Canllaw i hysbysebu ar LinkedIn ar gyfer busnesau bach

Os ydych wedi profi dyfroedd LinkedIn efallai eich bod eisoes wedi dechrau archwilio’r defnydd ohono – o gysylltu â ac adeiladu perthnasau gyda chysylltiadau proffesiynol, i ddilyn cwmnïoedd yn eich diwydiant a chasglu llythyron cymeradwyaeth cydweithwyr.

Fodd bynnag, os ydych yn rhedeg busnes bach B2B ac am gael hyd yn oed mwy o’r rhwydwaith cymdeithasol hwn, yna mae’n sicr y dylech osod hysbysebu ar LinkedIn ar eich radar.

Hysbysebu ar LinkedIn

Mae LinkedIn yn lle da i ddechrau os ydych yn newydd i hysbysebu eich cwmni B2B ar gyfryngau cymdeithasol. Y rheswm pam mae’r llwyfan hwn mor werthfawr i fusnesau B2B yw am ei fod yn rhwydwaith proffesiynol, mae’r bobl sydd yn ei ddefnyddio yn gwneud hynny tra mewn fframwaith feddwl gwaith. Felly o ganlyniad, rydych yn fwy tebygol o gyrraedd pobl sydd o ddifrif ynghylch yr hyn sydd gan eich busnes i’w gynnig.

Mae nifer o fuddion marchnata wrth ddefnyddio hysbysebu ar LinkedIn gan gynnwys:

  • Ymwybyddiaeth o frand
  • Creu cyfleoedd
  • Adeiladu perthnasau
  • Gwella negeseuon nad ydynt yn perfformio’n dda
  • Hysbysebu swyddi gweigion
  • Mwy o sylw i’r hysbysebion sy’n perfformio orau

Gan osod y manteision uchod i’r naill ochr, mae gan Hysbysebion LinkedIn  un cerdyn ychwanegol i’w chwarae – targedu. Gellir targedu hysbysebion ar gyfer demograffeg penodol iawn a gallwch ei gyfyngu mor bell â theitlau swydd, swyddogaethau a lefelau statws/hynafedd. Os ydych yn chwilio am gleientiaid lleol, gallwch hefyd dargedu lleoliadau penodol.

 

Gosod hysbyseb ar LinkedIn

Mae sawl math o gynnwys hysbyseb LinkedIn y gallwch arbrofi â hwy yn unol â’ch amcanion a’ch cynulleidfa darged. Mae’r mathau o osodiadau hysbysebu LinkedIn yn cynnwys:

Negeseuon a Noddwyd

Negeseuon yw’r rhain sydd yn mynd yn syth i fewnflychau defnyddiwr, gan gynyddu’r tebygolrwydd o ymateb uniongyrchol neu sgwrs.

Cynnwys a Noddwyd  

Mae hwn yn ymddangos yn ffrwd newyddion defnyddwyr, ac yn y bôn yn rhoi hwb i’ch negeseuon arferol fel bod mwy o bobl yn eu gweld.

Hysbysebion Dynamig 

Dyma’r hysbysebion rhagorach sy’n ymddangos ar far ochr y safle ac yn dal sylw.

Hysbysebion testun 

Hysbysebion syml, testun yn unig yw’r rhain sy’n ymddangos ar hyd frig y safle.

Gall yr hysbysebion eu hun gymryd nifer o fformatau gwahanol yn ddibynnol ar eu lleoliad, a gallant gynnwys hysbysebion fideo, hysbysebion testun, hysbysebion delwedd sengl neu garwsél, hysbysebion sbotolau neu hysbysebion neges.

Bydd y fformatau a fydd ar gael i chi yn dibynnu ar y nodau ymgyrch rydych yn eu gosod wrth greu eich ymgyrch. Gallwch ganfod gwybodaeth ddefnyddiol gan LinkedIn am y mathau gorau o fformatau hysbysebion ar gyfer gwahanol nodau  fan hyn.

Mae’n bwysig nodi bod dau lwybr gwahanol at hysbysebu ar LinkedIn – hysbysebion hunan-wasanaeth ac ymgyrchoedd a reolir.

Dyma’n union yw hysbysebion hunan-wasanaeth – chi sydd yn eu gosod a’u rheoli.  Ond mae ymgyrchoedd a reolir yn gofyn am bartneriaeth gyda thîm LinkedIn a fydd yn gweithio gyda chi i’ch helpu i redeg eich ymgyrchoedd.

Mae hysbysebion dynamig ond ar gael trwy’r llwybr ymgyrch a reolir, ond mae’r rhain yn hysbysebion rhagorach ac yn fwy addas ar gyfer cwmnïoedd mawrion â chyllidebau mawrion.

 

Costau hysbysebu

Nid oes ffigwr wedi ei osod ynghylch faint mae hysbysebion yn costio i ymddangos ar LinkedIn. Gan fod gennych chi’r gallu i osod lefel uchaf eich gwariant, mae cost hysbysebu ar LinkedIn yn costio faint rydych chi am iddo gostio. Gwerthir hysbysebion yn awtomatig mewn proses sy’n debyg i ocsiwn lle mae’ch hysbysebion chi yn cystadlu gyda chynigion gan hysbysebwyr eraill sydd yn targedu cynulleidfa debyg.

