Sianel Pedwar .cymru!

S4C.cymru

O hyn ymlaen, fe fydd S4C yn gallu cario enw Cymru gyda hi wrth ddarlledu a chydweithio gyda darlledwyr ar hyd a lled y byd.

Mae’r sianel ar y blaen o ran datblygu gwasanaethau Cymraeg ar y we, ac roedd ymhlith y cyrff cyhoeddus cyntaf i ddefnyddio’r enw parth .cymru.

“Fel sianel deledu unigryw i Gymru, mae S4C yn cynrychioli Cymru ar lefel ryngwladol wrth ddelio gyda phartneriaid mewn gwledydd eraill ar brosiectau cynhyrchu mawr,” meddai Rheolwr Digidol S4C, Huw Marshall.

“Drwy ddefnyddio .cymru rydan ni’n gallu codi ymwybyddiaeth o Gymru a chodi ymwybyddiaeth bellach o’r Gymraeg.”

Mae rhaglenni fel cyfres noir wefreiddiol Y Gwyll yn dangos sut gall S4C hyrwyddo’r wlad a’i diwylliant.

Mae gwasanaethau digidol hefyd yn rhan allweddol o waith pob darlledwr – drwy we-ddarlledu’r Sioe Fawr ar draws y byd, neu drwy eu defnyddio i gyfathrebu gyda’r gynulleidfa mewn ffyrdd newydd.

Mae’r ystadegau’n dangos bod mwy a mwy o bobl yn gwylio rhaglenni S4C yn eu hamser eu hunain drwy wasanaethau ar-lein fel Clic a’r iPlayer.

“Wrth i hyn ddatblygu ymhellach, bydd S4C yn cario enw Cymru gyda ni ble bynnag mae’r sianel yn cael ei gweld,” meddai Huw Marshall.

“Fe fydd yr enw newydd yn dangos o ble mae’r cynnwys yn dod yn ogystal â safon y cynnyrch.”

 

Defnyddiwch ein peiriant chwilio i weld a yw eich enw parth delfrydol chi ar gael heddiw.

mwy o lwyddiannau

Sêl Bendith Llywodraeth i .cymru
Read
Banc Datblygu Cymru
Read
Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru
Read

© Nominet UK 2024