A ddylwn i allanoli fy SEO neu ei wneud yn fewnol?

Dyma un o’r cwestiynau mwyaf cyffredin ymhlith perchnogion busnesau bach. Mae dau ffactor i ateb y cwestiwn yma – a oes gennych chi’r amser, ac a oes gennych chi’r sgiliau?

Mae’r ddau yn bwyntiau pwysig iawn i’w hystyried, yn enwedig oherwydd bod yna lawer o fathau o arferion SEO yn bodoli yn y byd digidol, gan gynnwys:

  • SEO het ddu – nid yw’r technegau yma’n cael eu hannog ond mae’n werth gwybod beth ydyn nhw, fel eich bod yn gwybod beth i’w osgoi. Maen nhw’n cynnwys dolenni sbam, stwffio â geiriau allweddol a chuddio cynnwys, sef defnyddio testun a dolenni cudd a defnyddio bylchau yn algorithmau Google i gael hwb cyflym i safleoedd uwch ar beiriannau chwilio. Mae canlyniadau’r technegau yma’n rhai byrhoedlog ac os bydd Google yn darganfod beth rydych chi’n ei wneud, mae’n debygol y cewch eich cosbi amdano.
  • SEO het wen – arferion cyfreithlon (sy’n cael eu hargymell) yw’r rhain sy’n cael eu defnyddio i wella safleoedd peiriannau chwilio. Maent yn cynnwys cyhoeddi cynnwys o ansawdd da ar eich gwefan, optimeiddio HTML a chaffael dolenni.
  • SEO ar dudalen – gweithgareddau yw’r rhain sy’n cael eu cynnal ar dudalennau penodol ar eich gwefan i roi hwb iddyn nhw. Gall hyn gynnwys defnyddio allweddeiriau yn y maint cywir, mewnosod dolenni mewnol, ychwanegu disgrifiad meta, creu URL pwrpasol, mewnosod priodoleddau alt ac, yn bwysicaf oll, darparu cynnwys o ansawdd da i ddefnyddwyr.
  • SEO oddi ar y dudalen – dyma’r pethau rydych chi’n eu gwneud i yrru traffig i’ch gwefan gan ddefnyddio ffynonellau allanol fel y cyfryngau cymdeithasol, rhoi sylwadau ar flogiau eraill neu mewn fforymau, rhannu dolenni i’ch blogiau, cynnal ymgyrchoedd Google Ads ac anfon cylchlythyron.

Mae yna lawer o waith ynghlwm â ​​rheoli SEO, sy’n dod â ni’n ôl at y cwestiwn gwreiddiol – a ddylwn i allanoli fy SEO neu ei wneud yn fewnol?

Gwneud SEO yn fewnol

Mae yna lawer o fanteision o reoli eich gweithgareddau ar-lein yn fewnol ond mae yna anfanteision i hynny hefyd.

Y manteision

Cost-effeithiol

Efallai ei fod yn ymddangos yn amlwg, ond os gwnewch chi eich SEO eich hun, bydd hynny’n un gost yn llai i’ch busnes. Os nad oes gennych chi neu aelod o staff lwyth gwaith llawn, mae’n gwneud synnwyr i hyfforddi rhywun fel bod modd i chi reoli popeth – o’ch negeseuon blog i’ch ymgyrchoedd adeiladu cyswllt yn fewnol.

Mae rhai asiantaethau hefyd yn codi tâl ychwanegol am weithgareddau fel postio blogiau ac ychwanegu tudalen newydd i’ch gwefan. Yn dibynnu ar y llwyfan rydych chi wedi’i ddefnyddio i adeiladu eich gwefan, mae hyn yn aml yn rhyfeddol o hawdd i’w wneud eich hun a gallwch arbed llawer o arian drwy wneud hynny. Gellid defnyddio’r arian rydych chi’n ei arbed i farchnata neu hysbysebu.

Gwybodaeth fewnol

Mantais enfawr o gyflawni eich gweithgareddau SEO eich hun yw eich bod wir yn deall eich diwydiant, eich busnes a’ch sylfaen cwsmeriaid. Mae hyn yn rhoi gwybodaeth fewnol werthfawr i chi, fel sut mae’ch cwsmeriaid yn mynd ati i chwilio, siopa, prynu a rhyngweithio â’ch sefydliad yn ogystal â’r hyn mae eich cystadleuaeth yn ei wneud.

