Amser i ceisio.cymru – mae .cymru a .wales ar gael i bawb o heddiw ymlaen

O heddiw ymlaen gall unrhyw un ceisio am enwau parth .cymru .wales. Felly os ydych yn falch o fod yn Gymraeg neu mae’r cysylltiad Cymraeg yn bwysig i’ch busnes, gallwch ddathlu hynny gydag enw .cymru neu .wales ar gyfer eich gwefan. Os oes mwy nag un person eisiau cofrestru parth, fe fydd arwerthiant yn penderfynu pwy fydd yn ennill y cofrestriad.

Fe fydd yr enwau sydd ar gael hefyd yn cynnwys rhestr o enwau poblogaidd gyda phris cadw £50 ynghyd a ffioedd ceisio a chofrestru. Felly, o’r 29ain, i’r rheiny sydd eisiau creu bwrlwm.cymru, fe fydd popeth o fynyddoedd.cymru i bro.cymru ar gael.

Ar ôl Mawrth 1af fe fydd pob parth .cymru .wales ar gael ar sail gyntaf i’r felin

Mae’r parthau .cymru a .wales newydd eisoes wedi dechrau mynd yn fyw a Cynulliad Cymru oedd y cyntaf i newid i’w parthau newydd. Cafwyd cefnogaeth gref gan sawl sefydliad, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, S4C, Chwaraeon Cymru, Ffederasiwn Busnesau Bychain Cymru, tîm rygbi’r Scarlets, Undeb Rygbi Cymru, Stadiwm y Mileniwm, Cyngor Celfyddydau Cymru, Golwg360, Bloc, Gwalia, Atlantic PLC, Orchard a Portmeirion.

Am ragor o wybodaeth, ewch i eincartrefarlein.cymru.

Related blog posts

Digwyddiad Hanesyddol i Gymru ar y Rhyngrwyd: .cymru a .wales ar gael i bawb
Read
.cymru .wales: 19,000 Enw Parth i Gymru
Read
Dewch i Gymreigio’r we gydag enw parth .Cymru
Read

© Nominet UK 2024