Sut i roi eich busnes newydd ar-lein

Gyda’r holl newidiadau rydyn ni wedi’u profi yn 2020, mae’n deg dweud ei bod hi mor bwysig ag erioed i fod â phresenoldeb ar-lein.

Hyd yn oed os yw eich busnes newydd yn un sy’n ddibynnol ar leoliad go iawn, mae bod â phresenoldeb ar-lein yn hanfodol er mwyn sicrhau bod darpar gwsmeriaid yn gallu dod o hyd i chi, i ddysgu amdanoch chi ac i gysylltu â chi.

Pwrpas y blogiad yma yw dangos i chi pa gamau sydd eu hangen i roi eich busnes ar-lein – a’r newyddion da yw bod hynny’n haws nag ydych chi’n ei feddwl.

Sefydlu eich gwefan   

I ddechrau, bydd angen gwefan arnoch chi. Mae gwefan fel ffenestr siop rithiol a phamffled wedi’u cyfuno â’i gilydd, ac yn gartref i’ch busnes ar-lein.

I ddechrau, bydd angen enw parth arnoch chi. Yn ddelfrydol, dylech ddewis enw eich busnes ar gyfer hyn, ond mae llawer mwy o gyngor i chi yn yr erthygl yma am sut i ddewis yr enw parth perffaith. Pan fyddwch chi’n barod, gallwch brynu enw parth.

Un ffordd o sicrhau enw parth cwbl unigryw yw dewis enw parth .cymru neu .wales. Mae’r enwau parth yma’n creu cyfle gwirioneddol i dargedu’r farchnad yng Nghymru, codi ymwybyddiaeth o’ch busnes a rhannu eich angerdd dros dreftadaeth Cymru.

Dysgwch ragor am fanteision prynu eich enw parth .cymru eich hun. Gallwch ddefnyddio’r blwch chwilio isod i weld a yw eich enw parth delfrydol ar gael heddiw.

Step 1. Pick a domain name

Use the search box to check if your ideal domain name is available to buy

Step 3. Buy your domain name:

Below is a selection of registrar partners for you to choose from, all of them will be able to guide you through the whole processes of purchasing your domain.


Not found what you're looking for. Why not try again?

 

Y newyddion da yw nad oes angen i chi fod yn ddatblygwr gwefannau na thalu crocbris i ddylunydd gwefannau er mwyn creu gwefan.

Mae safleoedd fel WixWordPress a Squarespace yn hwyluso’r broses ddylunio i chi, ac yn cynnig miloedd o dempledi ‘themâu’ (sy’n aml am ddim) i chi – templedi sy’n bosib eu haddasu a chynnwys eich gwybodaeth eich hun ynddyn nhw heb orfod gwybod dim byd am sut i adeiladu gwefan. Mae hynny’n golygu mai’r unig beth sydd angen i chi feddwl amdano yw strwythur eich gwefan, a’r geiriau a’r delweddau y byddwch yn eu gosod arni.

Mae’n rhaid i chi gael tudalen hafan sy’n rhoi cyflwyniad i’ch busnes a’ch gwasanaethau ac sy’n ffordd i’ch cwsmeriaid gysylltu â chi. Yn seiliedig ar natur eich busnes, mae’n bosib y byddai safle un dudalen yn ddigon, ond gallech ei droi’n safle mwy cynhwysfawr drwy ychwanegu tudalennau newydd, er enghraifft:

  • Tudalen ‘Amdanon ni’ – sy’n rhoi amlinelliad o beth mae’ch busnes yn ei wneud, eich profiad, hanes a ffeithiau diddorol amdanoch chi a/neu’ch busnes
  • Tudalennau gwasanaethau – naill ai un dudalen sy’n crynhoi’r gwasanaethau rydych chi’n eu cynnig, neu dudalennau unigol ar gyfer pob gwasanaeth (neu’r ddau, a chysylltu’r tudalennau unigol o’r dudalen gyntaf)
  • Tudalen gysylltu – tudalen bwrpasol lle gall cwsmeriaid lenwi ffurflen i gysylltu â chi dros e-bost, sydd hefyd yn cynnwys manylion cyswllt eraill, er enghraifft cyfeiriad eich busnes a rhifau ffôn
  • Tudalen newyddion neu flog – er mwyn rhannu newyddion, arbenigedd a hanes am eich cwmni
  • Tudalen ‘Cwrdd â’r tîm’ – lle gallech roi cyflwyniad i’r bobl sy’n rhan o’ch cwmni

Os ydych chi’n gwerthu cynnyrch, mae’n werth ystyried ychwanegu nodwedd e-fasnachu i’ch gwefan. Byddai hyn yn golygu bod gennych siop ar-lein sydd ar agor 24 awr y dydd lle byddai modd i’ch cwsmeriaid osod archebion heb orfod ymweld â’ch lleoliad go iawn.

Mantais hyn fyddai eich galluogi chi i ehangu eich sylfaen cwsmeriaid, ond cyn galluogi’r nodwedd yma, byddai angen sicrhau bod y logisteg gennych i sicrhau y gallwch gyflawni archebion ar-lein.

