Pryd yw’r amser gorau i bostio ar y cyfryngau cymdeithasol?

Mae hwn yn bwnc sy’n cael ei ymchwilio a’i drafod yn eang ym maes marchnata digidol – pa ddiwrnod, awr, neu funud hyd yn oed, yw’r amser gorau i bostio ar y cyfryngau cymdeithasol?

Mae gwelliannau i declynnau dadansoddi llwyfannau cymdeithasol a rhagor o ddealltwriaeth o ymddygiad defnyddwyr yn golygu bod ystod o fewnwelediadau ar gael sy’n gallu eich helpu i ddeall pa amser y dylech fod yn cyhoeddi eich neges Twitter neu Instagram ddiweddaraf.

Mae’r blog yma’n edrych ar sut gall eich busnes ddefnyddio dadansoddiadau a pherfformiad i helpu i gael syniad gwerthfawr o’r amser gorau i bostio negeseuon ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Ymchwil a dadansoddi data

Mae digonedd o ddata ac ymchwil allan yna sy’n awgrymu mai’r diwrnod gorau i bostio ar Facebook yw dydd Mercher ac mai am 9am yw’r amser gorau i drydar.  Mae’r data dadansoddol yma, sy’n aml ar gael ar gyfer gwahanol sectorau a diwydiannau, yn gallu cynnig blas diddorol ar sut mae’r cyfryngau cymdeithasol yn cael eu defnyddio ar raddfa fyd-eang.

Drwy edrych ar pryd mae’r rhan fwyaf o bobl yn sgrolio drwy Facebook neu’n pori drwy Twitter, gallwch ddechrau dod i ddeall pa ddiwrnodau ac amseroedd mae pobl yn fwyaf gweithredol ar y cyfryngau cymdeithasol.

Er enghraifft, datgelodd busnes oedd yn targedu rhieni newydd fel cynulleidfa darged, eu bod wedi newid eu hysbysebion cyfryngau cymdeithasol i redeg yn ystod y nos, a thrwy wneud hynny fe lwyddon nhw i gyrraedd rhieni newydd oedd yn sgrolio drwy’r cyfryngau cymdeithasol wrth iddyn nhw ofalu am eu babanod yn ystod yr oriau mân. Roedd modd iddyn nhw weld yn hawdd bod hyn yn llawer mwy effeithiol na cheisio cyrraedd eu cynulleidfa darged yn ystod y dydd.

Mae hyn yn dangos pa mor bwysig yw hi i ystyried eich busnes, eich cynnyrch a’ch cynulleidfa darged wrth feddwl am yr amseroedd gorau i bostio ar y cyfryngau cymdeithasol.

Gadewch i ni edrych ar y rhain yn fwy manwl.

Mewnwelediadau o ddadansoddiadau cyfryngau cymdeithasol

Mae rhai llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn gallu dangos pryd mae’ch dilynwyr yn fwyaf gweithredol ar y llwyfan, a ph’un a yw eich dilynwyr yn cyfateb i bersona eich cwsmeriaid, gall hyn fod yn arwydd da o pryd i drefnu postio eich negeseuon.

Er enghraifft, mae Instagram Analytics yn dangos:

  • Oriau eich dilynwyr: Yr amser cyfartalog bob diwrnod pam mae eich dilynwyr yn defnyddio Instagram
  • Diwrnodau eich dilynwyr: Diwrnodau’r wythnos pan fydd eich dilynwyr yn fwyaf gweithredol ar y llwyfan

Mae gan WordStream ganllaw defnyddiol er mwyn dod o hyd i ddadansoddiadau am eich cynulleidfa ar Instagram.

Mae Facebook Insights hefyd yn gallu dangos pryd mae hoffwyr eich tudalen ar-lein, ac yn dangos graff o’r dyddiau a’r amseroedd maen nhw’n defnyddio’r llwyfan cymdeithasol.

Er nad yw’r data yma mor hygyrch, efallai, yn y llwyfannau cymdeithasol eu hunain, mae offer a llwyfannau eraill ar gael ar-lein sy’n gallu cynnig mewnwelediad tebyg i chi. Un enghraifft yw Followerwonk, sy’n gallu darparu naill ai dadansoddiad o ddilynwyr brand neu o’r bobl maen nhw’n eu dilyn, gan gynnwys yr oriau maen nhw’n fwyaf gweithredol. Gallwch gysylltu un proffil cymdeithasol am ddim iddo neu dalu ffi fisol er mwyn cael dadansoddiad lefel uwch.

Most active hours

Mesuryddion ymgysylltu

Wrth i chi ddechrau adeiladu eich proffiliau cymdeithasol a phostio’n fwy aml, bydd modd i chi ddadansoddi llwyddiant eich gweithgarwch a sylwi ar dueddiadau o ran tonnau o gyfnodau prysur a chyfnodau tawelach o ran ymgysylltiad.