Mewn cymhariaeth â llwyfannau hysbysebu cymdeithasol eraill megis Facebook, mae LinkedIn yn tueddu i fod yn fwy drud, ac mae hyn yn rhannol oherwydd y dewisiadau targedu helaeth. Felly, er na fedrwch gael cynifer o gliciau neu enghreifftiau hoffi am yr un gyllideb â Facebook efallai, gallwch fod yn sicr bod yr ymgysylltu ar LinkedIn yn debygol o ddod gan gynulleidfa hynod o berthnasol.

Bydd y llwyfan hysbysebu yn argymell pris cynnig yn awtomatig ar gyfer eich cynulleidfa darged, a gan mai ocsiwn yw, bydd pris cynnig gwell yn rhoi gwell siawns o lwyddiant i chi.

Ond mae’n werth nodi hefyd nad faint o arian y medrwch chi daflu at eich ymgyrchoedd hysbysebu yw’r unig bwynt; Dywed LinkedIn “Mae LinkedIn yn defnyddio system ocsiwn ar gyfer cynigion sydd yn gwobrwyo ymgysylltu, gan olygu y medrwch ennill ocsiwn heb fod yr un â’r cynnig uchaf.” Mewn geiriau eraill, mae creu cynnwys hysbyseb dengar yn bwysig hefyd – fedrwch chi ddim dibynnu’n unig ar gyllideb fawr.

 

Pwyso a mesur defnyddio hysbysebion LinkedIn

Os nad ydych wedi penderfynu eto ynghylch cymryd y cam o hysbysebu ar LinkedIn, dyma rai o’r pwyntiau allweddol o blaid ac yn erbyn i chi eu hystyried:

O blaid

  • Prisio hyblyg  – mae’n hawdd rheoli eich cyllideb
  • Rhwydwaith broffesiynol enfawr –Mae LinkedIn yn honni bod ganddynt gynulleidfa weithredol o 630 miliwn o bobl broffesiynol, sy’n ei wneud yn berffaith ar gyfer hysbysebu B2B
  • Targedu soffistigedig  – Mae targedu hynod gywrain hysbysebion LinkedIn yn eich helpu i gyrraedd pobl broffesiynol yn ôl teitl swydd, swyddogaeth, diwydiant, lleoliad a mwy

Yn erbyn

  • Negeseuon a Noddwyd – yr adborth yw y gall deimlo’n ymwthgar yn aml; pan yw’n ymddangos fel e-bost sbam, mae defnyddwyr yn tueddu pwyso’r botwm dileu neu anwybyddu yn reit sydyn
  • Cost – gall fod yn fwy drud na llwyfannau hysbysebu cyfryngau cymdeithasol eraill, er y dylid pwyso a mesur hyn yn erbyn y tebygolrwydd o lwyddo gyda chynulleidfa broffesiynol a dargedwyd
  • Nid yw cynulleidfaoedd busnes yn addas ar gyfer pob math o gynnyrch – bydd angen i chi gael y math cywir o fusnes a chynnwys i gael y budd mwyaf o hysbysebu, felly sicrhewch eich bod wedi meddwl yn ddwys ynghylch pwy ydych yn ceisio eu cyrraedd a pha negeseuon y byddwch yn eu defnyddio.

 

Gosod eich ymgyrch hysbysebu LinkedIn cyntaf

Barod i osod eich ymgyrch hysbysebu LinkedIn cyntaf? Dilynwch y canllaw syml cam wrth gam hwn i gychwyn.

1. Gosod tudalen eich cwmni

Mae tudalen eich cwmni yn union fel eich proffil unigol LinkedIn eich hun, ond ar gyfer eich busnes.

Os nad ydych wedi gosod un eisoes, dylech wneud hynny cyn creu eich ymgyrch hysbysebu LinkedIn. Dylai tudalen eich cwmni gynnwys digon o wybodaeth am eich cwmni, gan gynnwys eich arbenigeddau, eich lleoliad a dolen i’ch gwefan.

2. Nodwch eich cynulleidfa darged a’ch amcanion.

Fel gydag unrhyw ymgyrch farchnata, bydd gofyn i chi gael strategaeth mewn lle cyn bwrw ati.

Beth yw eich nodau o’r ymgyrch hysbysebu LinkedIn hon? Ydych chi’n ceisio cynyddu ymwybyddiaeth o’r brand neu am greu cyfleoedd newydd? Pa fath o gynulleidfa ydych chi’n ceisio ei ddenu? Bydd bod yn glir ynghylch y manylion hyn o’r dechrau yn rhoi’r ffocws sydd ei angen ar eich ymgyrch i lwyddo.

3. Creu’r ymgyrch

Nesaf ar y rhestr, bydd angen i chi osod cyfrif  Rheolwr Ymgyrch , a fydd yn rhoi’r dewis i chi ei gysylltu â thudalen eich cwmni neu osod un newydd.

