Dros 10,000 o gyfeiriadau gwe .cymru .wales wedi ei gwerth mewn mis – symudwch yn gyflym.cymru er mwyn bachu un

Ers lansio i Argaeledd Cyffredinol ar Fawrth 1af, gwerthwyd dros 10,000 o gyfeiriadau gwe .cymru .wales gyda gwefanau ac ebyst nawr yn arddangos gyda balchder eu cysylltiad â Chymru ac yn rhan anatod o fywyd Cymreig.

I nodi diwedd mis cyntaf o fansachu, am hanner dydd ar ddydd Mawrth 31ain o Fawrth bydd .cymru .wales yn rhyddhau rhestr o 3,000 o enwau generig a gadwyd yn ôl fel Rhestr Premiwm.

Bydd rhyddhau o’r newydd yr enwau parth hyn yn rhoi cyfle i sefydliadau, busnesau ac unigolion i gael yr enwau parth symlaf a mwyaf cofiadwy ar yr un pris safonol a pharthau cyffredin .cymru a .wales.

O baecolwyn.cymru i caerffili.cymru bydd enwau parth trefi a dinasoedd ar gael led ledy wlad, ynghyd ag enwau genreig megis:

  • adventure.wales
  • barabrith.cymru
  • caryl.cymru
  • dating.wales
  • excursions.wales
  • fferyllfa.cymru
  • ycymoedd.cymru
  • zoo.wales

Dywed Jo Golley o .cymru .wales am yr enwau ychwanegol:

“Mae’r enwau hyn yn cynnwys enwau parth generig ardderchog. Mae rhai yn hwyl, eraill yn gyfeiriadol, rhai yn fwy perthnasol ond beth maent oll yn ei gynnig yw cyfle unigryw i sicrhau presenoldeb nodweddol Cymreig arlein.

“Bydd yr enwau mwyaf poblogaidd yn cael eu prynu’n sydyn felly annogaf bwy bynnag sydd am bachu cyfeiriad ebost neu gwe i fod yn barod erbyn y 31ain o Fawrth.”

Related blog posts

.cymru .wales: 19,000 Enw Parth i Gymru
Read
Sut i roi eich busnes newydd ar-lein
Read
Sut i ddewis yr enw parth .cymru a .wales perffaith
Read

© Nominet UK 2024