Bydd y rhan fwyaf o lwyfannau cymdeithasol yn caniatáu i chi weld eich negeseuon mwyaf llwyddiannus neu gymharu cyrhaeddiad a mesuryddion ymgysylltu eich negeseuon cyfryngau cymdeithasol ar gyfer yr wythnos neu’r mis. Os ydych chi’n postio’n organig ar eich llwyfannau cymdeithasol, cadwch lygad ar unrhyw gynnydd sylweddol mewn ymgysylltiad a cheisiwch weld a oes tuedd i chi ennyn mwy o ddiddordeb eich dilynwyr pan fyddwch chi’n postio ar adeg benodol o’r diwrnod, hyd yn oed os mai dim ond y bore, prynhawn neu gyda’r nos yw hyn.

Twitter analytics

Os byddwch yn mynd yn fyw ar eich cyfryngau cymdeithasol neu’n defnyddio’r nodwedd storïau, gallwch gymharu’r ymgysylltiad o ran faint o bobl oedd wedi gwylio eich cynnwys byw neu eich stori pan oeddech chi’n postio ar amseroedd gwahanol o’r dydd.  Er y bydd y cynnwys rydych chi’n ei rannu neu bwnc eich fideo byw yn effeithio ar yr ymgysylltiad, gall hyn fod yn arwydd da o’r adegau mae eich dilynwyr yn fwyaf tebygol o ryngweithio gyda’ch brand.

Dyma rai o’r mesuryddion a allai fod werth cadw golwg arnynt:

  • Argraffiadau (yn amrywio yn ôl llwyfannau cymdeithasol, ond mae’n mesur faint o weithiau mae neges yn cael ei dangos neu faint o weithiau mae rhywun yn gweld y neges)
  • Rhyngweithiadau â’ch storïau
  • Faint o bobl sydd wedi hoffi, rhannu a gadael sylwadau

Ymddygiad a mewnwelediad i’r gynulleidfa

Mae hyn yn dod â ni yn ôl i’r enghraifft flaenorol o dargedu rhieni newydd yng nghanol y nos o gymharu ag yn ystod y dydd. Wrth i chi ddysgu rhagor am eich cynulleidfa darged, gallwch ddechrau deall pryd maen nhw’n debygol o ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a beth fyddan nhw’n chwilio amdano ar yr adeg honno.

Er enghraifft, os ydych chi’n darparu gwasanaethau busnes-i-fusnes ac am rannu eich blogiad diweddaraf am ddatblygiad newydd yn y diwydiant, a yw’ch cynulleidfa darged yn defnyddio LinkedIn a Twitter yn y bore i ddarllen y newyddion diweddaraf cyn dechrau ar eu gwaith?

Neu, gallai busnes ffasiwn i gwsmeriaid ystyried postio neges i lansio’u cynnyrch diweddaraf gyda’r nos ar ddiwrnod pan fydd pobl yn cael eu cyflogau, pan fydd eu cynulleidfa darged yn fwy tebygol o fod ar y we.

Gall unrhyw ddadansoddiad cynulleidfa rydych chi’n ei wneud wrth lansio prosiect newydd neu fel rhan o ymgyrch farchnata fwy ar gyfer eich busnes fod yn rhan o hyn. Os ydych chi’n datblygu personoliaethau ar gyfer eich cwsmeriaid, cofiwch feddwl am eu hymddygiadau a’u tueddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd.

Amserlennu negeseuon

Er ein bod ni wedi canolbwyntio ar amseroedd penodol o’r dydd a dyddiau o’r wythnos yn llawer o’r enghreifftiau, gall dealltwriaeth ehangach o ymddygiad eich cynulleidfa darged ar y cyfryngau cymdeithasol gyfrannu at eich ymgyrchoedd hefyd. Fel yn yr enghraifft uchod am fusnes ffasiwn, a yw diwrnod cyflog yn effeithio ar ba mor dderbyngar yw pobl o’ch ymgyrchoedd cymdeithasol? A oes ffactorau eraill, fel cynllunio ar gyfer y Nadolig neu wyliau ysgol, sy’n effeithio ar eich cwsmeriaid hefyd?

Gall offerynnau amserlennu cyfryngau cymdeithasol ar-lein fod yn ddefnyddiol wrth edrych ar berfformiad eich cyfryngau cymdeithasol ac ar gyfer amserlennu negeseuon ar adegau pan na fyddwch chi ar-lein neu’n gallu postio neges. Mae’r offer rheoli yma yn lle da i ddechrau arni.

Mae’r ateb i’r cwestiwn ynghylch pa amser sydd orau i bostio ar eich sianeli cyfryngau cymdeithasol yn ddibynnol ar eich busnes a’ch cwsmeriaid. Does dim un ateb sy’n gweithio i bawb, ond yn hytrach, dylid defnyddio casgliad o fewnwelediadau ar sail eich perfformiad, eich ymchwil a’ch cwsmeriaid.

 

Postiwyd yn wreiddiol gan Zoe Brown ar UK Domain.

Related blog posts

Creu strategaeth Instagram mewn pum cam
Read
Person on computer
Hysbysebu eich busnes bach ar-lein
Read
desk
Canllaw i hysbysebu ar LinkedIn ar gyfer busnesau bach
Read

© Nominet UK 2024