Amgueddfa Cymru

Amgueddfa Genedlaethol .cymru

Mae Amgueddfa Cymru’n gyfrifol am saith o amgueddfeydd ymhob cwr o Gymru, gan gynnwys rhai o atyniadau twristiaid mwyaf y wlad – Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, Amgueddfa Lofaol Genedlaethol y Pwll Mawr, ac Amgueddfa Genedlaethol y Lleng Rhufeinig. Roedd hi’n gwneud synnwyr perffaith felly i geidwad hanes Cymru, ym maes archeoleg, celf, diwydiant a hanes cymdeithasol a gwyddorau naturiol i gofrestru i gael enw parth .cymru a .wales.

Dyma Dafydd James, Pennaeth Cyfryngau Digidol Amgueddfa Cymru i esbonio: “Mae defnyddio enwau parth Cymru wedi ein helpu i atgyfnerthu hunaniaeth ddiwylliannol ein sefydliad, bodloni anghenion ein cynulleidfa ddwyieithog a chryfhau ‘Cymreigrwydd’ ein brand. Rydym ni’n cyrraedd at fwy o bobl ar lein drwy gyfrwng ein heitemau nodwedd digwyddiadau ac arddangosfeydd, cyfryngau cymdeithasol, cynnwys curadurol, adnoddau dysgi a gwybodaeth am gasgliadau nag a wnawn yn ein lleoliadau felly mae cael presenoldeb ar lein yn eithriadol o bwysig i ni. Mae enwau parth .cymru a .wales yn fwy amlwg nag enwau parth arferol ac maen nhw’n creu gwahaniaeth rhyngom ni ac amgueddfeydd eraill yn y Deyrnas Unedig. Mae hyn oll yn ein helpu i ddenu ymwelwyr newydd i’n saith safle ledled Cymru.”

Defnyddiwch ein peiriant chwilio i weld a yw eich enw parth delfrydol chi ar gael heddiw.

mwy o lwyddiannau

Theatr Genedlaethol
Read
National Botanic Garden of Wales
Read
Banc Datblygu Cymru
Read

© Nominet UK 2024