Cliciwch ‘Creu Ymgyrch a dilyn y cyfarwyddiadau i ddechrau gosod eich ymgyrch, gan gynnwys enwi eich ymgyrch ar gyfer eich cyfeirnod eich hun a gosod eich nod, megis ‘ymweliadau â’r wefan’. Neu os ydych yn hofran dros y dewisiadau am wybodaeth bellach ar bob un ohonynt, gall hyn eich helpu i ddewis y nod cywir ar gyfer eich busnes. Ac mae rhai dewisiadau sydd yn benodol ar gyfer nodau arbennig, megis dilyn hynt trosiadau ar gyfer ymweliadau â gwefannau.

I lansio ymgyrch newydd, bydd angen i chi osod eich manylion bilio yn gyntaf. Dyma lle medrwch chi ychwanegu cerdyn credyd cwmni; mae anfonebu misol ar gael hefyd ond mae hyn yn nodweddiadol ar gyfer cyfrifon busnes mawrion gan fod lleiafswm gwariant.

4. Dewis cynulleidfa a chyllideb

Yn yr adran nesaf gallwch ddewis eich cynulleidfa darged a nodi eich cyllideb.

Fe welwch ddewisiadau manwl ynghylch targedu cynulleidfa; treuliwch amser yn ei gyfyngu ac fe welwch amcangyfrif o beth fydd maint eich cynulleidfa gyda’r dewisiadau a wnaethoch wrth i chi fynd yn eich blaen.

Audience

Pan ddaw i gyllidebu, medrwch ddewis rhwng nifer o opsiynau cynigion – Cost Fesul Clic (CPC), Cost Fesul Argraff  (CPM) neu, ar gyfer Negeseuon a Noddwyd, Cost Fesul Anfon  (CPS). Os mai creu cyfleoedd yw eich amcan, CPC yw’r dewis gorau ar gyfer eich ymgyrch, tra bod CPM yn well ar gyfer ymgyrchoedd ymwybyddiaeth o frand.  Bydd modd hefyd i chi osod cyllideb ddyddiol, dyddiad dechrau a gorffen, uchafswm gwariant a chynigion i gadw eich gwario dan reolaeth.

5. Creu’r hysbysebion

Mae’r amser wedi dod i ddechrau creu’ch hysbysebion. Mae ffyrdd gwahanol o greu cynnwys hysbysebion, gan gynnwys hyrwyddo neu ddiweddaru negeseuon sy’n bodoli eisoes a chreu hysbysebion o’r dechrau.

Dewiswch yr un rydych ei eisiau a bydd Rheolwr yr Ymgyrch yn eich arwain trwy’r broses o’u creu – mae’r cyfan wedi ei labelu’n glir ac yn hunanesboniadol, gyda rheolau syml megis cyfyngu ar lythrennau a maint picsel ar gyfer delweddau a fydd yn hawdd eu dilyn (25 llythyren ar gyfer pennawd a 75 ar gyfer hysbyseb testun, er enghraifft).

A hefyd bydd dewis i greu nifer o fersiynau i roi’r cyfle i chi brofi A/B eich hysbysebion a deall yn iawn beth sy’n gweithio orau ar gyfer eich busnes.

Unwaith mae’ch Hysbyseb LinkedIn yn fyw, bydd mynediad gennych i fetrigau gwerthfawr, a fydd yn eich galluogi i ddilyn hynt perfformiad eich ymgyrch a nodi unrhyw feysydd i’w gwella. Byddwch yn gweld ystadegau megis faint rydych wedi ei wario, y nifer o argraffiadau, enghreifftiau hoffi a chliciau mae’ch hysbyseb wedi eu denu, cyfradd y clicio a chyfartaledd cost fesul clic.

Sicrhewch eich bod yn monitro perfformiad eich hysbysebion ac arbrofwch trwy addasu ychydig arnynt a gweld a yw hyn yn gwella’r canlyniadau.

Fel gydag unrhyw fath o hysbysebu ar-lein, yr ymagwedd orau yw dechrau gyda chyllideb fach a phrofi gwahanol fathau o hysbysebion a geirio i weld beth sy’n gweithio orau ar gyfer eich busnes. Yna gallwch gynyddu’r gyllideb ar gyfer yr hysbysebion sy’n cael y canlyniadau gorau nes bod gennych ymgyrch wedi ei mireinio sy’n eich helpu i gyrraedd eich nod.

Oddi yno, gallwch greu ymgyrchoedd pellach gyda’r wybodaeth rydych wedi ei chasglu, fel y byddwch hyd yn oed yn fwy llwyddiannus y tro nesaf.

Postiwyd yn wreiddiol gan Rachel Ramsay ar Barth y DU.

Related blog posts

Person on computer
Hysbysebu eich busnes bach ar-lein
Read
Sut all eich busnes ddefnyddio LinkedIn?
Read
Creu strategaeth Instagram mewn pum cam
Read

© Nominet UK 2024