Beth ddylai BBaCh ei wneud yn ystod y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig?

Mae’r cyfnod sy’n arwain at y Nadolig yn amser prysur o’r flwyddyn i lawer o fusnesau bach, yn arbennig y rheiny sy’n gwerthu cynhyrchion mae galw mawr amdanynt. Dyma rai syniadau i ychwanegu at eich rhestr “Pethau i’w Gwneud” ar yr adeg yma o’r flwyddyn i helpu’ch busnes wneud y gorau o’r cyfnod o siopa dros yr Ŵyl.

1. Meddyliwch yn ôl at y Nadolig diwethaf

Os nad eleni yw’ch blwyddyn gyntaf o fasnachu, mae’n syniad da i feddwl yn ôl at y Nadolig diwethaf, a dadansoddi sut bu i’ch busnes berfformio. Meddyliwch am ba gynhyrchion oedd gofyn fwyaf amdanynt, y rhai na werthodd mor dda â’r disgwyl ac a oedd ‘na unrhyw dueddiadau yn yr enillion ar ôl y Nadolig.

Os ydych yn gwerthu cynhyrchion yn uniongyrchol ar eich safle gwe, edrychwch ar ba dudalennau cynnyrch a welwyd fwyaf a pha eitemau a werthodd fwyaf dros yr Ŵyl. Gallwch ddefnyddio’r data hwn i helpu dylanwadu eich penderfyniadau prynu ar gyfer eleni, pa gynhyrchion gallwch eu hybu neu hyd yn oed ar gyfer syniadau am ddigwyddiadau hyrwyddo gwych i helpu sbarduno gwerthiant.

2. Ewch i’r afael ag ysbryd y Nadolig

Os ydych yn berchen ar siop go iawn ar gyfer eich busnes, rydych yn gwybod pa mor bwysig yw hi i gael pobl mewn tymer i siopa Nadolig gydag addurniadau Nadoligaidd. Gyda hyn mewn golwg, meddyliwch am:

  • Addurno’ch siop gyda goleuadau a choeden Nadolig, gallwch hyd yn oed lapio ychydig o flychau a’u gosod nhw o dan y goeden i wneud i gwsmeriaid feddwl am anrhegion o dan eu coeden nhw.
  • Wneud rhestr chwarae chwaethus sy’n cynnwys caneuon Nadoligaidd i helpu creu’r awyrgylch iawn.
  • Osod rhywfaint o anrhegion llai, rhai sy’n ddelfrydol ar gyfer llenwi’r hosan, wrth ochr y til i annog cwsmeriaid i brynu’n fyrbwyll tra fyddant yn disgwyl talu.
  • Ddylunio arddangosfa Nadoligaidd ar gyfer eich ffenestr sy’n cynnwys eich cynhyrchion mwyaf poblogaidd. Peidiwch ag anghofio rhannu llun ar y cyfryngau cymdeithasol yn ogystal! Am fwy o ysbrydoliaeth, edrychwch ar #christmaswindow ar Instagram.

Ochr yn ochr â’ch siop neu os ydych yn rhedeg eich busnes yn gyfan gwbl ar-lein, gall ail-wampio’ch safle gwe gyda thema Nadoligaidd dalu ar ei ganfed i gael pobl i fynd i’r afael ag ysbryd yr Ŵyl. Hyd yn oed os gallwch ychwanegu ychydig o ddelweddau Nadoligaidd, troshaen seml ar eich tudalen gartref neu gynnwys wedi ei deilwra i helpu cwsmeriaid ddewis anrhegion delfrydol, gall hyn i gyd helpu cael ymwelwyr mewn hwyliau da i brynu.

