Dyma un o’r cwestiynau mwyaf cyffredin ymhlith perchnogion busnesau bach. Mae dau ffactor i ateb y cwestiwn yma – a oes gennych chi’r amser, ac a oes gennych chi’r sgiliau?
Mae’r ddau yn bwyntiau pwysig iawn i’w hystyried, yn enwedig oherwydd bod yna lawer o fathau o arferion SEO yn bodoli yn y byd digidol, gan gynnwys:
Mae yna lawer o waith ynghlwm â rheoli SEO, sy’n dod â ni’n ôl at y cwestiwn gwreiddiol – a ddylwn i allanoli fy SEO neu ei wneud yn fewnol?
Mae yna lawer o fanteision o reoli eich gweithgareddau ar-lein yn fewnol ond mae yna anfanteision i hynny hefyd.
Efallai ei fod yn ymddangos yn amlwg, ond os gwnewch chi eich SEO eich hun, bydd hynny’n un gost yn llai i’ch busnes. Os nad oes gennych chi neu aelod o staff lwyth gwaith llawn, mae’n gwneud synnwyr i hyfforddi rhywun fel bod modd i chi reoli popeth – o’ch negeseuon blog i’ch ymgyrchoedd adeiladu cyswllt yn fewnol.
Mae rhai asiantaethau hefyd yn codi tâl ychwanegol am weithgareddau fel postio blogiau ac ychwanegu tudalen newydd i’ch gwefan. Yn dibynnu ar y llwyfan rydych chi wedi’i ddefnyddio i adeiladu eich gwefan, mae hyn yn aml yn rhyfeddol o hawdd i’w wneud eich hun a gallwch arbed llawer o arian drwy wneud hynny. Gellid defnyddio’r arian rydych chi’n ei arbed i farchnata neu hysbysebu.
Mantais enfawr o gyflawni eich gweithgareddau SEO eich hun yw eich bod wir yn deall eich diwydiant, eich busnes a’ch sylfaen cwsmeriaid. Mae hyn yn rhoi gwybodaeth fewnol werthfawr i chi, fel sut mae’ch cwsmeriaid yn mynd ati i chwilio, siopa, prynu a rhyngweithio â’ch sefydliad yn ogystal â’r hyn mae eich cystadleuaeth yn ei wneud.
Er bod hyn wrth gwrs yn rhywbeth y gall asiantaeth ei ddysgu os byddwch yn penderfynu allanoli SEO, bydd yn cymryd amser, ac mae’n annhebygol y byddan nhw’n ymroi eu hunain yn llwyr i’ch busnes yn yr un ffordd ag y byddech chi.
Un o fanteision gorau’r dull o’i wneud eich hun yw y gallwch ddysgu sgìl newydd werthfawr. Gall deall o ble mae’ch traffig yn dod a’r allweddeiriau mae pobl yn eu defnyddio i ddod o hyd i’ch busnes fod yn amhrisiadwy gan y bydd hyn yn eich galluogi i gyfathrebu’n fwy effeithiol â darpar gwsmeriaid a chwsmeriaid presennol.
Os byddwch chi’n gofalu am SEO yn fewnol bydd gennych reolaeth lawn drosto – felly os ydych chi’n awyddus i rannu adolygiad newydd neu am gyhoeddi neges flog ar fyr rybudd, mae gennych reolaeth dros yr hyn sy’n cael ei bostio a phryd. Fodd bynnag, os ydych chi’n allanoli SEO, erbyn i chi anfon rhywbeth at y cwmni a’i fod yn cael ei bostio, mae’n ddigon posib y bydd y foment wedi pasio.
Efallai y bydd gennych amser i bostio neges drydar neu bostio blog yn awr ac yn y man, ond mae’n rhaid cael cysondeb er mwyn i SEO fod yn effeithiol. Os ydych chi wir am elwa ar eich ymdrechion, mae angen i chi bostio cynnwys newydd yn rheolaidd.
