Mae’n rhaid i fusnesau sydd gyda nod masnach ac eisiau apelio i gwsmeriaid yng Nghymru, neu eisiau cydnabod eu treftadaeth Gymreig, cofrestru gyda’r “Trademark Clearinghouse” cyn 31ain Gorffennaf er mwyn sicrhau’r cyfle gorau posibl i gael eu henwau parth .cymru a .wales.
Fe fydd busnesau sy’n gwneud hyn yn gallu cofrestru eu parthau newydd yn ystod y cyfnod hawliau cofrestredig sy’n debygol o ddechrau yn fuan yn yr Hydref cyn i’r cyfnod “cyntaf i’r felin” ddechrau ym mis Ionawr. Fe fyddent hefyd yn gallu darganfod os yw unrhyw un arall wedi cofrestru ar gyfer parth gan ddefnyddio eu nodau masnach.
Mae’r rheiny heb nod masnach hefyd yn gallu cofrestru eu diddordeb ond ni fyddent yn gymwys ar gyfer cofrestru’n fuan. Am ragor o wybodaeth, ewch i eincartrefarlein.cym
© Nominet UK 2024