Chwe ffordd i adnewyddu eich strategaeth marchnata cynnwys

Mae dechrau blwyddyn newydd yn aml yn gyfle i edrych yn ôl dros y flwyddyn sydd wedi bod ac i bennu nodau newydd ar gyfer y flwyddyn i ddod, yn ein bywydau personol ac mewn busnes. Un peth mae 2020 wedi dangos i ni yw pa mor bwysig yw gallu addasu ein nodau, ein strategaethau a’n gweithgarwch marchnata.

Yn 2021, mae cynnwys yn parhau i fod yn rhan bwysig o’r byd marchnata. Llynedd, gwelwyd llawer o ddatblygiadau a newidiadau yn y ffordd mae cwsmeriaid yn defnyddio cynnwys, sy’n golygu bod nawr yn amser delfrydol i ailedrych ar eich strategaeth marchnata cynnwys eich hunan er mwyn sicrhau ei bod yn gyfredol ac yn berthnasol.

Er mwyn eich helpu i ddechrau arni, rydyn ni wedi rhannu chwe ffordd dda i adnewyddu eich strategaeth cynnwys isod.

1. Ailedrychwch ar eich dadansoddiad SWOT

Fframwaith poblogaidd yw dadansoddiad SWOT sy’n cael ei ddefnyddio ym maes marchnata i helpu busnesau i nodi cryfderau, gwendidau, bygythiadau a chyfleoedd allanol.

Os nad ydych chi wedi creu dadansoddiad SWOT ar gyfer eich busnes, mae nawr yn amser da. Gall fod yn ddefnyddiol i gynnal gynnal dadansoddiad ar gyfer eich cynnwys marchnata yn unig yn ogystal ag ar gyfer eich strategaeth busnes yn ehangach. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y canllaw marchnata cynnwys yma.

SWOT diagram

Os oes gennych ddadansoddiad SWOT eisoes ar gyfer marchnata cynnwys, rhowch amser i ystyried gwerthuso a oes unrhyw beth wedi newid neu a ydych chi wedi dysgu unrhyw beth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Er enghraifft:

  • Eich cryfderau: A oes unrhyw bynciau, themâu neu fformatau wedi gweithio’n arbennig o dda?
  • Eich gwendidau: A oes unrhyw bynciau, themâu neu fformatau sydd heb fod mor llwyddiannus ag oeddech chi’n ei ddisgwyl? A wnaeth pandemig COVID-19 amharu ar unrhyw brosiectau neu gynlluniau a oedd gennych?
  • Bygythiadau allanol: Beth mae eich cystadleuwyr wedi bod yn ei wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf? Ydyn nhw wedi cyhoeddi cynnwys sydd wedi bod yn llwyddiannus neu ydyn nhw wedi newid cyfeiriad neu ddull?
  • Cyfleoedd allanol: A yw’r ffordd mae cwsmeriaid yn defnyddio cynnwys wedi newid? Sut gellir defnyddio cynnwys i helpu i gefnogi unrhyw newidiadau i’ch busnes neu i daith y cwsmer?

2. Ystyriwch sut mae arferion y cwsmer wedi newid

Does dim syndod bod y pandemig yn 2020 wedi newid arferion siopa a’r ffordd mae cwsmeriaid yn rhyngweithio â brandiau. Wrth i lawer o fusnesau orfod mabwysiadu dulliau digidol a ffyrdd o ryngweithio â chwsmeriaid o bell, gallai hyn gael effaith ar y math o gynnwys rydych chi’n ei gynhyrchu a sut rydych chi’n ei hyrwyddo yn ystod y flwyddyn i ddod.

Beth allwch chi ei ddysgu am y newidiadau yn eich diwydiant i’ch helpu i wella’ch cysylltiadau â chwsmeriaid, a pha mor effeithiol yw eich cynnwys? A oes unrhyw dueddiadau y dylech fod yn cadw golwg arnynt?

Beth am edrych ar rai enghreifftiau:

Mae archebion ar-lein wedi datblygu gwerth 10 mlynedd mewn 8 wythnos

Gyda chymaint o fusnesau’n gorfod cau eu lleoliadau go iawn, roedd cynnydd mewn e-fasnachu a siopa ar-lein yn ddisgwyliedig. Fodd bynnag, mae’n bryd dechrau meddwl am ba gynnwys allai gefnogi unrhyw nodweddion e-fasnachu newydd a allai fod gennych.

