.cymru’n gwneud marc rhyngwladol gyda’r Urdd

Mewn trafodaethau rhyngwladol, mae swyddogion Urdd Gobaith Cymru wedi bod wrth eu bodd yn cael dweud mai .cymru oedd yr enw ar eu gwefan.

Mae’r mudiad yn datblygu cynllun ar y cyd gyda mudiadau tebyg yn Iwerddon a Chatalunya, dwy wlad sydd â’u henwau eu hunain – .ie a .cat – ers blynyddoedd.

“Roedd hi’n braf gallu dweud mai .cymru oedden ninnau,” meddai Prif Weithredwr yr Urdd, Efa Gruffydd Jones. “R’yn ni’n falch iawn o gael y cyfle i ddefnyddio’r enw parth.”

Roedd yr amseru’n berffaith i’r mudiad, a hwythau’n gallu lansio fersiwn newydd o’u gwefan yr un pryd â’r enw newydd. Ac mae’r traffig wedi cynyddu.

“Fe wnaethon ni gofrestru gyda .cymru mor fuan ag y gallen ni,” meddai Efa. “Ni oedd un o’r elusennau cynta’ i ddefnyddio’r enw.

“Roedden ni wedi cefnogi’r ymgyrch i gael enw Cymreig o’r dechrau. Mae e’n beth amlwg i ni ei gefnogi. Mae gwerth symbolaidd iddo fe.”

Mae .cymru hefyd yn adlewyrchu pwysigrwydd y wefan i’r mudiad – un o’r dulliau mwya’ effeithiol o gysylltu gydag aelodau a rhieni.

Ac mae’r Urdd yn arwain yn y maes digidol – App yr Eisteddfod yw un o’r rhai ucha’i ddefnydd trwy gyfrwng y Gymraeg.

Related blog posts

Sut i roi eich busnes newydd ar-lein
Read
Dewch i Gymreigio’r we gydag enw parth .Cymru
Read
Sut i ddewis yr enw parth .cymru a .wales perffaith
Read

© Nominet UK 2024