Er bod hyn wrth gwrs yn rhywbeth y gall asiantaeth ei ddysgu os byddwch yn penderfynu allanoli SEO, bydd yn cymryd amser, ac mae’n annhebygol y byddan nhw’n ymroi eu hunain yn llwyr i’ch busnes yn yr un ffordd ag y byddech chi.

Datblygu eich sgiliau

Un o fanteision gorau’r dull o’i wneud eich hun yw y gallwch ddysgu sgìl newydd werthfawr. Gall deall o ble mae’ch traffig yn dod a’r allweddeiriau mae pobl yn eu defnyddio i ddod o hyd i’ch busnes fod yn amhrisiadwy gan y bydd hyn yn eich galluogi i gyfathrebu’n fwy effeithiol â darpar gwsmeriaid a chwsmeriaid presennol.

Gennych chi mae’r rheolaeth

Os byddwch chi’n gofalu am SEO yn fewnol bydd gennych reolaeth lawn drosto – felly os ydych chi’n awyddus i rannu adolygiad newydd neu am gyhoeddi neges flog ar fyr rybudd, mae gennych reolaeth dros yr hyn sy’n cael ei bostio a phryd. Fodd bynnag, os ydych chi’n allanoli SEO, erbyn i chi anfon rhywbeth at y cwmni a’i fod yn cael ei bostio, mae’n ddigon posib y bydd y foment wedi pasio.

Yr anfanteision

Amser

Efallai y bydd gennych amser i bostio neges drydar neu bostio blog yn awr ac yn y man, ond mae’n rhaid cael cysondeb er mwyn i SEO fod yn effeithiol. Os ydych chi wir am elwa ar eich ymdrechion, mae angen i chi bostio cynnwys newydd yn rheolaidd.

Mae cynllun SEO pwrpasol yn gofyn am lawer o amser ac ymdrech, felly os ydych chi’n bwriadu ei wneud eich hun, mae angen i chi sicrhau bod gennych chi neu rywun yn eich tîm ddigonedd o’r ddau beth hyn.

Diffyg gwybodaeth

Mae algorithmau Google yn gallu bod yn gymhleth iawn ac er mwyn gwneud pethau’n fwy heriol, maen nhw’n newid yn aml hefyd. Os nad ydych chi’n arbenigwr ym myd SEO, fe allech chi fod yn defnyddio technegau het ddu sy’n gwneud mwy o ddrwg nag o les i’ch gwefan yn anfwriadol.

Er enghraifft, os edrychwn ni ar allweddeiriau. Rydyn ni i gyd yn gwybod bod allweddeiriau yn angenrheidiol i helpu i wella gwelededd eich gwefan mewn canlyniadau – os nad oes digon, fydd Google ddim yn eich adnabod, ac os bydd gormod cewch eich cosbi gan beiriannau chwilio am stwffio allweddeiriau ar eich gwefan.

Os ydych chi’n mynd i wneud eich SEO eich hun, mae’n hanfodol bod gennych chi’r wybodaeth a’r arbenigedd i wneud hynny. Mae camgymeriadau’n gallu digwydd ac mae brandiau mawr wedi gwneud rhai cyn hyn. Cafodd yr SEO Hall of Shame ei greu gan Hubspot er mwyn dangos pa bethau y dylech chi eu hosgoi.

Newidiadau yn y diwydiant

Mae’r byd SEO yn newid yn barhaus, felly un anfantais o’i wneud eich hun yw bod angen i chi fod yn ymwybodol o dechnegau a newidiadau yn y diwydiant.

Mae technegau het wen a het ddu, yn ogystal â’r hyn mae Google yn ei flaenoriaethu, yn esblygu’n barhaus, sy’n golygu y gallech chi fod yn defnyddio arferion sydd wedi dyddio neu’n gwneud rhywbeth yn ddiarwybod a all achosi i chi gael eich cosbi’n drwm o ran SEO.

Allanoli SEO

Os byddwch yn penderfynu allanoli eich SEO, bydd hyn yn golygu recriwtio asiantaeth neu unigolyn llawrydd i gyflawni eich gweithgareddau ar-lein ar eich rhan. Er y gallai fod yn fanteisiol i unrhyw fusnes ddefnyddio gwybodaeth arbenigol allanol, efallai fod gennych amheuon o ystyried y gost.

