Sut i ddiweddaru eich negeseuon blog i roi hwb i’ch gwefan

Bydd busnesau bach, yn enwedig, yn gwybod bod creu cynnwys blog o ansawdd yn cymryd amser, a gall fod yn heriol ceisio cadw at amserlen creu cynnwys.

Yn ogystal â chreu cynnwys bytholwyrdd (cynnwys sy’n aros yn berthnasol ac yn werthfawr am gyfnodau hirach), ffordd arall y gall eich busnes gynhyrchu cynnwys newydd yn gyflym a rhoi hwb i’ch SEO a thraffig eich gwefan yw diweddaru ac ailgyhoeddi blogiadau sydd gennych yn barod.

Yn ogystal ag ystyried pam mae hon yn dechneg effeithiol ar gyfer busnesau bach, byddwn ni hefyd yn rhannu chwe darn o gyngor er mwyn eich helpu i fanteisio i’r eithaf ar y dechneg. Mae’n werth nodi, pan fyddwn ni’n sôn am gynnwys yn yr erthygl yma, rydyn ni’n cyfeirio at flogiadau ac erthyglau ar y we.

Pam mae’n werth diweddaru cynnwys sy’n bodoli’n barod?

Gwella eich cynnwys gorau

Os ydych chi wedi cael llwyddiant gyda blogiad penodol yn y gorffennol, er enghraifft un gafodd lawer o sylw neu ei rannu’n helaeth ar y cyfryngau cymdeithasol, beth am ymestyn oes y cynnwys drwy roi hwb arall iddo?

Arbed amser

Mae meddwl am syniadau am flogiad, ymchwilio i allweddeiriau, ysgrifennu’r cynnwys, ei uwchlwytho a’i hyrwyddo yn cymryd amser. Mae diweddaru cynnwys rydych chi eisoes wedi’i ysgrifennu yn caniatáu i chi adeiladu ar sylfeini cadarn a gwella ac optimeiddio rhywbeth rydych chi eisoes wedi ymchwilio a threulio amser arno.

Gwella SEO

Mae diweddaru ac ailgyhoeddi eich cynnwys yn gallu gwella pa mor uchel mae’n ymddangos mewn canlyniadau peiriannau chwilio. Mae rhai o ffactorau canlyniadau Google yn seiliedig ar ba mor ‘newydd’ yw’r cynnwys, ac mae’r peiriant chwilio yn defnyddio’r wybodaeth yma i bennu safon gwefan benodol.  Mae Google yn ffafrio cynnwys newydd, ac yn edrych ar bethau fel pa mor aml mae tudalen yn cael ei diweddaru ac yn rhoi hwb i dudalennau a blogiadau mwy newydd mewn rhai canlyniadau chwilio.

Gwella cyfraddau clicio

Mae’n bosib y gwelwch fod blogiad yn cael mwy o gliciadau ar ôl ei ddiweddaru. Mae’r rhan fwyaf o’r blogiadau neu gynnwys sy’n ymddangos ar frig canlyniadau Google yn rhai sydd wedi’u cyhoeddi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

Yn gyffredinol, mae chwilwyr yn fwy tebygol o glicio ar erthyglau sydd wedi’u cyhoeddi’n fwy diweddar, a’r mwyaf o bobl sy’n clicio ar eich cynnwys, yr uchaf gall ymddangos mewn canlyniadau chwilio. Felly, gwnewch yn siŵr eich bod yn ailgyhoeddi neu’n newid y dyddiad cyhoeddi ar unrhyw gynnwys rydych chi wedi’i ddiweddaru.

Chwe chyngor i ddiweddaru eich cynnwys

  1. Nodwch pa flogiadau i’w diweddaru

Er y gallai diweddaru holl gynnwys eich gwefan yn yr hirdymor fod yn syniad da, mae’n werth canolbwyntio eich ymdrechion ar ddiweddaru un blogiad ar y tro. Nid mater o ddewis eich blogiad hynaf yw hynny, mae angen gwneud rhywfaint o waith ymchwil i ddechrau.

Yn ddelfrydol, dylech ddiweddaru cynnwys sy’n perfformio’n dda, neu sydd wedi perfformio’n dda yn y gorffennol. Efallai fod y blogiad yn cael traffig rheolaidd neu’n un o’ch blogiadau sydd wedi perfformio’n dda ers tro.

Y lle gorau i gychwyn yw mynd draw i’ch cyfrif Google Analytics (os nad ydych chi wedi creu cyfrif, mae’r llwyfan yn gallu rhoi llwyth o wybodaeth ddefnyddiol i chi am berfformiad eich gwefan). Yn yr adrannau ‘Behaviour’, ‘Site Content’ ac ‘All Pages’ yn Google Analytics, gallwch weld pa rai o’ch blogiadau sy’n denu’r mwyaf o draffig (sesiynau neu ymweliadau â thudalen), yn ogystal â pha erthyglau sydd â’r cyfraddau bownsio isaf a faint o amser mae pobl yn ei dreulio ar bob tudalen.