3. Trefnwch gynigion arbennig

Gwerthfawrogir arbed arian yng nghanol treuliau siopa Nadolig ar bob achlysur ac mae cynigion yn ffordd wych o helpu’ch busnes sefyll allan. Rhowch reswm gwych i bobl i siopa gyda chi drwy gynnig rhywfaint o gynigion Nadoligaidd arbennig, ar-lein ac yn y siop. Gallwch edrych ar gynnig codau disgownt ar gyfer eich siop ar-lein, neu fargeinion o dri-am-ddau yn eich siop. Yn ogystal, peidiwch ag anghofio dweud wrth eich cwsmeriaid am eich cynigion drwy’ch safle gwe, sianelau cyfryngau cymdeithasol a rhestr bostio.

Syniad arall i feddwl amdano yw cynnig anrheg fach yn rhad ac am ddim i gwsmeriaid pan fyddant yn gwario dros swm arbennig gyda chi, fe all hyn helpu annog fwy o wariant. Gall yr anrheg yn rhad ac am ddim hon fod yn anrheg ychwanegol maent yn ei chael am ddim, neu’n drît iddyn nhw eu hunain.

4. Defnyddiwch y cyfryngau cymdeithasol i ennyn diddordeb

Gall y cyfryngau cymdeithasol fod yn erfyn gwych i helpu ennyn diddordeb i’ch busnes yn y cyfnod sy’n arwain at y Nadolig. Meddyliwch am gynnig disgowntiau unigryw i’ch dilynwyr, sy’n ddilys yn eich e-siop, eich siop manwerthu neu’r ddwy. Cadwch mewn cof, gall or-ffocysu ar werthiant yn eich sianelau cymdeithasol ddiflasu pobl, felly cofiwch ffocysu ar bostio cynnwys hwyliog neu ddiddorol fydd pobl yn ei rannu â’u dilynwyr.

Gall rai syniadau ar gyfer creu cynnwys â thema Nadolig gynnwys ‘calendr Adfent’, gyda chynnig ar gyfer pob diwrnod o’r Adfent. Mae’r rhain ond yn ddilys ar un diwrnod er mwyn annog pobl i brynu yn y fan a’r lle. Mae llawer o gwmnïau hefyd yn trefnu cystadlaethau Nadoligaidd, a all fod yn hynod o boblogaidd, p’run ai a yw’n wobr ddyddiol ar 12 diwrnod y Nadolig neu gystadleuaeth fwy traddodiadol o ‘ail-drydarwch i ennill’ gyda gwobr dymhorol.

5. Trefnwch ddigwyddiad Nadoligaidd

Gall ddigwyddiadau Nadoligaidd fod yn hynod o boblogaidd, felly gallwch feddwl am droi hyn i’ch melin eich hun i helpu rhoi hwb i’ch gwerthiant cyn y Nadolig. Gall ddigwyddiadau siopa’r Nadolig fod yn ffordd wych o ddenu pobl i ddod a siopa am anrhegion yn eich siop.

Efallai gallwch feddwl am aros yn agored yn hwyrach i ddenu cwsmeriaid sydd ond yn rhydd ar ôl y gwaith, a hudo pobl i’r siop gydag anrheg am ddim, hyd yn oed os ydynt ond yn fins-peis, gwin cynnes neu wasanaeth lapio anrhegion am ddim dros dro. Gallwch hyd yn oed gynnig cymhelliad ychwanegol i’r rhai cyntaf i gyrraedd fel sach ddanteithion am ddim i’r 50 o bobl gyntaf. Peidiwch ag anghofio defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i ledaenu’r neges.

Gall cystadleuaeth am gwsmeriaid y Nadolig fod yn chwyrn, ond gall bod yn ymwybodol a pharatoi am yr Ŵyl dalu ar ei ganfed i fusnesau o bob maint.

Related blog posts

SEO
Pum camgymeriad SEO dylai pob busnes eu hosgoi
Read
Chess
Sut all BBaChau gystadlu â brandiau sy’n enwau mawr â chyllidebau marchnata mawr?
Read
Ruler
Pa mor hir ddylai fy mlogiau fod a pha mor aml ddylwn i eu postio?
Read

© Nominet UK 2024