Dechrau eich taith cyfryngau cymdeithasol

Nid dim ond creu gwefan sy’n bwysig er mwyn sefydlu eich presenoldeb ar-lein, er bod hynny’n fan cychwyn pwysig. Er mwyn ehangu eich busnes, bydd angen ffyrdd i’ch cwsmeriaid ryngweithio â chi ac i ddarpar gwsmeriaid newydd allu dod o hyd i chi ar-lein.

Gan fod bron pawb yn treulio llawer o amser ar y cyfryngau cymdeithasol erbyn hyn, os ydych chi am i’ch busnes gysylltu a rhyngweithio â’ch cwsmeriaid a’ch darpar gwsmeriaid, mae bod ar y cyfryngau cymdeithasol yn fan cychwyn amlwg.

Instagram

Mae’n bwysig cofio na fydd pob llwyfan cyfryngau cymdeithasol yn gweddu i bob busnes – a phan fyddwch chi’n gwmni newydd ac amser yn brin, fydd dim llawer o amser gennych chi i reoli eich sianeli cymdeithasol.

Am y rhesymau hynny, mae’n bwysig dewis eich llwyfan cyfryngau cymdeithasol yn ofalus cyn mynd ati i adeiladu presenoldeb arno. Er enghraifft:

  • Os oes gennych chi fusnes gweledol – er enghraifft, os ydych chi’n ddylunydd neu’n creu cynnyrch prydferth – yna byddai’r llwyfan ar gyfer lluniau, Instagram, yn gweddu’n berffaith i chi
  • Os yw eich cwsmeriaid yn rhai lleol yn bennaf, yna byddai tudalen Facebook yn ffordd dda i bobl ddod o hyd i chi ac i ddarllen neu adael adolygiadau amdanoch chi
  • Os ydych chi’n darparu gwasanaethau busnes-i-fusnes, byddwch chi am gysylltu â chynulleidfa o weithwyr proffesiynol, felly LinkedIn yw’r lle i fod

Gallwch ddarllen mwy am hyn yn yr erthygl yma am ba lwyfan cyfryngau cymdeithasol sy’n addas ar gyfer fy musnes newydd.

Unwaith y byddwch wedi dewis y llwyfan cywir ac wedi creu eich proffil newydd, bydd angen i chi bostio’n rheolaidd, cysylltu â chyfrifon eraill a bod yn barod i ymateb i sylwadau y byddwch yn eu cael – y mwyaf o ymdrech y byddwch yn ei rhoi i’ch llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, y mwyaf y cewch chi allan ohonyn nhw.

Darllenwch fwy am ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i ddatblygu eich busnes yn y canllaw strategaeth cyfryngau cymdeithasol ar gyfer busnesau bach, a dysgwch sut i ddenu dilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol a chryfhau eich brand ar-lein.

Ar ôl creu llwyfan cyfryngau cymdeithasol, os oes gennych gyllideb, gallwch ddefnyddio hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol i hysbysebu eich busnes i gynulleidfa darged benodol iawn, ar sail lleoliad, demograffeg, diddordebau a mwy.

Mae hysbysebion Facebook yn un o’r gwasanaethau mwyaf cynhwysfawr yn hynny o beth – gwyliwch y fideo yma am y pedwar math gwahanol o hysbysebion Facebook ar gyfer busnesau bach a chanolig i ddysgu rhagor.

Marchnata dros e-bost

Nid cyfryngau cymdeithasol yw’r unig le marchnata sydd ar gael i chi ar ôl sefydlu eich presenoldeb ar-lein. Ffordd arall o dyfu eich busnes yw drwy farchnata dros e-bost, sy’n parhau i fod yn un o’r ffyrdd mwyaf poblogaidd o farchnata ar-lein.

Mae’n gweithio drwy greu rhestrau postio o gwsmeriaid ac anfon negeseuon e-bost rheolaidd atyn nhw sydd â chynnwys defnyddiol a/neu gynnyrch a allai fod o ddiddordeb iddyn nhw.

Zoom

Oherwydd deddfwriaeth GDPR ddiweddar, mae angen caniatâd penodol gan eich cwsmeriaid cyn eu hychwanegu nhw at restr bostio, ond gallech ddefnyddio ffurflen ar eich gwefan yn annog pobl i gofrestru i dderbyn e-byst, neu os oes gennych leoliad go iawn, gofynnwch iddyn nhw gofrestru yn eich siop.

Gallwch ddarllen rhagor am gynllunio cynnwys eich negeseuon e-bost a sut i fynd ati i adeiladu rhestr bostio yn y canllaw yma ar farchnata dros e-bost i fusnesau bach.

Hyrwyddo eich presenoldeb ar-lein

Unwaith y byddwch wedi creu eich presenoldeb ar-lein, byddwch am wneud y mwyaf o hynny drwy ei hyrwyddo – yn benodol, eich gwefan. Mae llawer o ffyrdd o wneud hyn, ac un o’r rhai mwyaf effeithiol yw drwy optimeiddio peiriannau chwilio, neu SEO.