Analytics

Dylai’r cynnwys rydych chi’n ei ddewis fod yn un o’r canlynol:

  • Cynnwys sy’n denu lefel uchel o draffig (ond sydd â chyfraddau trosi isel)
  • Cynnwys sydd â chyfradd drosi uchel (ond sy’n golygu bod eich traffig yn isel)
  • Cynnwys sy’n perfformio’n dda (neu sydd wedi perfformio’n dda) o ran ennyn dolenni a diddordeb ar y cyfryngau cymdeithasol
  • Cynnwys sydd â lefel uchel o argraffiadau (ond sydd â chyfraddau clicio isel) – mae Google Search Console yn lle da i ddod o hyd i’r data yma

2. Edrychwch eto ar eich allweddeiriau

Weithiau, gall blogiadau berfformio’n dda gydag allweddeiriau na chafodd eu dewis neu eu hystyried ar adeg creu’r blogiad gwreiddiol. Mae’n bosib nad yw eich cynnwys yn targedu allweddair o gwbl. Naill ffordd neu’r llall, fel rhan o’r broses ddiweddaru, mae’n syniad da ailedrych ar eich strategaeth geiriau allweddol a gweld a oes cyfleoedd i wella eich canlyniadau ar gyfer air neu gymal penodol.

Mae ymchwil allweddeiriau yn seiliedig ar ddod o hyd i allweddeiriau, termau ac ymadroddion cyffredin mae pobl yn eu defnyddio mewn peiriannau chwilio a’u cynnwys yn eich blogiadau ar-lein, gyda’r nod o wella eich lleoliad ar dudalennau canlyniadau peiriannau chwilio.

Mae’n bosib y bydd angen i chi ddiweddaru ffocws eich allweddeiriau ar gyfer eich blogiad newydd, neu efallai fod rhagor o allweddeiriau y gallech eu targedu. Os ydych yn defnyddio Google Search Console gallwch weld lle rydych chi arni o ran eich allweddeiriau presennol. Mae hefyd yn syniad da edrych ar ba allweddeiriau mae eich cystadleuwyr yn eu defnyddio er mwyn eich helpu i benderfynu beth i’w dargedu.

3. Gwnewch eich blogiad yn fwy gwerthfawr  

Y peth pwysig wrth ddiweddaru eich cynnwys yw ychwanegu mwy o werth iddo, dylech chi wneud mwy na dim ond ychwanegu ychydig o allweddeiriau a lluniau newydd yma ac acw.

  • Ychwanegwch ddolenni mewnol newydd: A oes cyfleoedd i ychwanegu dolenni mewnol newydd i unrhyw flogiad neu dudalen rydych chi wedi’i chyhoeddi ers i’r blogiad gwreiddiol fynd yn fyw?
  • Edrychwch ar beth sy’n boblogaidd i gael ysbrydoliaeth: Edrychwch ar beth arall sy’n boblogaidd o ran allweddeiriau neu bwnc eich cynnwys, gall gynnig syniadau newydd i chi o ran beth y gallech chi ei ychwanegu at eich blogiad
  • Gwiriwch y dolenni: Gwiriwch fod yr holl ddolenni’n gweithio’n iawn a bod unrhyw ddolenni allanol yn mynd â chi i ble fyddai eich cynulleidfa darged yn disgwyl iddyn nhw eu harwain
  • Diweddarwch yr ystadegau: Diweddarwch unrhyw ystadegau a ffigurau lle bynnag y bo’n bosib. A oes gwaith ymchwil newydd wedi’i ryddhau ers i chi gyhoeddi’r cynnwys gwreiddiol?
  • Ychwanegwch gyfryngau newydd: A fyddai modd i chi ychwanegu unrhyw fathau o gyfryngau newydd i wella ansawdd eich blogiad ac i gynyddu’r amser sy’n cael ei dreulio ar y darn? Er enghraifft, a fyddai modd mewnosod fideos neu luniau er mwyn cyfleu pwyntiau allweddol

4. Adolygwch yr alwad i weithredu

Yn ogystal â gwirio unrhyw ddolenni yn eich blogiad, mae’n werth i chi hefyd wirio unrhyw alwadau i weithredu (yr hyn rydych chi am i’r darllenydd ei wneud nesaf, er enghraifft clicio ar ddolen neu lenwi ffurflen). Efallai fod y blogiad rydych chi’n ei ddiweddaru yn un a ddefnyddiwyd o ymgyrch flaenorol gennych, neu o gyfnod pan oedd gennych gynnig arbennig neu wasanaethau nad ydyn nhw’n bodoli bellach.