Er enghraifft, a fyddai ychwanegu tudalen Cwestiynau Cyffredin yn ffordd o wella dibynadwyedd (rhywbeth mae defnyddwyr yn mynd i fod yn chwilio amdano wrth i ragor o fusnesau e-fasnach ymddangos)? Neu, a allech chi ddarparu canllaw prynu er mwyn helpu cwsmeriaid i ddewis cynnyrch o’ch siop ar-lein newydd?

Mewn dau fis, llwyddodd Disney Plus i gyflawni rhywbeth a gymerodd saith mlynedd i Netflix

Mae’r ffordd mae pobl yn defnyddio cynnwys yn newid, felly ailedrychwch ar eich strategaeth marchnata cynnwys ac edrychwch ar ba gynnwys sydd wedi bod yn llwyddiannus yn y gorffennol a ph’un a oes lle i brofi fformatau newydd. Er enghraifft, a fyddai modd i chi arbrofi gyda defnyddio fideos yn eich gweithgarwch marchnata?

Nododd 75% o’r bobl mewn arolwg a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod clo eu bod am i frandiau gyfathrebu’r hyn roedden nhw’n ei wneud

Sut allwch chi rannu’r wybodaeth ddiweddaraf gyda’ch defnyddwyr? Efallai y gallwch chi ganolbwyntio’n fwy ar ddefnyddio marchnata dros e-bost ar gyfer eich busnes bach eleni.

3. Adnewyddwch gynnwys 2020

Gall adnewyddu ac ailgyhoeddi cynnwys sy’n bodoli’n barod arwain at gyfleoedd gwych yn ogystal â bod yn fanteisiol o ran SEO. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yn y canllaw yma. Er mwyn defnyddio’r dacteg yma, dewiswch flogiad sydd wedi bod yn llwyddiannus, adolygwch y geiriau allweddol yn yr erthygl, gwnewch eich blogiad yn fwy gwerthfawr a’i ddiweddaru, ac ailgyhoeddwch y blogiad a’i hyrwyddo i’ch cynulleidfa.

Nid yn unig fydd hyn yn rhoi hwb i’ch cynnwys mwyaf llwyddiannus, ond gall hefyd wella eich SEO, cynyddu cyfraddau clicio ac arbed amser. Beth am ddechrau edrych i weld pa gynnwys sydd wedi bod yn llwyddiannus yn ystod y flwyddyn ddiwethaf (drwy’r dadansoddiad SWOT defnyddiol gwnaethoch chi gynnau) a gweld a oes lle i’w wella?

4. Meddyliwch am y ffordd rydych chi’n darparu eich cynnwys

Rydyn ni eisoes wedi sôn am sut mae pandemig COVID-19 wedi effeithio ar y ffordd rydyn ni’n defnyddio cynnwys, ond mae rhai tueddiadau sy’n bodoli’n barod yn y byd digidol sydd angen eu hystyried hefyd.

Er enghraifft, dywedodd 85% o oedolion ym Mhrydain eu bod am i wefannau ar ffonau symudol fod yr un mor dda â fersiynau ar gyfrifiaduron, a dywedodd 40% o ddefnyddwyr na fydden nhw’n defnyddio gwefan sydd heb ei hoptimeiddio ar gyfer ffonau symudol. Wrth i ragor o gwsmeriaid gyrchu gwybodaeth a defnyddio cynnwys ar ffonau symudol a llechi, dylai sicrhau bod eich cynnwys yn gweithio’n dda ar ffonau symudol fod yn rhan bwysig o’ch strategaeth adnewyddu cynnwys.

Mae marchnata dros e-bost yn parhau i fod yn ffordd effeithiol o gyfathrebu i fusnesau o bob maint hefyd, yn enwedig wrth i ni addasu i ddefnyddio mwy o ffyrdd digidol ac o ryngweithio o bell â brandiau.

Diolch i’r nodweddion segmentu a phersonoli, mae marchnata dros e-bost yn gallu bod yn ffordd effeithiol o barhau i gael cysylltiad ‘dynol’ gyda’ch sylfaen cwsmeriaid. Wedi’r cyfan, mae 78% o werthwyr wedi gweld cynnydd mewn ymgysylltiad e-bost dros y 12 mis diwethaf.

Domino's email marketing

5. Cynlluniwch eich cynnwys, ond byddwch yn barod i fod yn hyblyg 

Cynllunio eich cynnwys yw’r ffordd orau yn dal i fod, ond mae 2020 wedi dangos i ni pa mor bwysig yw gallu addasu a bod yn hyblyg. Fodd bynnag, erbyn hyn mae’n cymryd 65% yn fwy o amser i ysgrifennu blogiad nag oedd hi yn 2014, felly mae bron yr un mor bwysig i gynllunio eich cynnwys ar gyfer y flwyddyn i ddod ag yw hi i fod â strategaeth farchnata gyfredol.