Ystyr hyn yw optimeiddio eich gwefan fel ei bod yn ymddangos yn uwch mewn canlyniadau peiriannau chwilio, er enghraifft Google. Fel arfer, mae canlyniadau sy’n ymddangos yn uwch yn golygu mwy o draffig i’ch gwefan, felly mae galw mawr am ganlyniadau uwch. Mae hyn wedi’i rannu’n ddau edefyn gan amlaf:

Optimeiddio ar y wefan – mae hyn yn cynnwys addasu eich gwefan fel bod peiriannau chwilio yn gallu ei deall yn well a defnyddio allweddeiriau i gynyddu pa mor berthnasol yw’ch gwefan mewn canlyniadau rydych chi am ymddangos ynddyn nhw.

Optimeiddio oddi ar y wefan – mae hyn yn golygu creu dolenni o wefannau eraill i’ch gwefan chi, gan fod rhain yn cael eu gweld fel ardystiadau gan beiriannau chwilio.

Er mwyn cael cyngor defnyddiol am SEO a sut i godi eich gwefan mewn canlyniadau chwilio, darllenwch y cyngor SEO ar gyfer gwefannau newydd yma.

Strategaeth arall er mwyn hyrwyddo eich presenoldeb ar-lein yw rhoi cynnig ar farchnata cynnwys. Y syniad tu ôl i hyn yw creu cynnwys gwerthfawr sy’n ddefnyddiol i bobl er mwyn meithrin cysylltiadau newydd gyda phobl a fydd yna’n cofio am eich arbenigedd pan fyddan nhw angen eich busnes.

Er enghraifft, os yw’ch busnes yn gwerthu llenni, gallai eich strategaeth marchnata cynnwys ganolbwyntio ar ysgrifennu erthyglau am bynciau dylunio mewnol. Porwch drwy’r erthyglau yma am farchnata cynnwys i gael llawer o gyngor am ddefnyddio’r strategaeth yma i dyfu eich busnes.

Pethau i’w cofio wrth roi eich busnes ar-lein

Mae llwyddiant eich presenoldeb ar-lein yn ddibynnol ar faint o feddwl sy’n cael ei roi iddo, felly dyma rai pethau i’w cofio wrth i chi lansio eich presenoldeb chi ar y rhyngrwyd:

  • Byddwch yn glir am eich cynulleidfa darged – yn y pen draw, pwrpas eich presenoldeb ar-lein yw i wasanaethu eich cwsmeriaid ac i ddenu rhai newydd, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw hynny mewn cof wrth ddylunio. Mae hynny’n golygu sicrhau bod edrychiad a theimlad eich presenoldeb ar-lein, yr iaith rydych chi’n ei defnyddio, a’r cynnwys rydych chi’n ei ddefnyddio, wedi’u teilwra i’r bobl rydych chi am iddyn nhw brynu gennych chi.
  • Meddyliwch am frandio – gwnewch yn siŵr fod eich presenoldeb ar-lein yn gyson ag unrhyw frandio all-lein rydych chi wedi’i ddatblygu, er enghraifft defnyddio’r un logo, ffontiau a thôn llais. Efallai fod hyn yn rhywbeth y byddech am ei ystyried wrth i chi greu eich gwefan newydd, gan fod brandio a chynllunio gwefan yn mynd law yn llaw.
  • Ystyriwch brofiad y defnyddiwr – peidiwch byth ag anghofio am brofiad y defnyddiwr wrth iddyn nhw ddefnyddio’ch gwefan (neu yn rhywle arall ar-lein wrth ddod i gysylltiad â chi). Os yw’ch gwefan yn anodd ei defnyddio, mae’n debygol y bydd eich cwsmeriaid yn troi at eich cystadleuwyr yn lle, felly meddyliwch yn ofalus er mwyn gwneud yn siŵr fod eich gwefan yn syml i’w llywio ac yn hawdd ei defnyddio. Dyma arweiniad ar sut i ddarparu profiad defnyddiwr gwych heb lawer o gyllideb.
  • Gwefan sy’n gweithio’n dda ar ffonau symudol – cofiwch y bydd pobl yn aml iawn yn ymweld â’ch presenoldeb ar-lein drwy ddefnyddio ffôn symudol, felly gwnewch yn siŵr bod eich gwefan yn gweithio yr un mor dda ar sgrin fach ffôn symudol ag ydyw ar sgrin gyfrifiadur neu liniadur. Darllenwch ragor am pam mae angen gwefan sy’n gweithio’n dda ar ffonau symudol.

Efallai fod hyn yn teimlo fel llawer o wybodaeth i’w hystyried, ond drwy gymryd un cam ar y tro, fe welwch chi ei bod hi’n hawdd iawn sefydlu presenoldeb ar-lein ar gyfer eich busnes, a gallwch ddatblygu eich gweithgarwch ar-lein yn araf bach o hynny.

 

Blogiad gwreiddiol gan Rachel Ramsay ar UK Domain.

Related blog posts

Person on computer
Hysbysebu eich busnes bach ar-lein
Read
SEO
Pum camgymeriad SEO dylai pob busnes eu hosgoi
Read
Notice board
Chwe ffordd i adnewyddu eich strategaeth marchnata cynnwys
Read

© Nominet UK 2024