Mae cyfeiriadau rhyngrwyd sy’n diweddu c gyda .cymru a .wales ar gyfer busnesau a defnyddwyr wedi cael sêl bendith swyddogol gan ICANN. Byddem yn cynnig y rhain mewn lansiad graddol a fydd yn dechrau ar y 1af o Fedi er mwyn cefnogi “brand Cymru”, cynyddu cydnabyddiaeth dramor, helpu i ddenu buddsoddiad, hybu allforio a thyfu’r economi Cymreig.
Dywedodd Ieuan Evans, Cadeirydd Grŵp Cynghori Cymru Nominet:
“Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf rydym wedi gweithio gyda busnesau a sefydliadau Cymraeg i greu cyfle i frandio Cymru ar-lein ac i gryfhau defnydd ac amlygrwydd yr iaith Gymraeg ar y rhyngrwyd. Mae’r cytundebau .cymru a .wales yn ein caniatáu i wireddu’r freuddwyd yno. 2014 yw’r flwyddyn y byddem yn arwain Cymru i’r dyfodol digidol.”
Ynghyd â chefnogaeth gan y Prif Weinidog Carwyn Jones ac Aelodau Cynulliad o bob plaid yn y Cynulliad, rydym wedi derbyn cefnogaeth sylweddol gan fusnesau, sefydliadau a defnyddwyr ledled Cymru sy’n datgan diddordeb twymgalon i’r cyfeiriadau newydd.
Fe fydd lansiad graddol yn caniatáu i’r rheiny sydd gyda nod masnach gofrestredig i fanteisio ar gofrestru’n gyntaf ym mis Medi eleni, wedi’u dilyn gan fusnesau a sefydliadau sydd yn gallu profi buddiannau a defnydd o enw brand yng Nghymru, hyd yn oed oes nad oes ganddynt nod masnach. Fe fydd y cyfnod olaf yn dechrau ar Fawrth 1af 2015 pan fydd y cyfeiriadau ar gael i bawb.
Fe fydd .cymru a .wales yn cael eu rheoli gan Nominet, y gofrestrfa sy’n gyfrifol am redeg cyfeiriadau rhyngrwyd .uk. Dywedodd Prif Swyddog Masnachol Nominet, Antonia Seymour: “Wedi dwy flynedd o gynllunio, rydym wrth ein boddau bod .cymru a .wales bellach wedi cael eu cymeradwyo. Gan ein bod wedi cyrraedd y cyfnod hwn, mae cynllunio ar gyfer y lansiad yn dechrau o ddifrif – dyma gyfle enfawr i Gymru i ddiffinio ei safle ar y rhyngrwyd a gwneud y mwyaf o’r etifeddiaeth unigryw’r wlad yn y ddwy iaith.”
© Nominet UK 2024