Mae cynllun SEO pwrpasol yn gofyn am lawer o amser ac ymdrech, felly os ydych chi’n bwriadu ei wneud eich hun, mae angen i chi sicrhau bod gennych chi neu rywun yn eich tîm ddigonedd o’r ddau beth hyn.
Mae algorithmau Google yn gallu bod yn gymhleth iawn ac er mwyn gwneud pethau’n fwy heriol, maen nhw’n newid yn aml hefyd. Os nad ydych chi’n arbenigwr ym myd SEO, fe allech chi fod yn defnyddio technegau het ddu sy’n gwneud mwy o ddrwg nag o les i’ch gwefan yn anfwriadol.
Er enghraifft, os edrychwn ni ar allweddeiriau. Rydyn ni i gyd yn gwybod bod allweddeiriau yn angenrheidiol i helpu i wella gwelededd eich gwefan mewn canlyniadau – os nad oes digon, fydd Google ddim yn eich adnabod, ac os bydd gormod cewch eich cosbi gan beiriannau chwilio am stwffio allweddeiriau ar eich gwefan.
Os ydych chi’n mynd i wneud eich SEO eich hun, mae’n hanfodol bod gennych chi’r wybodaeth a’r arbenigedd i wneud hynny. Mae camgymeriadau’n gallu digwydd ac mae brandiau mawr wedi gwneud rhai cyn hyn. Cafodd yr SEO Hall of Shame ei greu gan Hubspot er mwyn dangos pa bethau y dylech chi eu hosgoi.
Mae’r byd SEO yn newid yn barhaus, felly un anfantais o’i wneud eich hun yw bod angen i chi fod yn ymwybodol o dechnegau a newidiadau yn y diwydiant.
Mae technegau het wen a het ddu, yn ogystal â’r hyn mae Google yn ei flaenoriaethu, yn esblygu’n barhaus, sy’n golygu y gallech chi fod yn defnyddio arferion sydd wedi dyddio neu’n gwneud rhywbeth yn ddiarwybod a all achosi i chi gael eich cosbi’n drwm o ran SEO.
Os byddwch yn penderfynu allanoli eich SEO, bydd hyn yn golygu recriwtio asiantaeth neu unigolyn llawrydd i gyflawni eich gweithgareddau ar-lein ar eich rhan. Er y gallai fod yn fanteisiol i unrhyw fusnes ddefnyddio gwybodaeth arbenigol allanol, efallai fod gennych amheuon o ystyried y gost.
Er mwyn eich helpu i wneud y penderfyniad cywir ar gyfer eich busnes, rydyn ni wedi nodi rhai o fanteision ac anfanteision allanoli SEO.
Yn sicr, ni fyddai defnyddio asiantaeth SEO wych yn rhad, ond mae rheswm da dros hyn. Ar wahân i fod â’r wybodaeth a’r sgiliau i wella’ch safleoedd, maen nhw’n gwybod yn union sut gellir defnyddio’ch gwefan i gynhyrchu refeniw i’ch busnes.
Mae hefyd yn werth ystyried y gost i’ch busnes o wneud eich SEO eich hun. Pa un yw’r defnydd gorau o’ch amser, pori’r we yn chwilio am ddolenni neu gysylltu â chwsmeriaid a chynhyrchu busnes newydd?
Pan ddaw at y wybodaeth arbenigol sydd gan asiantaeth SEO, mae yna lawer o fanteision:
Mantais fawr o allanoli’r gwaith i asiantaeth yw eich bod yn elwa ar dîm cyfan o arbenigwyr a all gynnwys dylunwyr UX a graffig, marchnatwyr cynnwys, datblygwyr gwefannau, arbenigwyr cyfryngau cymdeithasol, arbenigwyr talu fesul clic a mwy.
Rydyn ni gyd wedi profi’r problemau yma, delweddau ddim yn llwytho, dolenni wedi torri heb esboniad, problemau fformatio a chodau gostyngiad ddim yn gweithio – mae cymaint o bethau sy’n gallu mynd o’i le gyda gwefan. Oni bai fod gennych sgiliau technegol, gall y pethau yma gymryd amser i’w datrys ac nid yw amser segur byth yn beth da ar gyfer eich gwefan.
