyfodol wrth iddo barhau i dyfu ac rydym o’r farn fydd yr enwau parth newydd hyn o gymorth inni ymwneud â’r gymuned ar lein hwnnw.”

DIWEDD

NODIADAU I OLYGYDDION

Am rhagor y fanylion am y rhaglen .cymru a .wales, ewch i:

http://ourhomeonline.wales

http://eincartrefarlein.cymru

Manylion cyswllt: Naomi Williams [email protected] / 02920 442020.

Related blog posts

.cymru .wales: 19,000 Enw Parth i Gymru
Read
Dewch i Gymreigio’r we gydag enw parth .Cymru
Read
Busnesau Cymru’n medi manteision .cymru a .wales
Read

© Nominet UK 2024