Er mwyn eich helpu i wneud y penderfyniad cywir ar gyfer eich busnes, rydyn ni wedi nodi rhai o fanteision ac anfanteision allanoli SEO.

Y manteision

Arbed arian yn yr hirdymor

Yn sicr, ni fyddai defnyddio asiantaeth SEO wych yn rhad, ond mae rheswm da dros hyn. Ar wahân i fod â’r wybodaeth a’r sgiliau i wella’ch safleoedd, maen nhw’n gwybod yn union sut gellir defnyddio’ch gwefan i gynhyrchu refeniw i’ch busnes.

Mae hefyd yn werth ystyried y gost i’ch busnes o wneud eich SEO eich hun. Pa un yw’r defnydd gorau o’ch amser, pori’r we yn chwilio am ddolenni neu gysylltu â chwsmeriaid a chynhyrchu busnes newydd?

Gwybodaeth arbenigol

Pan ddaw at y wybodaeth arbenigol sydd gan asiantaeth SEO, mae yna lawer o fanteision:

  • Profiad – os byddwch yn dewis asiantaeth sydd â hanes da yn eich diwydiant, bydd ganddyn nhw flynyddoedd o brofiad a byddan nhw eisoes yn gwybod pa ddulliau sy’n gweithio gyda’ch cynulleidfa. Bydd hyn yn dileu’r rhan arbrofi a gwallau o’r broses ac yn arbed llawer o amser ac arian i chi.
  • Adnoddau – mae asiantaethau’n defnyddio llawer o offer ac adnoddau i’w helpu i nodi’n union beth sy’n digwydd gyda’ch gwefan a’ch ymgyrchoedd marchnata. Yn hytrach nag edrych ar faint o bobl sydd wedi hoffi’ch neges Facebook neu faint o bobl a ymwelodd â’ch gwefan dros y chwe mis diwethaf, mae ganddyn nhw offer sy’n gwneud eich mewnwelediadau yn llawer mwy gwerthfawr. Mae proffilio cynulleidfa, dadansoddi cystadleuwyr, archwiliadau gwefannau, rheoli tagiau a mewnwelediadau data i gyd yn codi’ch SEO i’r lefel nesaf, ac os ydych chi am i’ch gwefan sefyll allan yn erbyn y miliynau o wefannau eraill, yna dyma beth sydd angen i chi fod yn ei wneud i achub y blaen.
  • Gwybodaeth am y diwydiant – mae cael y wybodaeth ddiweddaraf am y diwydiant – fel y diweddariad diweddaraf gan Google neu pan fydd Instagram yn newid ei algorithm – yn swydd lawn amser ynddi’i hun ac yn un y gall asiantaeth ei gwneud ar eich rhan.
  • Osgoi camgymeriadau mawr – os nad ydych chi’n deall cymhlethdodau SEO fe allech chi fod yn niweidio’ch gwefan. Mae hyn yn aml yn digwydd mewn busnesau bach lle mae perchnogion yn dechrau rheoli’r broses eu hunain ac yna’n trosglwyddo’r gwaith i aelodau eraill o staff sy’n ddibrofiad.

Tîm arbenigol ar flaenau eich bysedd

Mantais fawr o allanoli’r gwaith i asiantaeth yw eich bod yn elwa ar dîm cyfan o arbenigwyr a all gynnwys dylunwyr UX a graffig, marchnatwyr cynnwys, datblygwyr gwefannau, arbenigwyr cyfryngau cymdeithasol, arbenigwyr talu fesul clic a mwy.

Datrys problemau’n gyflym

Rydyn ni gyd wedi profi’r problemau yma, delweddau ddim yn llwytho, dolenni wedi torri heb esboniad, problemau fformatio a chodau gostyngiad ddim yn gweithio – mae cymaint o bethau sy’n gallu mynd o’i le gyda gwefan. Oni bai fod gennych sgiliau technegol, gall y pethau yma gymryd amser i’w datrys ac nid yw amser segur byth yn beth da ar gyfer eich gwefan.