Os na all pobl gael mynediad at eich gwefan gallai hyn arwain at golli refeniw a niweidio’ch enw da, ond drwy gael asiantaeth i reoli’r broses i chi, gallan nhw ddatrys y broblem yn gyflym ac yn effeithlon. Mae’n werth nodi hefyd eich bod yn llai tebygol o brofi’r problemau yma yn y lle cyntaf wrth allanoli’r gwasanaeth.
Un o’r problemau mwyaf y mae busnesau bach a chanolig yn eu hwynebu yw absenoldeb staff. Pan fydd rhywun yn sâl, yn mynd ar wyliau neu’n gadael y cwmni, mae’n anodd cyflawni’r holl waith. Os ydych yn allanoli’r gwaith i asiantaeth, does dim rhaid i chi boeni bod eich tudalennau gwe yn cael eu hesgeuluso neu nad oes gennych chi flog newydd i’w gyhoeddi.
Os ydych chi’n rhywun sy’n hoffi cymryd rhan ym mhob agwedd ar redeg eich busnes, efallai na fyddai allanoli yn addas i chi. Er y byddwch chi’n cael eich cynnwys yn y penderfyniadau, bydd agweddau bob dydd ar eich SEO yn cael eu cwblhau gan rywun arall.
Bydd allanoli SEO yn gost ychwanegol i’ch busnes. Nid yw asiantaethau’n rhad, ond pan ddaw hi at farchnata ar-lein, rydych chi’n cael y gwasanaeth rydych chi’n talu amdano. Mae yna ddigon o gwmnïau a fyddai’n gallu gwneud eich gwasanaeth SEO yn rhad, ond mae’n annhebygol y cewch chi’r canlyniadau rydych chi’n eu dymuno.
Mae’n gwneud synnwyr – ni all llawer o asiantaethau SEO na gweithwyr llawrydd gynnal incwm gydag un cleient busnes bach yn unig. Felly, un o’r problemau gydag allanoli SEO yw y bydd y cwmni’n debygol o fod yn rheoli mwy nag un cleient, sy’n golygu y bydd angen iddyn nhw rannu eu sylw gyda chleientiaid eraill.
Mae’n bosib felly na fydd modd i chi gysylltu â nhw a gofyn iddyn nhw bostio blog yn syth neu gynnal ymgyrch newydd ar fyr rybudd. Bydd angen trefnu eich ceisiadau, ond pan fyddwch chi’n rheoli eich SEO eich hun, gallwch chi wneud y gwaith ar unwaith.
Bydd gwneud chwiliad cyflym am asiantaethau SEO yn cadarnhau bod yna ddwsinau o gwmnïau allan yna sy’n gwneud honiadau afrealistig y gallan nhw gael eich gwefan i ymddangos gyntaf ar Google mewn dim o dro. Peidiwch â chael eich twyllo gan yr honiadau yma – mae unrhyw arbenigwr SEO da yn gwybod ei bod hi’n cymryd amser i godi yn y rhengoedd canlyniadau.
Mae yna lawer o asiantaethau ffug, felly mae’n bwysig eich bod chi’n cymryd amser i ddod o hyd i’r un iawn. Porwch drwy eu tudalennau cyfryngau cymdeithasol i sicrhau bod ganddyn nhw ddilynwyr dilys, darllenwch adolygiadau, ac ewch i’w swyddfa os yw wedi’i ganiatáu neu trefnwch alwad Zoom i gwrdd â’r tîm.
Os ydych chi’n penderfynu allanoli’r gwaith neu ei wneud eich hun, bydd rhoi amser i weithredu’ch strategaethau SEO yn effeithiol yn golygu y gallwch fwynhau’r manteision sydd ganddo i’w gynnig.
Os oes angen rhagor o awgrymiadau a chyngor arnoch i’ch helpu i wneud penderfyniad ynghylch a ddylech wneud SEO yn fewnol neu ei allanoli, mae rhai adnoddau gwych ar gael isod:
© Nominet UK 2025