5. Ystyriwch brif egwyddorion SEO ar y dudalen

Mae SEO ar y dudalen yn cyfeirio at yr hyn y gallwch ei wneud â chynnwys eich tudalennau er mwyn gwella’ch ymdrechion SEO. Bydd ailedrych ar rai o’r prif egwyddorion a gwneud gwelliannau yn gwella cyfle eich cynnwys o ymddangos yn uwch mewn canlyniadau chwilio.

  • Optimeiddiwch eich tagiau: A yw teitl eich blogiad yn cynnwys eich allweddair? A yw’n llai na 60 nod fel nad yw’n cael ei docio mewn canlyniadau chwilio? A yw’n ddigon apelgar i annog pobl i glicio arno?
  • Diweddarwch eich disgrifiad meta: Darnau bach o destun sy’n ymddangos o dan deitlau tudalennau mewn canlyniadau chwilio yw disgrifiadau meta. Mae’n gyfle i chi werthu gwerth eich cynnwys i wella cyfraddau clicio, ac mae’n gyfle arall i gynnwys allweddeiriau.
  • Optimeiddiwch eich lluniau: Sicrhewch nad yw eich lluniau’n rhy fawr, bod enw synhwyrol ar y ffeil a bod y tagiau amgen (y testun bach sy’n ymddangos pan fydd rhywun yn dal llygoden ar ben llun) wedi’u llenwi.
  • Defnyddiwch dagiau penawdau’n gywir: Yn ddelfrydol, dylai teitl eich blogiad neu dudalen ddefnyddio tag H2 (pennawd 2) a dylai unrhyw is-bennawd ddefnyddio tag H3 (pennawd 3), a dylai unrhyw is-bennawd pellach o fewn rheini ddefnyddio tag H4 (pennawd 4)
  • Optimeiddiwch eich penawdau: A yw eich pennawd H1 (teitl eich blog) yn esbonio’n glir beth yw’r cynnwys? A yw’n cynnwys eich allweddair targed? A yw eich blog wedi’i rannu yn ddarnau sy’n hawdd eu darllen gyda phenawdau addas?

6. Ewch ati i hyrwyddo!

Peidiwch â bod ofn trin eich blogiad diweddaraf fel un newydd a ffres wrth hyrwyddo. Drwy adnewyddu eich cynnwys ar-lein, rydych chi’n ychwanegu rhywbeth o werth i’ch cynulleidfa, felly mae’n bryd i chi ailgyflwyno’r cynnwys iddyn nhw.

Fel rydyn ni wedi sôn drwy’r erthygl, mae’n werth nodi y bydd angen i chi ailgyhoeddi neu ddiweddaru’r dyddiad cyhoeddi ar eich cynnwys er mwyn manteisio i’r eithaf ar hyn.

Y peth nesaf i’w wneud yw rhannu’r erthygl ar y cyfryngau cymdeithasol, drwy gylchlythyron e-bost ac unrhyw sianeli eraill sydd ar gael i chi. Cofiwch wneud nodyn o’r dyddiad y gwnaethoch chi ddiweddaru ac ailgyhoeddi’r blogiad fel y gallwch dracio ei berfformiad dros amser i weld a oes cynnydd mewn traffig chwilio, safle mewn canlyniadau chwilio a pherfformiad.

Edrychwch yn ôl ar unrhyw ymgyrchoedd hyrwyddo blaenorol y gwnaethoch chi eu cynnal ar gyfer y cynnwys hefyd. A weithiodd rhywbeth yn dda tro diwethaf i chi rannu’r blogiad fel y gallwch ddefnyddio hynny eto?

Sylwadau i gloi

Mae manteisio ar gynnwys rydych eisoes wedi treulio amser a rhoi ymdrech yn ei greu a’i hyrwyddo drwy ei adnewyddu yn dacteg dda i fusnesau bach. Nid yn unig gallai helpu i arbed amser ac optimeiddio cynnwys ac ymgyrchoedd sydd eisoes wedi bod yn llwyddiannus, gall gael effaith gadarnhaol ar eich SEO hefyd.

Yn bwysicach fyth, cofiwch y dylai unrhyw gynnwys sydd wedi’i ddiweddaru gynnig hyd yn oed yn rhagor i’ch cynulleidfa, nod y broses yw adnewyddu cynnwys i’w wneud yn fwy gwerthfawr a chynhwysfawr.

 

Postiwyd yn wreiddiol gan Zoe ar UK Domain.

Related blog posts

Building blocks
11 cyngor ar gyfer creu eich gwefan gyntaf
Read
Person on computer
Hysbysebu eich busnes bach ar-lein
Read
Ruler
Pa mor hir ddylai fy mlogiau fod a pha mor aml ddylwn i eu postio?
Read

© Nominet UK 2024