Os na all pobl gael mynediad at eich gwefan gallai hyn arwain at golli refeniw a niweidio’ch enw da, ond drwy gael asiantaeth i reoli’r broses i chi, gallan nhw ddatrys y broblem yn gyflym ac yn effeithlon. Mae’n werth nodi hefyd eich bod yn llai tebygol o brofi’r problemau yma yn y lle cyntaf wrth allanoli’r gwasanaeth.

Dibynadwy

Un o’r problemau mwyaf y mae busnesau bach a chanolig yn eu hwynebu yw absenoldeb staff. Pan fydd rhywun yn sâl, yn mynd ar wyliau neu’n gadael y cwmni, mae’n anodd cyflawni’r holl waith. Os ydych yn allanoli’r gwaith i asiantaeth, does dim rhaid i chi boeni bod eich tudalennau gwe yn cael eu hesgeuluso neu nad oes gennych chi flog newydd i’w gyhoeddi.

Yr anfanteision

Llai o reolaeth

Os ydych chi’n rhywun sy’n hoffi cymryd rhan ym mhob agwedd ar redeg eich busnes, efallai na fyddai allanoli yn addas i chi. Er y byddwch chi’n cael eich cynnwys yn y penderfyniadau, bydd agweddau bob dydd ar eich SEO yn cael eu cwblhau gan rywun arall.

Traul arall

Bydd allanoli SEO yn gost ychwanegol i’ch busnes. Nid yw asiantaethau’n rhad, ond pan ddaw hi at farchnata ar-lein, rydych chi’n cael y gwasanaeth rydych chi’n talu amdano. Mae yna ddigon o gwmnïau a fyddai’n gallu gwneud eich gwasanaeth SEO yn rhad, ond mae’n annhebygol y cewch chi’r canlyniadau rydych chi’n eu dymuno.

Nid chi yw’r unig gleient

Mae’n gwneud synnwyr – ni all llawer o asiantaethau SEO na gweithwyr llawrydd gynnal incwm gydag un cleient busnes bach yn unig. Felly, un o’r problemau gydag allanoli SEO yw y bydd y cwmni’n debygol o fod yn rheoli mwy nag un cleient, sy’n golygu y bydd angen iddyn nhw rannu eu sylw gyda chleientiaid eraill.

Mae’n bosib felly na fydd modd i chi gysylltu â nhw a gofyn iddyn nhw bostio blog yn syth neu gynnal ymgyrch newydd ar fyr rybudd. Bydd angen trefnu eich ceisiadau, ond pan fyddwch chi’n rheoli eich SEO eich hun, gallwch chi wneud y gwaith ar unwaith.

Osgoi honiadau afrealistig

Bydd gwneud chwiliad cyflym am asiantaethau SEO yn cadarnhau bod yna ddwsinau o gwmnïau allan yna sy’n gwneud honiadau afrealistig y gallan nhw gael eich gwefan i ymddangos gyntaf ar Google mewn dim o dro. Peidiwch â chael eich twyllo gan yr honiadau yma – mae unrhyw arbenigwr SEO da yn gwybod ei bod hi’n cymryd amser i godi yn y rhengoedd canlyniadau.

Mae yna lawer o asiantaethau ffug, felly mae’n bwysig eich bod chi’n cymryd amser i ddod o hyd i’r un iawn. Porwch drwy eu tudalennau cyfryngau cymdeithasol i sicrhau bod ganddyn nhw ddilynwyr dilys, darllenwch adolygiadau, ac ewch i’w swyddfa os yw wedi’i ganiatáu neu trefnwch alwad Zoom i gwrdd â’r tîm.

Os ydych chi’n penderfynu allanoli’r gwaith neu ei wneud eich hun, bydd rhoi amser i weithredu’ch strategaethau SEO yn effeithiol yn golygu y gallwch fwynhau’r manteision sydd ganddo i’w gynnig.

Os oes angen rhagor o awgrymiadau a chyngor arnoch i’ch helpu i wneud penderfyniad ynghylch a ddylech wneud SEO yn fewnol neu ei allanoli, mae rhai adnoddau gwych ar gael isod:

 

Crëwyd y neges wreiddiol gan Monique Holtmanon ar gyfer UK Domain.

Related blog posts

SEO
Pum camgymeriad SEO dylai pob busnes eu hosgoi
Read
Person on computer
Hysbysebu eich busnes bach ar-lein
Read
Building blocks
11 cyngor ar gyfer creu eich gwefan gyntaf
Read

© Nominet UK 2024