Cymdeithas Bêl-droed Cymru yw’r sefydliad adnabyddus Cymreig diweddaraf i newid i’r parthau .cymru a .wales newydd.
Gan ymuno a Chwaraeon Cymru ac Undeb Rygbi Cymru, CBC yw un o’r prif sefydliadau chwaraeon yng Nghymru sy’n arwain y ffordd wrth newid i’r parthau .cymru a .wales.
Dywedodd Prif Weithredwr CBC, Jonathan Ford:
“Mae CBC yn falch iawn o groesawu lansiad parthau .cymru a .wales sy’n cynnig hunaniaeth Gymreig gryfach ar gyfer ein gwefan. Wrth fabwysiadu’r parthau hyn, rydyn yn falch iawn ein bod yn cynorthwyo codi ymwybyddiaeth proffil ein gwlad ar-lein.”
Ymwelwch â www.faw.cymru neu www.faw.wales i weld y wefan.
Dywedodd Russell Haworth, Prif Weithredwr Nominet: “Mae hi wedi bod yn wych bod yn rhan o wireddu .cymru a .wales. Mae’r parthau hyn yn rhan o gynnig rhagor o ddewis ar ôl y dot i unrhyw un sydd eisiau Cymreigio’r we.”
© Nominet UK 2025