Beth am ddechrau drwy edrych ar y tri mis nesaf a chynllunio pa gynnwys rydych chi am ganolbwyntio arno a sut rydych chi’n bwriadu gwneud hynny. Er enghraifft, gallech anelu i ddiweddaru eich tudalen Cwestiynau Cyffredin ar eich gwefan, dechrau creu bwrdd stori ar gyfer fideo sy’n esbonio eich nodweddion e-fasnachu newydd ac anfon e-gylchlythyr sy’n cynnwys y newyddion diweddaraf am eich cwmni.

Bydd adolygu eich cynllun cynnwys yn wythnosol neu’n fisol yn eich helpu i adolygu a yw’r cynnwys yn creu ffocws i chi ac yn dal yn berthnasol neu a oes angen gwneud unrhyw addasiadau ar sail newidiadau economaidd neu fusnes.

6. Defnyddiwch gynnwys sydd wedi’i gynhyrchu gan ddefnyddwyr yn eich strategaeth

Mae cynnwys sydd wedi’i gynhyrchu gan ddefnyddwyr yn parhau i fod yn ffocws marchnata mawr i fusnesau a bydd hyn yn parhau i dyfu.

Mewn gwirionedd, mae defnyddwyr yn dweud bod cynnwys sydd wedi’i gynhyrchu gan ddefnyddwyr 9.8 gwaith yn fwy effeithiol na marchnata gan ddylanwadwyr. Wrth i ddefnyddwyr chwilio am fusnesau dibynadwy wrth i ragor o ddatrysiadau e-fasnachu ymddangos yn 2021, gall cynnwys sydd wedi’i gynhyrchu gan ddefnyddwyr helpu busnesau bach a chanolig gysylltu â’u cwsmeriaid; mae 48% o weithwyr marchnata proffesiynol yn credu bod cynnwys sydd wedi’i gynhyrchu gan gwsmeriaid yn gallu helpu i roi elfen ddynol i’w marchnata.

Negeseuon, lluniau a fideos sy’n cael eu rhannu ar y cyfryngau cymdeithasol yw cynnwys sydd wedi’i gynhyrchu gan ddefnyddwyr, sef pobl sydd heb gael eu talu i’w rhannu. Er enghraifft, neges ar y cyfryngau cymdeithasol o gwsmer yn gwisgo’ch cynnyrch, neu adolygiad o gynnyrch. Mae pŵer cynnwys sydd wedi’i gynhyrchu gan ddefnyddwyr yn seiliedig ar ei ddilysrwydd, sy’n debyg i argymhellion ar lafar, lle mae darpar ddefnyddwyr yn gallu gweld faint mae pobl eisoes yn mwynau eich brand a sut maen nhw’n defnyddio’ch cynnyrch.

Share a Coke campaign

Allech chi ffocysu rhywfaint o’ch strategaeth marchnata cynnwys ar gynnwys sydd wedi’i gynhyrchu gan ddefnyddwyr? Beth am gynllunio ymgyrch neu hashnod ar Instagram sy’n annog eich cwsmeriaid i bostio lluniau o’u hunain yn defnyddio’ch cynnyrch, y gallech ei hyrwyddo drwy eich e-gylchlythyr?

Mae rhagor o wybodaeth am gynnwys sydd wedi’i gynhyrchu gan ddefnyddwyr a sut i annog eich cwsmeriaid ar gael yma.

Crynodeb

Mae marchnata cynnwys yn faes sy’n datblygu’n barhaus, felly mae’n bwysig cymryd amser i adolygu eich strategaeth. Gall ystyried yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu a’r tueddiadau rydych chi wedi’u gweld dros y flwyddyn ddiwethaf eich helpu i ddatblygu strategaeth gynnwys sy’n berthnasol ac sydd wedi’i hoptimeiddio ar gyfer y flwyddyn i ddod, beth bynnag sydd ar y gweill.

Gobeithio bod y chwe darn o gyngor yma’n rhoi man cychwyn da i chi, a gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am strategaethau marchnata cynnwys a sut i ddatblygu un yn ein canllaw yma.

 

Postiwyd yn wreiddiol gan Zoe Brown ar UK Domain.

Related blog posts

Growing plants
7 ffordd o fesur perfformiad eich ymgyrchoedd e-bost
Read
Email notification
Cyflwyniad i awtomeiddio e-bost ar gyfer busnesau bach
Read
Clock
Pryd yw’r amser gorau i bostio ar y cyfryngau cymdeithasol?
Read

© Nominet UK 2024